Gwnânt o Langors-fach symbol o'r genedl gyfan.
Wrth ymuniaethu â'r meirwon trwy gyfrwng y symbol cyll Gŵr Glangors-fach y gallu i fyw fel dyn.
I hyrwyddwyr ieithoedd lleiafrifol, iaith yw'r symbol grymusaf oll gan ei bod yn elfen hanfodol mewn unrhyw ymgais i godi ymwybyddiaeth a chyflwyno ideoleg, sef y camau cyntaf tuag at greu model o drosglwyddiad iaith a diwylliant hyfyw.
Symbol y cyfeillgarwch a'r malu yw'r cwt bugail a adeiledir yn llythrennol ar lwyfan a'i falu drachefn.
Y drafferth yw ei bod hi'n haws o lawer i gynulleidfa dderbyn alegori yn hytrach na symbol neu fyth.
A chaiff llawer un drafferth i weld mai gwaed misglwyf ydyw gwaed y Widdon Ddu, ac mai symbol o gedor merch ydyw barf Dillus, a phen y Twrch Trwyth yn 'groth wrywaidd', gyda'i glustiau'n labiae majorae.
Mae'r 'hydref' yn yr awdl yn symbol o ddioddefaint a dadfeiliad y byd ar y pryd.
Mae'n symbol o fywyd tragwyddol am ei bod yn goeden sy'n byw am ganrifoedd gan gysylltu'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Heb fentr newydd gwelir fel y gall y Wyddeleg ddirywio'n gyflym i fod yn ddim amgen na symbol ffurfiol o hunaniaeth y Gwyddyl.
Mae'r goeden yn symbol o'r Atgyfodiad ac fe i defnyddir i addurno eglwysi adeg y Pasg.
Mae'r strategaeth felly yn symbol o'r consensws newydd sy'n bodoli ym myd busnes a datblygu economaidd yng Nghymru ac yn Ewrop ac sy'n anwybyddu'r hen wrthgyferbyniad rhwng y 'Wladwriaeth' a'r 'Farchnad' a lywiodd gymaint o'r trafod yn yr wythdegau, a hynny trwy osod nod strategol sy'n ymgais i gyfuno buddiannau pawb yn y gymdeithas ar lefel ranbarthol.
Y mae geiriau Iesu yn y Swper Olaf yn cyfeirio at gyfamod newydd ac at waed fel symbol o'r cyfamod newydd hwnnw.
Yn aml ceir darlun o deuluoedd hapus, amgylchfyd glân yn ogystal â'r enfys, sy'n symbol o heddwch rhyngwladol.
Ydech chi'n meddwl fod y symbol yma o Iago Prytherch wedi mynd i bob ystyr, erbyn hyn?
Symbol yw'r Gors o'r elfen ym mhrofiad dyn na ellir ei hosgoi, a'r gosb a ddaw yn sgil anonestrwydd.
Y mae un ohonynt, sef Eglwys Arch y Cyfamod, yn amlwg iawn ynghanol môr o flociau fflatiau salw a hyd yn oed ei siâp - yn llythrennol, arch enfawr - yn symbol o arwahanrwydd ffydd mewn cymdeithas seciwlar ac i bob pwrpas, dotalitariadd.
Cerddodd y protestwyr ar draws tir gwaharddiedig yr awyrlu i blannu croes fel symbol o heddwch a gwrthwynebiad i'r fath ormes.
Pryddest sy'n cyfateb yn thematig i awdl y Gadair, gyda'r orsaf rocedi yn Aber-porth yn symbol o allu dinistriol dyn, a'r 'hil' yn y bryddest, gwerin milltir sgwâr y bardd, yn cynrychioli grymoedd cynhaliol a chreadigol dyn ar hyd yr oesoedd ‚ dyn fel dinistriwr a dyn fel goroeswr a dyfeisiwr.
Cwtogodd yr ynadon ar yr iawndal i'r Coleg trwy orchymyn o'r diffynyddion dalu £300 yr un i'r Coleg a £25 yr un at gostau cyfreithiol (1/3 o'r swm a hawliwyd gan yr erlyniad). Gwnaeth y ddau ddiffynydd dorri'r rhyddhad amodol yn syth gan ymuno ag aelodau o Gymdeithas yr Iaith i dorri darn o dir i blannu coeden afal o flaen prif fynedfa'r C.C.T.A. ym Mhibwrlwyd fel symbol o'r angen am gychwyn newydd.
Symbol ffalig a ffrwythlondeb a'r darnau arian (fel yn ôl traddodiadau'r Rhufeiniaid) yn cadw i ffwrdd yr ysbrydion aflan.