Nid gweslyfr mewn methodoleg ydyw, yn ôl yr awdur, ond cyflwyniad i astudio'r Gymraeg, gosodiad diymhongar iawn, a dweud y gwir, gan fod y bennod olaf, o leiaf yn canolbwyntio ar ddisgrifio methodoleg un ysgol ieithyddol, yr Ysgol Systemig, y gellir ei dilyn ar gyfer gwneud disgrifiad syncronig o'r Gymraeg, ac y mae'r bennod o'i blaen yn olrhain y datblygiadau yn nulliau ymchwilwyr i'r tafodieithoedd.
(ii) Ieithyddiaeth Ddisgrifiadol, yn canolbwyntio ar ddadansoddi a disgrifio'n syncronig, hynny yw, mewn cyfnod arbennig neu, nodweddion ieithoedd unigol, gan gynnwys iaith ardal (tafodiaith) neu ddosbarth arbennig neu hyd yn oed iaith unigolyn (idiolect); (iii) Ieithyddiaeth Gymharol, yn cynnwys cymharu dau gyfnod yn hanes un iaith neu'r berthynas rhwn nifer o ieithoedd; astudiaeth hanesyddol, ddeiacronig y gelwir y math hwn o waith ieithyddol; (iv) Ieithyddiaeth Gymwysedig.
Syniai Saussure am iaith fel chwarae gwyddbwyll, lle y bo i'r darnau eu gwerth a'u swyddogaeth a lle y bo'n rhaid eu symud yn ôl rheolau arbennig; bod dwy wedd ar astudio iaith, sef y wedd syncronig, disgrifiad o gyfansoddiad iaith, ei sieniau, ei geiriau a'i gramadeg mewn cyfnod arbennig, a'r wedd ddeiacronig, y cyfnewidiadau sy'n digwydd i iaith dros gyfnod o amser; a bod rhai gwahaniaethau rhwng Langage, gallu cynhenid yr hil ddynol i gyfathrebu trwy gyfrwng arwyddion llafar confensiynol, la langue, y system ieithyddol fel y mae'n bod yn meddwl pawb sy'n defnyddio'r iaith, a la parole, arferion llafar ac ysgrifenedig y siaradwyr, yr unig wedd y gellir ei hastudio.