Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

synnu

synnu

Os mai dyma eich darlun chi o lyfrgell, yna ewch draw i'ch llyfrgell leol ac fe gewch eich synnu!

Eithr er iddynt wrthsefyll y drefn Seisnig yr oedd dylanwad Seisnigrwydd yn gryf yn eu plith, ac ni ddylid synnu at hynny.

Synnu yr ydw i fod yna gymaint o bobl eraill yn synnu.

Mi fuo am gyfnod cyn priodi â gwraig weddw ydi hi ar hyn o bryd, a 'dwyt ti'n synnu dim at hynny wedi byw o dan yr un gronglwyd â hi am wsnos - cyn priodi mi fuo'n gwasanaethu hefo rhyw nob a'i wraig - Syr Simon a Ledi Gysta chwedl hitha, ac mae'r rheini wedi troi yn 'i phen byth wedyn.

Hyd heddiw byddaf yn synnu gweld cymaint o oleuni yma yn y nos.

Yr oedd y profiad newydd hwn yn llawenhau'i ysbryd, a'i synnu, braidd, gan mor anesmwyth oedd hynt y llongau yn nygyfor y tonnau a oedd dipyn yn fwy ymchwyddol na neithiwr.

Dyna drist fod arwydd o gymdogaeth glo\s yn rhywbeth i synnu a rhyfeddu ato yma.

Dywed Undeb Rygbi Cymru nad oes dim a all ef ei wneud yn y mater - a dydi hynnyn synnu neb - a phenderfynodd clwb Chris Stephens, Penybont, mai dim ond dirwy yr oedd yn ei haeddu - nid gwaharddiad.

Yfodd hithau ei siâr, a synnu at y blas siarp.

Mewn gwirionedd, wrth ddarllen y llyfr, y mae dyn yn cael ei synnu fod cynifer o bobl amrywiol wedi cyfrannu at y dystiolaeth, nid yn unig trwy ysgrifennu a siarad, ond hefyd trwy weithredu.

Rydw i wedi synnu..." "Rhaid i mi edrach yn llygad pob ceiniog, beth bynnag, a minna ar fy mhensiwn.

Ble bynnag yr ewch y dyddiau hyn fe glywch son yn y clybiau a chan yr unedau rhyngwladol am yr hyfforddwyr syn arbenigo mewn amddiffyn. Maen elfen hanfodol i bob tîm a rwyn synnu bod digon o le gan rai chwaraewyr i ymarfer yng nghanol yr holl hyfforddwyr hyn.

Mae'n demtasiwn fawr i adolygu gweledigaeth yr Athro Glanmor Williams trwy synnu at yr enwau, y digwyddiadau a'r sefydliadau nad yw'n gweld yn dda eu crybwyll.

Dangosodd y modelau steiliau hyfryd a chreadigol, a chafodd y gynulleidfa ei synnu at y technegau newydd sydd ar gael.

Tua chanol dydd, ac yntau'n teithio trwy un o'r pentrefi, a'r trigolion yn synnu a rhyfeddu o weld y bêl yn ei arwain, daeth ar draws crwydryn yn eistedd wrth ochr y ffordd.

Dydw i ddim wedi fy synnu o gwbwl fod merched yn gwneud yn well na bechgyn yn eu arholiadau ysgol.

Wrth ei godi'n ofalus roedden nhw'n synnu ac yn llawenhau pan riddfannodd y bugail a rhwbio ei lygaid.

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.

Ac rwy'n synnu na fyddai llywydd y Kirk wedi pwysleisio hynny yn ei apêl am bregethwyr tanbaid.

'Ond sa i'n synnu a dweud y gir.

Os oedd y cread yn peri syndod i'r Iddew gynt, dylai'n gwybodaeth helaethach ni amdano beri inni synnu hyd yn oed yn fwy.

Cefais fy synnu'n arw gan arddull amrwd ac anaeddfed llawer o'r hysbysebion, ar y radio'n arbennig.

Ni chymerasai ddim diddordeb yn y pethau yr arferai Abel a minnau ymgomio yn eu cylch; a bu+m yn synnu lawer gwaith wrth feddwl mor ddiamgyffred oedd hi am y pethau yr oedd ei brawd yn enwog ynddynt.

Mae'n wastad yn fy synnu sut mae plant yn hapus i ddarllen yr un hanesion cyfarwydd dro ar ôl tro mewn diwyg a geiriau gwahanol.

Os oedd ei eirie'n ein synnu, felly hefyd ei weithredoedd ac o fewn llai na phythefnos i'r mab afradlon ddychwelyd adre roedd yn enwi ei garfan gynta un a honno'n cynnwys cymaint ag wyth chwaraewr oedd heb enn;lll cap llawn i Gymru o'r blaen.

Synnu fod cymaint o bobl yn meddwl ac yn credu bod y rhyfel yma yn anocheladwy.

Gŵr Ceri!' Ei thro hi oedd synnu rwan.

Doedd yr un weithred fudr gan aelodau'r hil ddynol yn ei synnu ef bellach.

Rwyn synnu mewn ffordd.

Rwan, doedd dim byd a wani pobl ar fws yn ei synnu, na dim byd a adawyd ar ôl ganddynt.

Roeddwn i wedi synnu, gan fod rhai o'r ffenestri heb gaead o unrhyw fath, a byddai'n ddigon hawdd clywed swn siarad pe bai rhywun yno.

Dyna ddangos cyn lleied wyt ti'n ei w'bod am beth sy'n mynd 'mlaen yn y lle 'ma.' 'Byddet ti'n synnu faint dw i'n ei w'bod am bawb a phopeth.

Ond y mae yna amod." "O, beth ydi'r amod?" "Dy fod ti'n rhannu'r cyfrifoldeb efo fi." "O Alun, rydw i'n synnu atat ti, yn gofyn imi dy briodi di yng ngŵydd dy fam fel hyn." "Wnei di?

Nid oedd yr holl bapurau da-da a phecynnau sigarennau'n synnu dim arno, nac ychwiath y sosej rôl wedi hanner ei chnoi oedd wedi ei gwthio i lawr ochr y sêt hanner ffordd i lawr y bws ar yr ochr chwith.

Roedd Gwenhwyfar yn synnu at bryder Medrawd, a'i benderfyniad i hela'r carcharorion coll.

"Paid â dweud nad wyt ti ddim yn gwybod yr hanes!" Roedd hi'n amlwg bod yr ych wedi'i synnu'n fawr.

Pan glywyd am hyn fuasech yn synnu cynifer o ferched hardd ceidwadol ifanc oedd eisiau bod yn bartneriaid i mi am y noson!!

Ni wyddai Hadad ddigon am ddaearyddiaeth ethnig a ieithyddol gogledd Affrica i synnu bod bagad o Dwaregiaid yn ymddangos fel hyn rhyw wyth can milltir i'r dwyrain o ffiniau eu cynefin, ac ni ddaeth fyth i ddeall y rheswm am y siwrnai.

A does dim lot o amynedd gan gefnogwyr na pherchennog Caerdydd a sa i'n synnu dim na fydd pethe'n newid.

Ond fel mae hi, dwi'n synnu bod y ddau dîm wedi mynd i edrych am bethe eraill.

Mae yma nifer da o'r dyfyniadau mwyaf arferedig yn yr iaith Gymraeg, a rhaid imi gyfaddef imi gael fy synnu wrth weld enwau'r rhai a'u rhoes yno: dynion a berchid yn fawr ac a gyfrifid yn 'rhywun' yng ngolwg y cyhoedd.

Argian, dwi wedi synnu gweld gymaint o dai a'r rheini'n sownd yn 'i gilydd i gyd.

Yn wir nid gormod ydi dweud i'r rhan fwya o'r chwaraewyr gael eu synnu gan ei agwedd hollol benderfynol a sicr.

Y diwrnod prudd hwnnw pan oeddem yn ei gladdu, a phan oeddwn yn ymwybodol yn hytrach nag yn gweld y cannoedd o bobl a ddaeth ynghyd yr wyf yn cofio fy mod yn synnu wrth feddwl i dwll mor fychan y rhoddid Abel, ac am y twll mawr a adawsai efe ar ei ôl na allai neb ei lenwi.

Mae gan y grwp ddawn anhygoel, ac ‘rydw i'n parhau i synnu at y ddawn arbennig honno, sef eu gallu parhaol i gyfansoddi nifer fawr o ganeuon byr, bachog a syml.

roedd yr haul yn uchel yn yr awyr ac roedd debra yn synnu bod y dyn yn darllen papur newydd mewn car poeth yn lle eistedd ar deras y bar fel y gwnâi hi.

'Da chi'n synnu?

Cafodd ei synnu braidd gan y gwahaniaeth rhwng bol y chwilen a'i chefn.

Yna allan ag ef i archwilio'r dref a'i hadnoddau, a synnu bod glan y mor mor atyniadol, bod y machlud mor ysblennydd, a'r tonnau bychain, anesmwyth yn sibrwd yn rhamantus wrtho.

Wel, dydw i'n synnu dim.

Rwy'n synnu fod rhai o'r plant hyn yn dal i anadlu.

Paid â synnu.

Wrth syllu ar yr holl fLodau sy wedi cael eu trefnu mor ofalus mewn Cloc Blodau fe gewch eich synnu gan yr holl ofal a gweithgarwch sy y tu ôl i'r cyfan.

Byddwn yn synnu at ei allu i siarad Ffrangeg ond 'doedd dim iws canmol.

TRWY GOED Y CEDYRN - ELGAN PHILIP DAVIES Rwyt yn synnu - nid ydynt am ymladd yn dy erbyn.

Yn arbennig, yr oedd y darnau hynny a ddyfynnwyd ar ddechrau'r bennod hon, ynghyd â'r hyn a ddywedodd nifer o offeiriaid lleol yn eu tystiolaeth, wedi eu synnu.

Rhaid i mi ddweud mod i wedi synnu fod Portiwgal wedi gwneud cystal, meddai Iwan Roberts oedd yn nhîm Cymru yn y gêm yn erbyn Portiwgal fis dwetha.

Yr ydw i yn synnu na ydym wedi clywed rhywfaint o stwr ynglyn â hysbysebion cwrw Abbot Ale sydd wedi bod yn ymddangos yn y wasg.

Cofiaf yn dda fy mod yn synnu ac yn teimlo'n glwyfedig nad oedd neb yn ymddangos yn cydymdeimlo â mi.