Da ni'n teimlo fod yna dipyn o ôl y Stereophonics ar y gân newydd, sef Nosweithiau Llachar / Dyddiau Di Galar, yn gerddorol ac o ran y geiriau ar syniadaeth.
Fel y nododd Gruffydd wrth adolygu'r ddrama yn Llenor yr haf hwnnw, ffurf newydd ydoedd na chai'r clod a haeddai er ei bod yn 'ymgais onest i dorri llwybr newydd.' Llwybr ydoedd a wyrai oddi ar gonfensiwn drama'r Gegin Gymreig yn null Beddau'r Proffwydi, o ran plot a hefyd o ran syniadaeth gynhaliol.
Yng ngweddill y bennod, canolbwyntio ar y fframwaith disgrifiadol sy'n diddori yr awdur ei hun, sed Gramadeg Systemig, a ddatblygwyd gan M A K Halliday dan ddylanwad syniadaeth ei gyn- athro, J R Firth, am lefelau dadansoddi, sef Sylwedd, maes Seineg a Graffeg; Ffurf, maes hyn gan Rynglefelau: Ffonoleg ac Orgraff, y rhynglefel sy'n cysylltu Sylwedd a Ffurf, a Chyd-destun (neu Ystyr), sy'n cysylltu Ffurf a Sefyllfa.
Ar un wedd, fe fagais i barch mawr at y fyddin - a sylweddoli cyn lleied a wyddwn am eu gwaith, eu syniadaeth a'u harferion cyn hynny.
Dichon na fydd newid o bwys yn syniadaeth y mudiad na'i ddulliau o weithredu.
Serch hynny, i fudiad a froliai ei fod yn anelu at chwyldroi amgylchiadau cynhaliol yr iaith Gymraeg, rhaid cyfaddef mai gwendid oedd y diffyg canolbwyntio ar syniadaeth.
A rhaid cofio, wrth gwrs, fod y gred y gallai Ailddyfodiad Crist ddigwydd yn fuan yn beth hynod gyffredin ymhlith cyfoeswyr mwyaf uniongred Llwyd, ond nid oedd hynny'n golygu eu bod yn cofleidio syniadaeth Gwyr y Bumed Frenhiniaeth.
Cynrychiolydd yr hil ddynol a'i dirprwy oedd Crist yn ôl syniadaeth Paul, a fu'n ufudd hyd angau'r groes a thrwy hynny gymodi dyn â Duw.
Gresynai Cynddylan fod cymaint o ôl syniadaeth William Owen Pughe - ar y cystadleuwyr a barnai Hawen i'r beirdd eu harwain 'i diroedd gwynfaol - rhamant disylwedd...' Diystyrwyd gwersi ieithyddiaeth gymharol yn llwyr: 'Ofnwn, pe cyfieithid rhai darnau o rai o'r pryddestau hyn, y câi y philistiaid Seisnig wledd na chawsant ei bath er ys llawer dydd.
Yr hyn y mae'r adroddwr yn chwilio amdano yw person sydd â hunaniaeth sydd yn annibynnol ar y naill Almaen a'r llall, un sydd yn medru siarad heb fod ei eiriau yn adlewyrchu syniadaeth y naill wladwriaeth na'r llall.
Trwy ei syniadaeth gefnogol i'r Chwyldro Ffrengig, a fynegir yn y cyfrolau hyn, y daethpwyd i adnabod Iolo Morganwg fel 'Bard of Liberty'.
Bydd yr astudiaethau hyn yn codi o'r gwaith a gyflwynir yn ystod yr oriau cyswllt, wedi'u seilio ar ddamcaniaethau a sylfaen academaidd, ac yn cynnig cyfle i asio'r syniadaeth a gyflwynir gydag ymchwil dosbarth ar raddfa fechan.
Gan nad yw'n rhoi gofynion ar y sector preifat, mae'n dilyn syniadaeth Dorïaidd na ddylid ymyrryd yn y farchnad, ac mai'r farchnad sydd yn teyrnasu dros bob grym arall.
Ond wedyn, dim ond dadansoddiad athronyddol gofalus a wna'r tro i ddangos na ellir alltudio Duw a phwerau ysbrydol â syniadaeth mor dlodaidd.
Gwelir gwreiddiau'r syniadaeth honno yng ngwaith athrawon iaith y saithdegau.
Delwedd mewn perthynas â syniadau aberthol, ond yn unigryw yn ei syniadaeth, yw honno am Grist fel yr un a ddioddefodd yn ddirprwyol.
Hefyd yr oedd awdl Gwenallt yn Babyddol ei syniadaeth a'i delweddaeth, ac ofnai llawer ar y pryd, W. J. Gruffydd, er enghraifft, fod Catholigiaeth ar gynnydd yng Nghymru.
Nid gormod dywedyd bod y Saint, yn ôl syniadaeth a chredo'r bobl, megis angylion, a phrin y gellid meddwl am na helynt na thrafferth na llafur, na ellid mewn rhyw fodd alw cymorth y Saint ato a hynny'n bur effeithiol.
Radicalaidd-anghydffurfiol) o'r Eglwys yn y ddeunawfed ganrif, gan bortreadu Theophilus fel esiampl o fywiogrwydd eglwyswyr yn y cyinod hwnnw; mae'n mynd hefyd y tu hwnt i lawer o'n syniadaeth confensiynol ni a dangos sut oedd modd yn y cyfnod hwnnw gydblethu Cymreictod a Phrydeindod gydag arddeliad.