Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

synfyfyrio

synfyfyrio

Synfyfyrio wedyn am orchest David Davies yn y De gyda'r Fasnach Lo a Dociau'r Barri.

Mewn soned arall, 'Y Rhufeiniaid' (Synfyfyrio), mae ef yn ceryddu'r gwŷr a adeiladodd yr Ymerodraeth Rufeinig, nid am fod yn ormweswyr creulon a diystyrllyd o hawliau pobloedd eraill, ond am fethu â sylweddoli na fyddai eu gweithiau hwy yn parhau yn dragwyddol.

Caeodd hithau'r drws ac aeth i eistedd wrth y tân, lle'r oedd Twm a Bet yn synfyfyrio'n gysglyd i ganol y fflamau.

Eisteddais wrth y tân yn y gegin am rai oriau yn synfyfyrio.

Noder ymhellach nad oedd y dyn yn helpu i wneud bwyd nac yn helpu i lanhau'r tŷ: cerdded y mynydd y mae Morgan yn 'Buddugoliaeth Alaw Jim' nid cynorthwyo'i wraig er bod Tomi'r crwt wedi bod yn beryglus o dost; mynd 'i ben y drws i synfyfyrio' y mae Wat Watcyn yn 'Diwrnod i'r Brenin,' a mynd yno i 'ddisgwyl am ei frecwast' er bod y dyddiau i gyd yn wag iddo; a beth a wna Idris yn rhan agoriadol 'Gorymdaith' ond gorwedd ar ei wely?