Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

symbylu

symbylu

Fodd bynnag, sylwyd gyda'r ddau hyn nad oedd hynny'n digwydd, a'r rhesymeg tu ôl i hynny oedd fod yr haen o lwch llif yn cadw gwres yr haul rhag treiddio i mewn i'r ddaear a'i chynhesu a symbylu bacteria i gyflawni eu gwaith o gynhyrchu yr elfen nitrad sy'n gyfrifol am greu swm o dyfiant.

Mae'r carbohydradau ynddynt yn symbylu cynhyrchu ensymau treulio; y selwlos yn hybu symudiadau cyhyrau'r cylla; a'r alcalinedd yn cynorthwyo gwaredu deunydd gwastraff.

Cyfeiriodd hefyd at y drychiolaethau o brifeirdd (primitive poets) neu'r 'cyntefigion Beirdd Ynys Prydain', nid amgen, Plennydd, Alawn a Gwron, sylfaenwyr dysg y Beirdd (yn ôl Iolo Morganwg), y drindod a fyddai'n symbylu'r Awen yn ymwybod y Beirdd a ddeuai i'r cylch.

Mae'r llyfr hwn yn cyflwyno cemeg fel y mae'n effeithio ar ein bywyd beunyddiol ac, wrth ddefnyddio'r hyn sydd i'w gael yn hwylus yn y catref mae'n symbylu plant i ymchwilio ac i sylwi o safbwynt gwyddonol.

Ein dadl syml yw y dylai'r Cynulliad wneud popeth o fewn ei allu i gydlynu a symbylu a gweithredu'r fath strategaeth. Petai'r Cynulliad yn rhoi neges glir a phendant o'r dechrau ei fod yn gorff sy'n gosod pwyslais creiddiol ar y Gymraeg byddai hynny yn sicr o gael effaith gadarnhaol eang ar bob math o gyrff a sefydliadau eraill yng Nghymru yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Mae gwir angen cynnal ymchwil bwrpasol i ddarganfod ffyrdd deniadol ac effeithiol a fydd yn ysbrydoli a symbylu pobl ifanc i ddefnyddio'r iaith yn fwy naturiol.

Mae gwyddonwyr eraill o Rwsia wedi dangos fod dynion yn gweithio'n well ac yn gywirach wedi cael ginseng am ei fod yn symbylu'r gyfundrefn nerfol.