Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tafarn

tafarn

Dros amser collwyd y gair tafarn o'r enw ond tyfodd yr elfen olaf boncath yn enw ar y pentref lle safai'r dafarn.

Pan ddychwelodd Mary Jane i Dyddyn Bach ymhen deuddydd, cyffesodd Siôn Elias ei fod wedi lladd dyn mewn tafarn yn Lerpwl rai blynyddoedd cyn hynny.

Yn ystod y gaeaf oer diwethaf gawsom ni oedd hi, ac yn ystod rhyw bythefnos neilltuol o oer, roeddwn i, ac amryw byd o rai eraill gallwn feddwl, wedi dod o hyd i gornel gynnes mewn tafarn diraen ynghanol y ddinas lle ceid bob amser cinio danllwyth o dân ar lawr.

Cafodd helyntion digri yfwyr cyson a landlord Pub Globo eu recordio mewn tafarn leol, lle roedd y synau cefndirol gan yr yfwyr yn rhai go iawn.

Er fod tafarn y Gloch dipyn yn hen-ffasiwn, cawsant fod eu stafelloedd gwely'n rhai digon cyfforddus a glân.

Stopiodd y Doctor y car o flaen tafarn y 'Gloch', sef y gwesty mwyaf (o ddau) yn y pentre.

Ond yr oeddwn in digwydd bod yn eistedd yn yr haul gyda fy mheint y tu allan i dy tafarn am chwarter wedi tri bnawn Llun.

Enw tafarn felly oedd Tafarn y Bwncath yn wreiddiol - tafarn a alwyd yn Boncath Inn mewn oes ddiweddarach.

Cafwyd swper wedyn yn 'Tafarn y Llwyn'.

Euthum ymlaen i ffair Abergele, a throais i werthu Almanac i dy tafarn Ue yr ydoedd amryw yn yfed wrth y tân.

(Llandegla, Dinbych); Tafarn y Gwybedyn (Meirionydd); Tafarn y Piod (Llwchwr); Tafarn yr Hwch (Llangurig, Trefladwyn).

Nos Sadwrn aeth Sioned gyda Lleucu a Rhodri i'r pentref am bryd o fwyd tafarn a llymaid dros y galon.

Eto i gyd y mae yn Llŷn niferoedd o deuluoedd ymroddedig a'u plant yn Gymry glan gloyw, a bydd y plant rheini yn siarad Cymraeg hyd ganol a diwedd y ganrif nesaf, oherwydd y mae yn Llŷn hefyd gyniwair mewn Clybiau Ffermwyr, mewn Adrannau o'r Urdd, mewn Cyfarfod Plant ambell i gapel, mewn tafarn Gymraeg Gymreig, mewn Eisteddfod a Sioe a Chyrddau Pregethu a rasus motos.

'Tafarn yn llawn Gwyddelod ac alcs yn dathlu nos Wenar arall a ninna'n dadla ar gownt teledu o bob dim.

O gofio mai Sais ydoedd, meddyliais lawer am ei ddywediad, ond symud wnaeth i gadw tafarn, a daeth Mr Sleigh yn ei le.

Digwyddais fynd i ardd oedd tu cefn i dy tafarn yno, Ue yr ydoedd Stiwardiaid Gwydir, a mân foneddigion eraiU o Lanrwst yn cydyfed cwrw.

Ceir enwau cyffelyb yng Nghymru wrth gwrs ond sylwais ar yr enwau tafarnau canlynol o bob rhan o Gymru sy'n cynnwys enwau adar, anifeiliaid ac un pysgodyn pur gyffredin: Tafarn Ditw, (LLan-y-cefn, Penfro); Tafarn Hwyaid, (Carreg-lef, Mon), Tafarn y Brithyll (Ystradmeurig, Ceredigion); Tafarn y Cornicyll (Llanwenog, Ceredigion); Tafarn y Gath

Er pan rydw i yma, mi dwi'n methu cysgu ar ôl i mi fynd i 'ngwely, achos mae 'na dŷ tafarn mawr dri drws i lawr, ac mae sŵn dychrynllyd yn dod o' 'na, bob awr o'r nos bron iawn.

GENEDIGAETH: Llongyfarchiadau i John a Linda Duggan, Tafarn yr Union Garth, ar ddod yn daid a nain unwaith eto.

Byddai cyfeiriad at hyn yn rhan o'i bregeth ger tafarn.

Ac fel yr oeddwn yn cydyfed gydag eraiU mewn un ty tafarn, cynigiodd un o'r cwmpeini sofren i oferddyn a elwid Ifan y Gof, os aethai allan drwy y dref yn noeth; ond nacaodd hwnnw fynd.