Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

symbolaidd

symbolaidd

'Mae pob fersiwn o'r darlun symbolaidd ac adnabyddus yma yn gosod nid yn unig sialens dechnegol ond yn ein galluogi i godi nifer o gwestiynau am sefyllfa bresennol ei gwlad.

Sef o ryw fan deallusol lle nad oes odid neb yn colli cwsg ynghylch iawn amseriad y Farn Fawr nac yn debyg o lindagu ei gystedlydd os nad yw'n cytuno gant y cant ag ef ynglŷn â natur y Drindod ac arwyddocâd symbolaidd y planedau; ond man, serch hynny, lle cydymdeimlir ag amcanion yr ysgrifennwr crefyddol fel ag amcanion pob llenor.

Mae hanes y briodas yn digwydd ar lefel myth yn hytrach na nofel, sef fel patrwm o ddigwyddiadau ag iddynt ystyr symbolaidd nas gwireddwyd yn uniongyrchol drwy gysylltiadau ac amgylchiadau cymdeithasol y byd sydd ohoni.

Mae'r ystum ei hyn yn symbolaidd, a dweud y lleiaf, a byddai'n anodd dod o hyd i swydd lai gogoneddus.

Fodd bynnag, bu'r brotest symbolaidd a'r ddameg yn effeithiol, a throes y storm yn gyfrwng i ddangos maint 'cariad y darllenwyr annwyl tuag at ein cylchgrawn'.

Mae'n cyfleu'r digwyddiadau hanesyddol neu chwedlonol heb foesoli na thynnu gwers a heb geisio bod yn symbolaidd.

Megis yr ymostyngodd Culhwch i Arthur trwy gael ei foeli, neu dorri'i wallt, fe fu raid i Ysbaddaden dderbyn ei sbaddu'n symbolaidd.