Synied am y genedl yn nhermau'r iaith Gymraeg y mae Sion Dafydd Rhys yma: y mae iaith a chenedl yn gyfystyr iddo, ac y mae'n cydnabod bod bygythiad gwaelodol i'w bodolaeth yn y math o feddylfryd unoliaethol a ymgorfforir, er enghraifft, yn y Ddeddf Uno.
Maent yn synied amdano fel gŵr di-liw, di-rym - dyn diymadferth a reolir gan eraill.
Heb os nac onibai, prif arwr yr History i Syr John, os gellir synied am arwr o gwbl ynddo, oedd ei hen daid Maredudd ab Ifan ap Robert, sylfaenydd y teulu yn Nanconwy yn ail hanner y bymthegfed ganrif.
Y mae'n synied am bechod fel petai wedi ei ragarfaethu, ac y mae'r ateb a gynigir yn ymddangos yn ddewis arwynebol o hawdd o'i gymharu â'r ufudd-dod llwyr y mae Duw yn ei hawlio.
Gallai un anghyfarwydd â'r grefft synied bod y saer yn gwastraffu ei amser gan mor ychydig o gynnydd a datblygiad a ellid ei ganfod.