Yr oedd hwn i fod yr un mor safonol a'i Synopsis ar fathemateg, ond yn anffodus bu farw cyn iddo ei orffen ac aeth y llawysgrif ar goll.
Ystyrid y Synopsis yn un o lyfrau mathemateg pwysicaf ei gyfnod, a thrwyddo daeth William Jones i sylw dau o brif fathemategwyr Prydain ar y pryd, sef Edmund Halley (y gŵr a roes ei enw i gomed) a Syr Isaac Newton.