Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

syth

syth

a ayna l tl ddrama Jac Ifan Parc Rhedyn yn dilyn yn syth wedyn.

'Ylwch be gawson ni gan Bigw.' 'Brensiach annwyl,' fydda Mam yn ei ddweud ac yn cymryd y prês oddi arnom yn syth yn barod i'w roi yn ôl i Bigw tro nesaf.

Os medrwch chi gadw wyneb syth yn ystod yr eiliadau nesaf mi fyddwch chi'n haeddu clamp o fedal.

'Rydan ni'n gwmni sy'n gwneud elw.' 'Ydach chi?' Daeth i sefyll yn syth o'i blaen, ei ddwylo yn ei bocedi, ei goesau'n dalsyth.

Ond fe newidiais fy meddwl pan ddaeth yn adeg imi sefyll gyda'm ffrindiau yn y ciw yn syth ar ol glanio ym maes awyr Moscow.

'Mi awn ni'n syth.

Yn syth wedi croesi'r ffin, dyma fynd trwy bentref Rosvadov - pentref bychan, gwledig.

Yr enghraifft a ddenodd sylw yn syth oedd y ffaith fod Victoria 'Posh Spice' Adams a David 'Kicker' Beckham yn bwriadu prynu ty haf yn Abersoch -- lle gyda 64% o dai haf eisioes.

Yn syth o'ch blaen mae Moel Hebog, y mwyaf ohonynt sydd i'w weld o'r fan yma.

Trewir y darllenydd yn syth gan ddiwyg deniadol y llyfr.

Pan gyrhaeddodd gwŷr, gwragedd a phlant Uitenhage eu tref newydd dechreusant adeiladu eglwys newydd yn syth.

Un o'u ffyrdd hwy oedd Sarn Helen sy'n rhedeg dros y bryniau o Lanymddyfri i Lanio cyn troi a mynd yn syth i gyfeiriad y gogledd at Ledrod.

"Dos di yn syth i nôl Cymro, ac i ddweud yr hanes am Dad wrth Mr Bassett, Idris," meddai Cadi, "ac fe aiff Deio a minnau i'r tŷ i gynnau tân ac i hwylio swper." "O'r gore," meddai Idris, ac i ffwrdd ag ef.

Roedd'i chyfnither hi ar fynd, ac fe ges i fynd i miwn yn syth.

Edrychodd arnynt yn syth.

Roedd Jabas wrthi'n brysur yn tynnu lluniau, a chyda'r lens sbienddrychol diweddara a gafodd gan Ab Iorwerth credai ei fod yn cael lluniau gwych o hen simne'r gwaith yn syth uwchben yr ogof ar y clogwyn.

Roeddem wedi rhoi pwyse'n syth ar y time eraill i orfod sgono cymaint â ni.

Hyd yn oed wedyn os edrychwch yn syth at yr alaeth mae'n annhebyg y gwelwch chi hi.

Ni ddisgynnant yn syth yn ôl i'w lefel egni gwreiddiol - yn hytrach collant beth o'u hegni ychwanegol ac ymgasglu ar un lefel egni arbennig (gw.

Trodd y gwarchodwr ei ben yn syth a chododd ei wn i'w ysgwydd gan roi rhybudd dros y radio yn ei helmed i'r gwarchodwyr eraill.

Fe allwch chi eu gollwng nhw'n rhydd nawr.' Heb betruso am eiliad aeth y cwn yn syth at y parsel brown mawr.

.' Cododd ei glustiau'n syth: Wyddoch chi, y gŵr y buoch chi'n sgwrsio ag o ar y llong, y masnachwr o Genoa .

Cyn i chi anfon eich cwestiwn, cofiwch y medrwch chi chwilio am yr ateb yn syth trwy edrych ar gwestiynau gan fyfyrwyr eraill.

Mi yfodd ormod o ddŵr pan aeth hi allan am funud ddoe, ac mi ddaeth i mewn a'i blewyn hi yn syth gin gryndod.

Fi sy'n ennill!' Ni thynnodd Llio ei golwg oddi ar ei hwyneb a synnodd wrth weld pa mor wyn a syth ledd ei dannedd.

Caeodd y drws yn syth a phwyso yn ei erbyn.

Gan iddi basio'n syth drwodd, doedd 'na ddim posib astudio'r fwled ond fe gawson ni hyd i ddarnau bychain o'r metel ar y siaced.'

Yn syth bwriodd iddi o ddifri i gyhoeddi peth o'i gynnyrch barddonol ac ygolheigaidd.

Yn syth ar ôl hyn fodd bynnag digwyddodd rhywbeth annifyr iawn.

Mae'r byd hysbysbu yma yn eich taflu i'r llawr yn syth bin, ac yn parhau i ysgyrnygu'n ddyddiol a digyfaddawd arna' chi.

Fe sylweddolodd yn syth mai diffyg yr elfen hanfodol copr oedd wrth wraidd yr helynt.

Drewllyd braidd ydi'r llosgfynydd hefyd gyda labordy cemeg a wyau drwg dod i'r cof yn syth.

"Roeddwn i wedi addo mynd yn syth i'r siop o'r ysgol.

Yn syth ar ôl thau yr etholiad, ar ddydd Gŵyl Ddewi, cyhoeddodd Undeb Cymru Fydd ei fod o blaid senedd a'i fod yn ymbaratoi i gynnal Cynhadledd yn Llandrindod i wyntyllu'r pwnc, ac i sefydlu peirianwaith i drefnu ymgyrch a deiseb.

Hwyrach bod miloedd o bobl Dwyrain Berlin wedi bod yn dyheu am gael mynd i ryddid Gorllewin Berlin - ond fe fuasen nhw wedi cael eu lladd yn syth pe baen nhw wedi ceisio croesi'r wal.

Y Prawf - Fe lwyddodd newyddiadurwraig i gerdded i mewn i'r ysbyty heb i neb holi dim iddi; troi i'r dde ac yn syth i mewn i ward Llifon ac at y gwelyau a'r babanod.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at flwyddyn nesa rwan a gobeithio cawn ni fynd fyny'n ôl yn syth.

'Anela'n syth at yr ynys.'

"Os 'ych chi'n nodi ar ffurflen gais eich bod chi'n anabl, yna'n aml mae hi'n mynd yn syth i'r bun heb ystyriaeth pellach," meddai.

Ar yr ochr dde mae nifer o sachau, ac yn syth o'th flaen mae dau gwpwrdd anferth.

Gofynnodd am Ceri yn syth, a rhois ei llythyrau iddo Bu'n darllen ac ailddarllen tra oeddwn i'n paratoi'r cinio.

'Fe fydd y gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal yn syth ar ôl y plygain bore 'fory.' 'Yn yr eglwys, syr?' gofynnodd Seimon.

Mae llwybr uchaf Afon Ceint yn hynod o syth ac yn llenwi coridor a gerfiwyd, fel y dangosodd Embleton, gan ddwr tawdd yn y cyfnod yn union wedi'r rhewlifiant.

Meddyg gwyn, yn siarad Cymraeg, a chyda blynyddoedd o brofiad yn ei swydd, a ddywedodd mewn ffordd ddifeddwl ac angharedig wrth wraig ifanc fod ganddi hi ganser ai gollwng wedyn yn syth yn ôl i ward i ganol cleifion eraill.

Os ei yn dy flaen yn syth y ffordd acw," medd, gan godi ei fraich tua'r de, "ymhen ychydig filltiroedd fe ddeui at Afon Cynnach.

Fel y gwelwch mae'r gair Untitled wedi ei ddewis yn barod felly gellwch deipio'r teitl newydd i mewn yn syth.

Gwna di hynny.' 'Helô 'ma.' Daeth atynt gyda gwydryn hanner peint hanner gwag yn ei law a bwrw ati'n syth bin.

Aethpwyd â phlant Mrs Roberts, oedd yn arfer byw yn ardal Wrecsam, hefyd i'r ysbyty a dechreuwyd ymchwiliad yn syth gan yr Heddlu sydd wedi slarad gyda gweithwyr a phreswylwyr y lloches.

Llyncodd Dan ei boer a gofalodd fod ei dei yn syth cyn cael ei alw i mewn i'r ystafell.

'I Edward Wyn,' atebais yn syth, fel pe bai rhyw fymryn o furmur hen adlais yn fy ysgogi.

Mae gan y Gymdeithas grwp arbennig i ofalu am agweddau gwahanol o'r gwaith (Grwp Addysg, Grwp Statws, Grwp Adloniant ayyb). Cewch ddod yn aelod o'r grwpiau hyn yn syth, dim ond i chi nodi hynny ar y ffurflen ymaelodi.

Prin le i grogi cath." A minnau'n syth yn meddwl am Negro'n disgwyl am ei ginio, a lwmp yn codi yn fy llwnc i.

Syrthiodd yn syth yn ôl i'm breichiau.

Daeth Mr Jones, y Person, yno i'w weld, a thystiai nad oedd gan yr Yswain Griffith well ceffyl yn ei ystablau, ac aeth yn syth i'r Plas i ganmol anifail Harri.

Dywed mai o'r Alban yr oedd ef wedi cyrraedd Rhydychen ac mai pobl yr Alban a oedd wedi gofalu amdano; oni bai amdanynt hwy, mi fuasai wedi bod fel 'brân gloff ar yr adlodd oblegid 'nid oedd y Cymry wedi arfer ymgyfarfod, ac ychydig iawn o drafferth oedd neb yn gymeryd i ddangos mai Cymro oedd' Y gwir yw, petasai OM wedi mynd o Aberystwyth yn syth i Rydychen yn hytrach na via Glasgow, mi fuasai wedi bod ymhlith cyd Gymry o'r dechrau cyntaf, ac odid na fuasai wedi clywed am Glwb Coleg Aberystwyth.

Pan ydym yn sôn am y ddarpariaeth bresennol yn y Gymraeg ar gyfer ieuenctid yr ydym yn syth yn meddwl am gyfraniad yr Urdd, y Ffermwyr Ifainc neu'r Ysgolion Sul.

'Cyfeillach,' yn arbennig ddechrau'r gerdd : Ni thycia eu deddfau a'u dur I rannu'r hen deulu am byth, Cans saetha'r goleuni pur O lygad i lygad yn syth.

Dylid tynnu allan mewn da bryd a sicrhau fod yr uned mewn llinell syth wrth basio.

e-gardiau bendigedig BBC Cymru'r Byd yn syth i'w sgrîn.

Yng nghanol y plât hwn mae asgwrn bychan yn syth i fyny; un a elwir yn Lladin yn crista gallii sef crib y ceiliog.

Ond mae'r ffurflenni hefyd ar gael i unrhywun eu printio yn syth oddi ar y we - ond yn Saesneg yn unig.

Mae dau wenwyn yn y ffwng hwn ac mae unrhyw un sy'n bwyta'r ffwng yn cael teimladau brawychus, fel hunllef, bron yn syth.

'Pwy we'r rocyn 'na we da ti'n clebran ar bwys y glowty?' holai ei mam yn syth.

Byddai yn mynd i'w wely yn syth ar ol cinio'r Sul i orffwys ac atgynferthu at yr hwyr.

Writer yn taro deuddeg yn syth.

Ond fel mae'r microscop electron trawsyriant yn dangos, silia byr, syth ydynt.

Roedd 'i fraich dde'n estyn o'i flaen e a'r bysedd fel pe baen nhw'n crafangu am rywbeth, a'r bawd yn sefyll yn syth i fyny.

HEULWEN: Wel, tyrd yn syth i lawr.

"Taflwyd hotel wag at yr Arlywydd Nixon," meddai darllenydd un tro, gan hau'r amheuaeth yn syth ei fod yn taro'r botel ei hun !

Fodd bynnag, os yw'ch pwysau'n dechrau codi, ewch yn syth yn ol i'ch cynllun colli pwysau.

Dangosir y gorchymyn allweddell wrth ochr y gorchymyn ar y ddewislen, felly er enghraifft gellir cadw (Save) yn syth o'r allweddell trwy deipio , ac S gyda'i gilydd.

Mentrwyd i fyny rhwng y creigiau duon uchel a oedd yn disgyn yn syth i'r mor.

Estynnodd Lisa ato'n syth.

Galwn felly am fabwysiadu strategaeth gynyddol i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor Sir - gan ddechrau yn syth yn yr Adran Addysg, ac yn ymledu dros gyfnod rhesymol i Adrannau fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfathrebu, Cynllunio nes cwmpasu pob adran gan gynnwys Swyddfa'r Prif Weithredwr ei hun.

Eisteddodd fy nhad ar flocyn o garreg a chael tynnu tri ar ddeg o ddannedd a mynd yn syth at ei waith.

ond gwibiodd Rex yn syth i du ôl y tŷ.

Gall unrhyw un sy'n ymuno â Chymdeithas yr Iaith fwrw iddi yn syth.

Ac allan yn y fan honno, mynegais fy mod mewn tipyn o ddilema am na wyddwn yn iawn beth y dylwn ei wneud, p'run ai brysio adre'n syth at fy nheulu yn Ninmael, ai ynteu aros yn y llofft am sbel eto rhag ofn y byddai Mam yn dadebru o'i thrymgwsg.

Roedd Lloegr i gyd allan yn eu batiad cynta am 253 ac yn gorfod batio eto yn syth.

Fe welwch y gellir gwneud amryw o'r gorchmynion ar y dewislenni yn syth o'r allweddell.

Cewch drafodaeth ar y gwahanol gynigion a chyflwyniad i aelodau newydd y Senedd rhwng cloriau'r rhifyn hwn o'r Tafod. Un peth sydd yn codi yn syth yw'r penderfyniad i newid dyddiad y Cyf Cyff i'r Gwanwyn.

Pob un yn cael ei ethol yn uniongyrchol a la Ken Livingstone.Pobol sy'n gwneud penderfyniadau yn syth heb drosglwyddo popeth i is-bwyllgorau.

A chwedyn yn syth, arweinir at ymateb y gymdeithas ac at gomedi Robin sy'n dod â'r mater i ben.

Edrychodd Alun ar y ci a gweld fod y blew ar hyd ei gefn yn sefyll i fyny'n syth.

Teimlai fel brenhines a'i chefn yn syth a'i dwy goes yn dynn yn erbyn un ochr i'r cyfrwy yn ôl yr arfer i ferched.

Yn ail, dydi gwadu baich yr ymgyrhcu dros yr iaith ddim yn dileu y baich hwnnw'n syth.

ar ôl ei siomi yng ngwlad ei enedigaeth, trodd david hughes ei wyneb tua'r cyfandir ; aeth i ffrainc yn gyntaf, lle cafodd groeso yn syth.

Glaniodd ei ffrind yn syth ar ei ôl.

Fe ffonia i 'nôl.' Chwarter milltir o'i flaen, diflannodd Sierra glas Davies o amgylch cornel wrth i ddarn syth o ffordd ddirwyn i ben.

Wrth i Carol ysbarduno'r car bach yn ddidrugaredd tua'r gogledd, gallai glywed eu lleisiau'n parablu'n gynhyrfus am yr holl bethau a welent drwy'r ffenestri, a gwyddai mai felly'r oedd hi wedi disgwyl i bethau fod.Gallai ei chysuro'i hun nad ymddwyn yn fyrbwyll a wnaethai, ond paratoi cynllun brysiog yn ei phen a gweithredu arno'n syth.

Un hwyr, pan oeddwn yn dychwelyd i'm cartref o Lyn Rhosyn, rhedodd y ferch allan 'o lôn gefn gul' yn syth o'm blaen.

penderfynodd Peter geisio cysgu'n syth, ond aeth Larry a finnau am dro.

dechrau gwerthu'n syth drwy'r post.

Os byddi di wedi cael y profiad fyddi di ddim yn gallu ei gelu, ond mi fyddwn ni'n gwybod yn syth os byddi di'n deud celwydd.' Galwodd Bilo ar Dan Din i osod y dasg nesaf.

Gwnewch linell syth a siap hirgrwn yn yr un ffordd.

Tramwyai yr Yswain a'r Person, a'r hen bobol pan allent, hyd y ffyrdd, ond teithiai'r gwŷr ieuainc rhyfygus bron fel yr ehed y frân yn syth ar ôl y cŵn.

Ers rhai misoedd bellach rydym wedi bod yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd bob nos Lun yn syth ar ôl ysgol, (ar wahân i ddwy wythnos pan anghofiodd Mr Hughes amdanom ni, a pheidio â dod.

Daeth Sam i mewn yn canu emynau, tua deg o'r gloch, a thrwy drugaredd aeth yn syth i'w wely.

dangosodd y weinyddiaeth delegraff ddiddordeb ynddo yn syth, a threfnwyd comisiwn o drydanwyr enwog i archwilio i ragoriaethau'r peiriant.

Fe'i deliais hi o dan ei cheseiliau a gollyngodd ei choesau odani yn syth.