Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sylwodd

sylwodd

Sylweddolodd Lingen fod tebygrwydd mawr rhwng yr ysgolion o dan adain y gweithiau diwydiannol newydd a'r hen ysgolion plwyf, gan fod y gweithiau, fel y sylwodd mewn cymhariaeth drawiadol, wedi cymryd lle'r hen faenor gynt.

Ond wrth graffu yn fanwl ar yr anifeiliaid fe sylwodd eu bod i gyd yn gwisgo spectols!

Sylwodd Anna fod rhyw foi mewn côt ddyffl lwyd ar fwrdd Playmate.

Sylwodd Alun ar y graith biws hyll oedd yn rhedeg ar hyd un ochr i'w wyneb, lle'r oedd cyllell wedi rhwygo'r croen mewn sgarmes.

Sylwodd Ibn arno ac ochneidio.

Sylwodd y gweinidog a ryddhawyd ar yr un pryd â hi ar ei phenbleth.

Campiodd y gwynt i chwythu'n ffyrnicach o'r de-orllewin, a sylwodd y rheini o bobl brofiadol ar y bwrdd fod y llong yn gorfod newid ei chwrs i yrru yn wyneb y gwynt.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, sylwodd Cymdeithas yr Iaith ar gefnogaeth gynyddol i'w galwad am Ddeddf Iaith.

Y peth cyntaf y sylwodd Gatti arno oedd y drewdod dychrynllyd a ddeuai o'r ogof.

Wrth fynd heibio i lofft Debora sylwodd fod y drws yn lled agored, a chlywai sūn symud o'r gwely.

Tua'r un amser, ac yn enwedig yn y ganrif ddiwethaf, sylwodd seryddwyr hefyd fod nifer o bethau yn yr awyr nad oeddynt yn ser gan eu bod yn edrych fel smotiau aneglur.

Sylwodd Alun fod llygaid ei ffrind yn pefrio ac ni allai beidio ƒ gwenu.

'Ond mae o'n werth 'i bwysa mewn aur er hynny, er 'i fod o mor dew a thrwm.' 'Mae'n biti na fasa fo wedi priodi a chael rhywun i ofalu amdano fo,' sylwodd Mrs Richards.

Sylwodd mai Rageur a Royal, a oedd yn naw oed ac yn hyn o lawer na Rex a âi gyntaf.

Sylwodd hefyd fod ffens uchel o weier bigog o gwmpas y lle i gyd, a rhybuddion Saesneg "PROHIBITED AREA" - "KEEP OUT!" ymhobman.

Nid oedd Malcolm Muggeridge yn gwbl ffôl pan sylwodd fod Eden wedi ei nychu.

Wedi teithio am rai dyddiau, sylwodd Idris fod y wlad o'i amgylch yn newid.

Sylwodd yn sydyn ar bloryn pen gwyn yn y plyg rhwng ei drwyn a'i foch.

Roedd wedi ymgolli cymaint yn ei gynllun, fel na sylwodd eu bod yn nesu at y wernen.

'Mae hi'n gyfeillgar iawn,' sylwodd Rhys, gan gyfeirio at Cli%o.

Sylwodd hefyd ar y dystiolaeth am anniweirdeb yn ardaloedd Bagillt a Phenarlâg.

Fe sylwodd fod y tŷ'n dawel iawn.

Yn sydyn, sylwodd ar rywbeth yn disgleirio ymhlith y dinistr.

Sylwodd Anna fod William wedi cochi'n ofnadwy, nes bod y plorynnod ar ei dalcen yn wyn ar wyneb y croen.

Mae gen i rhyw dair gwaith yn fwy o fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf eleni nag oedd gen i pan o'n i'n dechra' er enghraifft.' ' Sylwodd ar ddirywiad graddol yn safon addysg y myfyrwyr sy'n dod i mewn hefyd meddai.

Sylwodd yn achos siroedd Brycheiniog, Maesyfed ac Aberteifi, ....

'Dydi ysbrydoliaeth ddim yn un o 'nghryfdera i,' sylwodd Paul yn hwyliog.

Caeodd ei lygaid a dodi'i ddwylaw dan ei ên: chwyddodd gwythi%en yn ei arlais a sylwodd y Rhaglaw ar y pentwr iach o gŵyr du yn ei glust chwith.

Tra oedd yn sefyll yno'n bendrist sylwodd drwy gil ei lygad fod rhywun yn dod i mewn i'r parlwr.

Roedd y golau mor gryf nes bod Meic yn gorfod codi ei law i gysgodi'i lygaid, a dyna pryd y sylwodd ei fod yn gwisgo maneg ledr drom, fel dyrnfol marchog canoloesol.

'Y slaten 'na'n edrych yn ddanjeris, Mr Huws, sylwodd y Ddynas fel barcud.

Sylwodd yr hen ŵr ar yr ystum a gwenodd yn egwan.

O'i chyferbynu ag eiddo ei gūr, syml a phlaen oedd gwisg lwyd Lowri Vaughan, sylwodd Meg gyda pheth malais, a dygwyd pob mymryn o liw o'i hwyneb main a hir gan y ffisiw brown a fradychai yn hytrach na chuddio teneurwydd ei bronnau.

Wrth ddod i lawr sylwodd ar res o oleuadau gwyrdd a choch a sylwodd fod Abdwl yn llywio i lanio rhwng y ddwy res o oleuadau.

Yna sylwodd y milwyr mai ymladd yn erbyn ei gilydd a wnâi'r creaduriaid.

Sylwodd fod perwig y ffermwr o'r Bala yn simsan, a'i wraig - neu pwy bynnag oedd hi - yn ei dyblau yn chwerthin am ei ben.

Sylwodd fy nhad fod yr acer ffacbys yn cael ei phori i'r pridd ac nad oedd gobaith am gnwd yno.

Ond chwarae teg, os sylwodd o gwbl ni ddywedodd ddim, oddieithr dymuno'n dda imi.

Roedd Idris ar fin rhoi'r afal iddi pan sylwodd ar ymddygiad y bêl.

Ond ddydd Iau diwethaf mi sylwodd staff yr atomfa bod rhywfaint o'r gwymon ger yr orsaf wedi troi'n wyn.

Yr oedd yn sefyll ar un goes, sylwodd, fel iâr.

sylwodd m.

''Dyn nhw wedi symud Pwllheli ne' rwbath?' ''Da ni wedi talu am gal mynd i weld - The First of the Few.' 'Do'n tad.' 'Nid i fynd â hwch Beudy'r Gors at bae.' 'Ifan Paraffîn dreifar sybmarîn.' 'Petha' ifanc 'ma wedi mynd yn gegog, Ifan Ifans,' sylwodd William Huws a ddioddefasai'r un o math enllib yn flaenorol.

Dim ond bryd hynny y sylwodd y pedwar fod un o'r dynion ar ol ac yn sgrialu ar hyd y rheiliau rhydlyd i dywyllwch yr ogof; roed yn cario rhyw fath o sach ar ei gefn.

Yr eiliad honno sylwodd fod sach blastig wen wedi ei gwthio i'r dorlan, rhwng gwreiddiau'r goeden a'r llwybr uwchben.

Ar ôl dechrau ar y gwaith agorodd y sach gyntaf o fratiau a sylwodd ar bluen hardd.

Sylwodd Sylvia mor ddi-gychwyn oedd hi, a gwenodd.

Sylwodd Geraint fod yna ffenestr, neu yn hytrach fwlch bychan a barrau haearn yn ei gau, yn y wal rhwng yr ystafell lle'r oedden nhw a'r nesaf ati.

Tra'n siarad â'r hen wraig, sylwodd y gūr ar lun o'r ferch ifanc ar y silff ben tân.

Sylwodd fod y bobl yn '...' i'r ysgolion Sul, ac yno ni chaent ond y gallu i ddarllen yn arwynebol.

sylwodd debra fod rhywun yn eistedd yn sedd flaen y car, ond doedd hi ddim yn gallu ei weld e'n iawn am fod ei wyneb wedi ei guddio y tu ôl i bapur newydd.

Ni fedrai Fred gredu'r stori o gwbl a sylwodd fod golwg gythryblus dros ben ar Ali.

Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y pier, sylwodd fod gwylan fôr yn eu dilyn.

Sylwodd Dilys ar gymylau'n dechrau crynhoi ac roedd hi am iddyn nhw droi'n ôl rhag cael eu dal yn y glaw.

Wedi troi, sylwodd ar Llio yn crynu rhwng y cynfasau a safodd i fyny'n syth.

Sylwodd Joni mai The Sun oedd ei bapur yntau.

Cyn gynted ag y gwelodd hi Mr Sugden y bore 'ma fe sylwodd fod ei fwstas militaraidd yn llawer duach nag ydoedd amser swper neithiwr, a'r gwêr du a ddefnyddiai i sicrhau hyn a achosodd y llinellau budron ar ei liain !

Sylwodd fod Fiesta glas Edward Morgan wedi ei barcio ddau ddrws o'i gartref.

Dw i ddim wedi'i gweld hi ers oes Adda.' Ni sylwodd neb ar yr olwg ddu ar wyneb Ifan.

Sylwodd y ddau fynach arno'n syth pan alwodd o arnyn nhw ond bu'n rhaid i un gydio ym mhenelin y Priodor.

"Rhaid," sylwodd meddyg arall.

Sylwodd Saunders Lewis ei fod yn gyfarwydd ê hierarchiaeth yr Eglwys.

Sylwodd y Cyng Huws: "'Roedd darllen yr adroddiad hwnnwn'n dod a dagrau i lygaid rhywun.