Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

taclau

taclau

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Mae taclau gwraig weddw yn benigamp am worn out tools fel ag y mae chwys plismon am rywbeth prin iawn er y gellid fod wedi ychwanegu mor brin â chachu ceffyl pren ato.

Mae'r amaethwr gwael yn dal i feddwl pa gae i'w ddefnyddio heb son am gael y taclau i weithio.

Y cwbwl oedd ynddo oedd crys nos, brwsh dannedd, taclau shafio a phâr o slipers.

"Edrychwch ar ei ôl o'n ofalus nes cyrhaeddwn ni'r gwersyll newydd." "Reit, syr." Ond wedi meddwl am y peth dechreuais deimlo braidd yn flin fod y Capten mor hunanol, a phan ddaeth y lori heibio i lwytho'n taclau, a minnau'n helpu gyda'r gwaith, dechreuais ddyfalu sut y gallwn i ei ffidlan hi i gadw fy ngwely.

Cyfrwch eich cyllyll a'ch ffyrcs ar ôl cael y taclau draw am swper...

Mae'n rhaid i mi gael gwared â'r taclau bach, ond sut?