Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

syrthio

syrthio

Rhoi nhroed i mewn ynddo fo wnes i, ac wedyn baglu a syrthio siwr iawn!

Mae'r bin yn siŵr o syrthio ar enw'r ceffyl fydd yn ennill y ras.

Ar y dechrau, gwadodd y tad iddo symud y gwn, ond cyfaddefodd wedyn iddo ei sythu ryw gymaint, rhag iddo syrthio ar John.

Bu John Gordon yn eitem un diwrnod o newyddion cyn syrthio nôl i ing ei fywyd personol.

Bydd traean o'th bobl yn marw o haint ac yn darfod o newyn o'th fewn; bydd traean yn syrthio trwy'r cleddyf o'th amgylch; a byddaf yn gwasgaru traean i'r pedwar gwynt ac yn eu dilyn â'r cleddyf.

Pam na fasech chi wedi gofyn i mi ddod gyda chi?" "Roeddwn i'n amau eich bod chi'n cysgu..." "O, siŵr, fe fydda i'n syrthio i drymgwsg cyn gynted ag y bydd 'y 'mhen i ar gobennydd.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd mewn un gwely, ac mi fydden nhw'n gweiddi, "Rydw i bron _ syrthio o'r gwely!" "O, rydw innau bron _ syrthio!" "Does gen i ddim digon o le!" "Does gen innau ddim digon o le chwaith!" "A rydw i'n cael fy ngwasgu yn y canol!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn gallu cysgu'n gysurus, ac roedden nhw wedi blino'n l_n.

Dyma un o'r bechgyn o Lanfair yn rhoi un dda yn ôl imi trwy ddweud: 'Petaech chi'n troi hogia' Pen â'u pennau i lawr, fasa'r un geiniog yn syrthio o bocedi'u Oxford bags nhw!' Dyna'r fath le oedd y chwarel; os oeddech chi'n tynnu un goes roeddech chi'n siwr o gael y llall yn ôl.

Roedd yn rhaid i mi sefyll ar ben pwcad i fedru'i chyrraedd hi, ond rargian, erbyn i mi orffan, ro'n i'n teimlo bod 'y mraich i am syrthio i ffwrdd!

Dechreuodd y gyfres hon gyda chyfweliad gyda'r actor Owen Teale, a siaradodd am ei rôl yn y gyfres ddrama danbaid Belonging ar deledu BBC Wales lle bu'n chwarae rhan myfyriwr aeddfed yn syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â mamgu 60 oed.

Fel bydd y ferch yn ei gnoi bydd yn syrthio mewn cariad â'r llanc.

Fe fyddai Cymdeithas yr Iaith ynghyd â llu o fudiadau di-drais eraill yn syrthio'n dwt i'r categori yma.

Ond pan oedd hi wedi cau'r drws ffrynt yn glep ar brotestiadau Emyr a chychwyn ar ei thaith, roedd Carol wedi disgwyl - nage, wedi cynllunio - y byddai Guto'n siŵr o syrthio i drwmgwsg y munud y byddai'r car ar y draffordd.

(Syrthio i gysgu unwaith eto.)

Yna bydd y rhisgl yn syrthio'n glytiau, eu tu allan yn ddu a threuliau'r trychfilod fel gweadau gwynion y tu mewn iddynt.

Ni chododd yr un wlad i gadw Sbaen rhag syrthio i ddwylo'r Ffasgwyr.

Oni bai i'r bêl gyflymu yn ei blaen, mae'n bosib y byddai Idris wedi yfed y llaeth ac efallai farw neu syrthio i drymgwsg yn y fan a'r lle...

Doed ganddi ddim syniad faint o amser y gorweddodd hi yno'n gwylio'r sêr, ond roedd yn rhaid ei bod hi wedi syrthio i gysgun hollol ddiarwybod idd ei hun.

Roedd yn ddirgelwch i Joni sut y gallai unrhyw ddyn syrthio mewn cariad efo'u Sandra nhw.

Cerddai fel dyn meddw a theimlai fel pe byddai ar syrthio i bwll o dywyllwch diwaelod.

Dyma wlad o'r fath dlysaf - gwlad wedi bod unwaith, y mae yn amlwg dan driniaeth uchel; palasau a ffermdai mawrion ar bob llaw i mi, ond heb neb yn byw ynddynt - eu ffenestri yn yfflon, y muriau o'u cwmpas wedi syrthio, y perllanau mawrion a'r gerddi yr un ffordd â'r meysydd, a'r meysydd yn anialwch.

Y mae yr holl balasdai ardderchog y cyfeirwyd atynt, a channoedd heblaw hwy, heddiw yn syrthio yn gyflym i adfeiliad; mwy na hanner y rhai sydd o gwmpas Huntsville yn weigion; y gerddi blodau a'r perllanau yn llawn chwyn a'r mulod yn eu pori; naw o bob deg ohonynt `To be Sold or Let'.

Wedi hynny batiodd y gwr ifanc sy wedi dod i mewn i'r tîm, Kumar Sangakkara, yn hyderus cyn syrthio i Robert Croft am 58.

Rhoes clec sewin yn syrthio'n ôl wedi ei naid sbardun i ni roi'r gêr efo'i gilydd.

Yn ôl ffrind sy'n dysgu'r Gymraeg ers rhyw ddwy flynedd, mae llyfrau i ddysgwyr yn syrthio, fel arfer, i un o ddau gategori.

Nid oes Deddf Disgyrchiant, ond yn ein meddwl ni, i egluro'r afal yn syrthio.

Gellid dadlau efallai mai awgrym o foeswers sydd yma i ddarllenwyr ifanc, rhybudd rhag syrthio i'r un fagl.

Yr hanes diwetha amdano oedd iddo syrthio i'r Dock yn Lerpwl, a boddi.

Ond cyn cyrraedd y terfyn hwnnw rhaid i Rafe syrthio mewn cariad ag Evelyn (Kate Beckinsale) nyrs brydweddol y mae ei gwefusau cyn goched â'r haul a'i belydrau cochion ar faner wen Siapan.

Roedd gwarth mewn bod yn ordderch ac roedd syrthio oddi wrth ras drwy anlladrwydd yn nodi dyn hyd ddiwedd oes.

Wedi iddynt gael peint bob un fe dalodd un ohonynt gyda phishyn coron a gofyn am newid ond nid oedd yr hen wreigan am syrthio i'r fagl.

Mae'r helflaidd yn syrthio â'th saeth yn ddwfn yn ei ystlys.

"Does dim digon o le i ni i gyd ar yr un beic, a rydym yn syrthio ar bennau'n gilydd byth a hefyd." Ar _l amser hir, dyma'r dyn trwsio sosbenni yn codi ei ben, yn agor ei lygaid ac yn dweud, "Wel, dyna ddynion bach od ydych chi.

Ochr yn ochr a chanu modern yn Gymraeg, mae yna, yn epigau'r Eisteddfod ac yn ymarferion barddol y talyrnau a'r ymrysonfeydd, grefft arbennig sydd ambell dro yn codi i dir celfyddyd ond yn amlach yn syrthio beth yn is.

Bydd yn gwybod yn hytrach mai'n raddol, dros amser, y mae'r darnau ieithyddol yn syrthio i'w lle.

O'i derbyn rhaid ei dilyn i'r pen neu syrthio i blentyneidd-dra.

Yn ôl yr hogyn lleiaf acw, sydd at ei fogail mewn prosiect TGAU ar y pwnc, mae siocled yn cynnwys cemeg o'r enw Phenylethylamine sydd yr un ag y mae'r ymennydd yn ei ryddhau yn naturiol pan yda ni'n syrthio mewn cariad.

Wrth ei wylio'n croesi at y pll nofio, meddyliai mai'r unig beth a chwythai bob problem i'r pedwar gwynt fyddai iddo fe syrthio mewn cariad â hi.

A sut ar y ddaear y gallai ei chwaer o syrthio mewn cariad hefo un tebyg i Hubert?

Mae Crystal Palace - sydd mewn perygl o syrthio o'r Adran Gyntaf - wedi diswyddo'u tîm rheoli, sef Alan Smith a Ray Houghton.

Tywynnodd ar ei feddwl ei fod wedi syrthio i bwll a gloddiwyd iddo gan Ernest, fod mab yr Yswain, gyda gwên deg a gwenwyn dani, wedi ei hud-ddenu gyda'r bwriad iddo anafu ei geffyl.

Fel roedd Dora Williams ar syrthio i gysgu lluchiodd rhywun ddyrnaid o fân gerrig yn erbyn y ffenestr.

Os bydd llwy yn syrthio i'r llawr, gallwn ddisgwyl ymwelwyr.

Bydd y beirdd yn sôn am yr haul yn gosod aur ar y dail, neu'r lleuad yn gosod arian, ond gŵyr pawb call mai ffansi bardd yw hyn ac nad oes mewn gwirionedd ond rhyw fymryn o oleuni melyn neu wyn yn syrthio ar ddail coeden gyraints duon yng ngardd y bardd.

Ond roedd y cysgod du wedi syrthio rhyngom fel na allem weld ein gilydd fel cynt: roedd y digwyddiad eisoes wedi dechrau'r newid, wedi cychwyn ar y broses o ddieithrio a fyddai'n anochel wrth i ni fynd yn hŷn, yn fwy cyfarwydd a'n gilydd, yn llai llawn rhyfeddod ynghylch ein gilydd.

Maen nhw wedi syrthio lawr i'r Drydedd Adran ar ôl colli gartre 2 - 1 yn erbyn Wycombe.

Yna maen syrthio mewn cariad â Margareta (Lisa Diveney), ar cariad hwn syn achub ei enaid rhag damnedigaeth yn y diwedd.

Babi o beiriant na fedra hi ddim mynd o gwbwl heb i chi afael ynddi hi, ac os gollyngech chi hi ar ôl iddi gychwyn, syrthio ar ei hochor fel brechdan fyddai 'i hanes hi bob tro.

Ar ôl noson hapus a ddiweddodd drwy i rywun ordro champagne i bawb, a gwely am ryw hanner awr wedi un y bore; yr oeddwn wedi syrthio i gwsg trwm.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd ar gefn yr un beic a chyn iddyn nhw fynd ymhell iawn mi fyddai'r pump wedi syrthio'n bendramwnwgl ar y ffordd.

Dechreuodd y gyfres hon gyda chyfweliad gyda'r actor Owen Teale, a siaradodd am ei rôl yn y gyfres ddrama danbaid Belonging ar deledu BBC Wales lle bun chwarae rhan myfyriwr aeddfed yn syrthio dros ei ben ai glustiau mewn cariad â mamgu 60 oed.

Dreif on.' 'Ella ma' trio rhoi ar ddallt i ti roedd hi ma' boddi 'nath y Captan.' 'Nid boddi 'nath o.' 'Dyna ddeudodd Timothy Edwards pan ddaeth o yma hefo'r stori - syrthio dros ochor y llong, medda fo, pan oedd o'n homward bownd o'r gwledydd pell 'na, a boddi yn y dyfnfor.'

Wedi i'r ymwelwyr alwn gywir a gwahodd Lloegr i fatio gyntaf cyn pen fawr o dro yr oedd y wicedin syrthio.

Gwyddai Jacob fod darllenwyr Yr Ymofynnydd wedi hen gyfarwyddo â gweld eu cylchgrawn yn syrthio i gysgu ar adegau anodd, eithr yn dihuno'n fuan wedi'i atgyfnerthu'n llwyr.

Mae Ipswich yn drydydd yn yr Uwch Gynghrair ar ôl ennill 1 - 0 yn Lerpwl, sy nawr wedi syrthio i'r chweched safle.

'Tasach chi heb fod mor dwp â syrthio yn y siwt haearn 'na, fasa neb ddim callach.

'Mae'r bachyn wedi mynd i wreiddyn y goeden acw sydd wedi syrthio ar draws yr afon.'

mae'n digon o orgyffwrdd rhwng yr haenau fel na ddylai unrhyw ddisgybl syrthio rhwng dwy haen.

Mae Orig yn baglu ac yn cusanu'r ddaear ar ôl syrthio'n erbyn rhyw sgerbwd wifrau, Smwt yn codi trywydd cwningen neu wiwer, a phawb ohonom yn ei ddilyn fel ffyliaid!

Neu Edward Morgan wedi syrthio ac yn methu codi?

A dyna finna yn syth yn syrthio i'r trap o'u labelu yn 'wahanol'.

Yr oedd yn fwy o destun pryder i Hague nag i Blair i Romsey syrthio i ddwylor Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl ac ymalen, yn neidio ac yn prancio, gwalltiau'r merched a grimpiwyd mor ofalus yn syrthio am ben eu dannedd, a chotiau'r bechgyn yn fflio y tu ôl iddynt.

Rhaid ei bod hi wedi syrthio i gysgu rywbryd, a deffrodd yn hwyrach nag arfer, ei phen fel meipen a'i cheg fel cwter.

'Mae syrthio mewn cariad yn bur debyg i syrthio oddi wrth ras', meddai Mrs Elias, a 'caru ydy'r perygl mwyaf i weddio'.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd ar un gadair, ac mi fyddai pob un ohonyn nhw yn gweiddi, un ar _l y llall, "O, rydw i bron _ syrthio!" "Rydw innau bron _ syrthio!" "Does gen innau ddim digon o le!" "A rydw i'n cael fy ngwasgu yn y canol!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn cael gorffwys iawn, ac mi fydden nhw bob amser wedi blino.

Wedyn, mi fydd pob un ohonoch chi'n cael mynd allan am dro heb syrthio." A dyma'r dynion bach od yn edrych ar ei gilydd ac yn chwerthin yn galonnog.

Yn sydyn rhuthrais am un o'r giwed, ac wedi gafael ynddo a'i wasgu, yn ôl cyfarwyddiadau Capten, mi rois hergwd iddo â'm holl nerth, nes peri iddo syrthio ar ei hyd ar lawr.

Y mae o i gyd wedi syrthio i ffwrdd wrth i'r ceir gael eu hysgwyd a'u sgytian wrth deithio'n gyflym dros y wynebau geirwon ac amrwd hyn.

'Dal o, Mwsi,' gwaeddodd y gŵr bychan, tew, a theimlodd Siân law drom yn syrthio ar ei ysgwydd ac yn ei gwasgu.

Gellwch gasglu'r alabaster sydd wedi syrthio o'r clogwyn ar y traeth.

Gan fod i Ddinbych, a'r Capel Mawr yn arbennig, le mor gynnes yn fy nghalon y mae perygl fy mod yn syrthio i fagl rhamantu.

Ond fel arfer roedd yn well ganddi hi'r shifft gynharach, er mwyn bod adre pan gyrhaeddai Shirley ac Alan, yn lle bod y cyfrifoldeb yn syrthio ar Beti o hyd.

Dywedais wrth Jock am gadw'i lygaid yn agored rhag i 'Gwep Babi' ddod yn ôl, a rhuthrais at waelod y to lle'r oedd y ferch erbyn hyn yn gwyro trosodd, a bron syrthio bendramwnwgl i'r iard.

Dychrynodd hithau gymaint nes iddi syrthio'n glewt o'r gadair.

Mewn rhan arbennig o Chwareli'r Oakeley roedd yna un ohonynt wrth ei waith hefo'i geffyl pan lithrodd hwnnw a syrthio ar ei liniau rhwng y bariau am ryw reswm neu'i gilydd.

Ond cyn pen fawr o dro yr oedd y wicedin syrthio.

A gan mai gwaith pur anodd yw gosod unrhyw gyfrifoldeb yn gryno ar gefn pwyllgor mawr ac amrywiol rhaid i'r baich yn y pen draw syrthio ar gefn un dyn, yr ysgrifennydd cyffredinol.

Dringodd i deuddeng mil o droedfeddi ac unwaith eto neidiodd y ddau allan a syrthio saith mil o droedfeddi cyn agor eu parasiwtiau.

Pan ddeffrodd Jean Marcel y bore canlynol ac edrych allan drwy ffenestr gul ei stafell, gwelodd fyd distaw, gwyn a'r eira mân yn dal i syrthio.

Ar ôl i bedair o wicedi Sri Lanka syrthio cyn cinio rhannodd Mahela Jayawardene a Russel Arnold 142 am y bumed wiced.

o'n i ofn iddo fo syrthio, ac mi oedd 'na lot o bobol er'ill yno'n dal 'u gwynt, ofn i rywbath ddigwydd iddo fo.

Dywedir bod yr ychen yn cael eu gorweithio, ac i un ohonynt syrthio'n farw o dan lwyth.