Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

syrthiodd

syrthiodd

Syrthiodd ei dors allan o'i boced ac wrth iddo ymbalfalu o'i gwmpas amdani gafaelodd ei ddwylo yn rhywbeth a oedd yn debyg i brennau.

'Roedd y wawr yn rhyw ddechrau torri dros gribau mynyddoedd Eryri pan syrthiodd yr Ymennydd Mawr i gysgu o'r diwedd.

Syrthiodd ei wyneb wrth weld mai lle i chwech a osodwyd.

O dipyn i beth syrthiodd y darnau i'w lle gydag ymweliadau â BBC Cymru, S4C, Derwen, Y Cynulliad, Siriol, cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant gyda swper yn dilyn â chyfle i gwrdd a Dirprwy Faer Caerdydd a llond lle o bobol ddylanwadol a gwybodus.

Ar y funud honno, syrthiodd un o'r dynion oddi ar ei geffyl a bu farw; ond trwy law Samson daeth yn fyw drachefn.

Aeth yntau i gornel gysgodol, ac wedi cael man cyfforddus i orwedd ar hen domen o deiars, fe syrthiodd i gysgu.

Syrthiodd i mewn i'w gwely, ond gwyddai fod cwsg heno yn bell iawn oddi wrthi.

Syrthiodd fy nghalon ynof.

Cyfarfyddodd a Maelon Dafodrill, tywysog ifanc, golygus, mewn gwledd a syrthiodd y ddau mewn cariad a'i gilydd.

Ar ôl iddo adrodd yr hanesyn wrthyf ryw noson, fe syrthiodd ysbaid hir o ddistawrwydd rhyngom (fel a ddigwyddai'n aml), ac yn ystod y distawrwydd hwnnw dyma fi (a oedd yn Meuryna llawer yn y dyddiau hynny) - yn ceisio gorffen y cwpled.

Syrthiodd yn syth yn ôl i'm breichiau.

Syrthiodd ddeg troedfedd neu fwy a disgynodd ar ben creigiau caled.

Felly ar Elisabeth y syrthiodd y cyfrifoldeb o gadw trefn ar y plasty a'r gweinyddion yn ogystal a'r gofal am ei brodyr a'i chwaer fach, yn enwedig pan fyddai Meistres Mary Games yn mynd a'i mab hynaf, Richard, i'r plas newydd ger Y Fenni.

Syrthiodd y cawr yn llipa ar wastad ei gefn a'r twrw yn ysgwyd y ddaear gyfan fel daeargryn mawr.

Pa fodd y syrthiodd y cedyrn?

Gwelodd Hyde yntau y gors y syrthiodd y gwleidyddwyr iddi, a byddent ynddi am chwarter canrif arall.

Roedd o'n mynd i drwshio to sinc y tŷ gwair a syrthiodd hefo'r daeargryn dwytha a chlirio'r nialwch o fieri, weiran-bigog, prenia, heyrs a blerwch yn y gadlas.

Syrthiodd tawelwch dros y tŷ i gyd wedi i'r plant gysgu.

Gwyliais yr hyn a wnaeth hi a dod oddiar y lifft yn union yr un fan a hi - ond syrthiodd ac yn rhy hwyr sylweddolais nad oedd hithau'n hyddysg yn y grefft yma - ac felly syrthiais innau.

Syrthiodd fy llygaid ar "Cemaes - marw Mr A Owen" Cofiais mai dim ond dau Alun Owen yr oedd yn gwybod yn iawn amdanynt.

Syrthiodd Gwgon i gwsg trwm o'r diwedd ym mreichiau'r cawr gan chwyrnu cysgu fel ci bach boddhaus.

Ar y gair syrthiodd Cymru Fydd i lewyg yn y fan a'r lle; yn fuan wedyn, heb ddadebru a heb stŵr, ymadawodd.

Syrthiodd y tair i gysgu cyn gynted ag yr oedd eu pennau ar y gobennydd - Eira ar fatras ar y llawr, Iona mewn un gwely ac Elen mewn gwely uwch ei phen.

I gyfeiliant s n gwydr yn torri'n deilchion a sgrechfeydd y gwylwyr syrthiodd y lori ar ei hochr.

Ond wrth frysio yno ar gefn ei fotor beic newydd, ac edrych ar awyren uwch ei ben yr un pryd, syrthiodd i ffos.

Syrthiodd mewn anufudd-dod, gan ei lygru ei hun a'i ddisgynyddion, y ddynoliaeth.

Ond nid oedd gan Keble yr ehangder gweledigaeth na'r grym personoliaeth, meddai Owen Chadwick, i fod yn arweinydd mudiad a syrthiodd ar ddyddiau blin.

Ar ôl un plwc sydyn arall, syrthiodd darn metel ei goes dde i ffwrdd a disgyn i waelod y cocpit.

Yna, syrthiodd yn glewt i'r llawr, a'r ddau'n rhedeg nerth eu traed i lawr y grisiau.

Faddeua i byth i fi fy hunan am beidio a chofio a chofnodi talp o hanes cymdeithasol a aeth i ddifancoll yr eiliad y syrthiodd Evan Jones yn farw wrth groesi o'r siop i'r blwch ffon yr ochr draw i'r hewl.

Gafaelai'r rhew am ei gorff yr un fath â phawen arth wen yn glynu mewn morlo bach "Helpwch fi, ffrindiau annwyl, helpwch fi!' Ceisiodd Alphonse weiddi, ond syrthiodd yn llonydd ar y ddaear.

Ymhlith bowlwyr Caerwrangon syrthiodd tair wiced i Glenn McGrath.

"Mae'n rhaid i mi beidio â'i gollwng," meddyliodd, gan barhau i gael ei lusgo drwy'r tonnau a chan gofio'r tro hwnnw y syrthiodd oddi ar ei geffyl ers talwm a chael ei dynnu ar hyd y ddaear gydag un droed yn sownd yn y warthol.

Ar y ffordd i fyny baglodd Orig, a syrthiodd fel crempog ar ei wyneb.

Syrthiodd eich mawredd!

Yna cafwyd trafferth gyda'r ferch Elisabeth a syrthiodd mewn cariad â John Williams, tyddynwr tlawd a drigai mewn fferm fechan o'r enw Pantachddu gerllaw'r Ty Cendros.

Daeth niwl dros ei lygaid, a syrthiodd yn swp ar y gwair.

Trawodd yr hen Glifton o ar ei frest, ac fe syrthiodd Joni i lawr.

Syrthiodd i gwsg ysgafn.

'Fe glywa'i swn dyfroedd a llifogydd ofnadwy,' meddai hi, 'a swn peiriannau na welodd neb eu bath.' 'Pan fydda'i farw,' meddai hi dro arall, 'gofelwch raffu fy arch ar yr elor.' Ni chymerwyd sylw o'i chyngor ond ar ddydd ei hangladd fe ddychrynodd y ceffylau a dechrau carlamu a phan ddymchwelodd yr elor feirch fe syrthiodd arch Gwenno i lawr i ryw geunant.

Syrthiodd o'i blaen hi, ac fe aeth hi drosto.

Syrthiodd ar y llawr gan afael yn ei wddf.

Syrthiodd defnyn o boer i'i cheg ar y darnau, ac, yn frysiog, rhedodd i nôl y dystar i'w glanhau.

Yna cafwyd trafferth gyda'r ferch Elisabeth a syrthiodd mewn cariad â John Williams, tyddynwr tlawd a drigai mewn fferm fechan o'r enw Pantachddu gerllaw'r Tŷ Cendros.