Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

symffoni

symffoni

Ymysg galwadau diweddar bu Cerddorfa Symffoni Detroit, Cerddorfa Symffoni Dallas, Cerddorfa Ffilharmonig Newydd Japan, Orchestre Philharmonique de Radio France, Cerddorfeydd Symffoni Radio Hamburg a Cologne, Cerddorfa Genedlaethol Rwsia, a Camerata Academica Salzburg.

Roedd symffoni hynod swynol yn cael ei chwarae a chefais ar ddeall wedi i'r rhaglen orffen mai Symffoni Cyntaf Vasily Sergeyevich Kalinnikov ydoedd.

Roedd yn Arweinydd Cynorthwyol Cerddorfa Symffoni Boston rhwng 1990 a 1993, gan arwain Gwyl Tanglewood a Chyfres Danysgrifio Boston.

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei chyfrif yn un o'r goreuon ymysg cerddorfeydd symffoni gwledydd Prydain.

Byddaf yn clywed hefyd gri'r gylfinir yn y rhan agoriadol o'i wythfed symffoni.

Wrth gyfiawnhau cynnwys clychau gwartheg yn symudiad araf ei Chweched Symffoni, mynnodd Mahler mai dyna'r sŵn dynol agosaf oll at yr awyr a'r unigeddau.