A brawddeg fawr ydyw: pan gnulia'r gloch, meddai, na ofynnwch am bwy, canys mae'n cnulio amdanoch chwithau hefyd, oblegid nid rhyw ynys ddigyswllt yw dyn, ond cyfandir, ac megis ag y mae'r cyfandir ychydig yn llai am bob torlan ohono a syrth i'r môr, felly ninnau, canys gyda phob un a gollir y mae rhywfaint ohonom ninnau hefyd wedi ei golli.
Eglurodd Paul y gwahaniaeth yn fanylach na hyn yn ei ymadrodd cynnil, Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd,' ac os metha'r cnawd yn ei ddyletswyddau yna fe syrth y dyn fel y blodeuyn yn ôl i'r pridd.
Syrth mewn cariad ag ysgolfeistr o Almaenwr, ond gwrthyd ei briodi, 'gan ddewis yn hytrach ddioddef.' Yn nrama Lewis nid cenedl yw'r gwahanfur rhwng y ddau gariad ond amrywiad diddorol ar ddosbarth cymdeithasol.
Syrth calon Bronwen 'fel pendil cloc pan dorro ei lein' ('Gorymdaith'); mae Lora'n teimlo ias 'tebyg i'r un a gafodd pan oedd yn blentyn, pan dorrodd lein y cloc mawr yn y gegin, gefn trymedd nos' (Y Byw Sy'n Cysgu); cwyd y pwysau oddi ar fynwes Bet 'yn araf, fel pendil doc yn codi wrth ei ddirwyn' (Tyroyll Heno).