Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

synnai

synnai

Synnai Nofa at eu diffyg gofal a gwyliadwriaeth, ond gwyddai'n reddfol erbyn hyn nad oedd yna lawer o bobl yn y wlad a fyddai'n gallu peri problem iddo.

Synnai ato ei hun yn y bore ac at ei lyfrdra yn ofni rhithiau disylwedd y nos a'r muriau symudol.

Cais syml i benderfynu sylfeini ydoedd, ac ni synnai "A.E" pe byddai "cenhedloedd penllwyd gan ddoethineb wleidyddol" yn dirmygu'r ymgais i "sefydlu meddwl gwleidyddol gan genedl hunan- lywodraethol newydd, neu ddamcaniaethau am wareiddiad yn cael eu trin o gwmpas crud Gwladwriaeth yn ei babandod".

Synnai Glyn nad oedd yn cyffwrdd y llyw nac yn rhoi ei law ar y pilar a reolai'r awyren.

'Rhoddi y vagabond pass i'r Jacs fynd ati i syllta', oedd hyn yng ngolwg Brutus, a synnai fod gweinidog mor uchel ei barch â Phylip Griffiths wedi'i iselhau ei hun drwy gymeradwyo'r arfer.J Dwg hyn ni at gymwysterau'r gweinidog ymneilltuol yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Unwaith eto roedd gosgordd o'u cwmpas, gosgordd fud a synnai fod brodor cyffredin yn cael y fraint o gyfarfod â'u brenin.

Synnai wrth dynnu ar ei ganllaw gwrywaidd ei getyn, ei fod wedi siarad a dywedyd cymaint wrth Mrs Paton Jones, a'i bod hithau wedi llwyddo i dynnu cymaint o wybodaeth ohono'n ddiymdrech.