Er mai yn y blynyddoedd 1909 1915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr.
Go brin y byddai neb yn y Llyfrgell Genedlaethol wedi syrffedu ar weld Aled Jones, awdur y gyfrol hon, ond mae'n siŵr iddynt hen, hen arfer â fo.
Mem yma ddeg o'r gloch ac yn dweud bod rhaid i mi ffonio Elsie a dweud wrthi am newid ein twrn ac yn ychwanegu ei bod hi wedi syrffedu ar y ddwy Saesnes cyn i ni anghydweld ynglŷn â rhyfel y Falklands; gofyn iddi geisio bod yn rhesymol.
Dim ond ar ôl oriau o aros, o obeithio ac o syrffedu y bydd drysau'r cysegr sancteiddiolaf yn agor, ac y daw'r arweinwyr allan i geisio argyhoeddi cynulleidfa o siniciaid proffesiynol fod rhywbeth o dragwyddol bwys wedi ei gyflawni.
Dim byd ond gwrando ar gwestiynau dwl a phwyso botwm nes roedd o wedi syrffedu'n lân.
Roedd hwn yn gychwyn cyffrous i bob eisteddiad a gallaswn i fod wedi'i wylio drosodd a throsodd heb syrffedu.
Mae'n wynebu croesffordd yn ei fywyd, ei gydwybod yn dechrau ei boeni ynglŷn â digonedd ei deulu, ond yn bwysicach fyth mae wedi syrffedu ar y syniad o fyw fel gwr bonheddig, ac mae ei gariad at Lisabeth yn prysur oeri.
Ceir darnau yn yr Ysgrythur lle y dywedir nad yw Duw yn dymuno aberthau ac offrymau; yn wir ei fod wedi hen syrffedu arnynt.
Mae Enid yn syrffedu ar y bywyd hwn - 'nid oes dim gasach gennyf na hynny', meddai - ond ni allai gyfaddef hynny i Geraint ac ni all ychwaith adrodd iddo anesmwythyd a beirniadaeth ei wŷr.
O na fyddem ni oll yn medru dod o hyd i ffyrdd tebyg o gael ein syrffedu.