Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tafarnau

tafarnau

Y rhain oedd yn codi tafarnau a diotai, yn cyflogi asiantiaid rheglyd a meddw, ac yn gorfodi gweithwyr i dorri'r Saboth.

Dichon ei fod yn gwybod mwy o ganeuon a baledi Cymraeg na neb a adwaenem, a daliodd i'w canu yn y tafarnau ac ar hyd yr heolydd hyd y diwedd .

Mae'n hawdd cael gafael arno mewn clybiau ieuenctid, ac yn y tafarnau a fynychir gan ieuenctid adain dde.

Cyfarfu ynadon y dref i drefnu iddynt hebrwng y milwyr drwy gydol y dydd; penderfynasant ymhellach gau tafarnau yng nghyffiniau'r orsaf rheilffordd am ddau o'r gloch y prynhawn, a'r gweddill yn ardaloedd eraill y dref am naw o'r gloch y nos.

Eu gwerthu am geiniog yr un mewn tafarnau a ffeiriau ac yna gwario'r pres ar gwrw a dianc heb dalu oedd ei arfer cyn hynny.

Ceir enwau cyffelyb yng Nghymru wrth gwrs ond sylwais ar yr enwau tafarnau canlynol o bob rhan o Gymru sy'n cynnwys enwau adar, anifeiliaid ac un pysgodyn pur gyffredin: Tafarn Ditw, (LLan-y-cefn, Penfro); Tafarn Hwyaid, (Carreg-lef, Mon), Tafarn y Brithyll (Ystradmeurig, Ceredigion); Tafarn y Cornicyll (Llanwenog, Ceredigion); Tafarn y Gath

Rhedodd y dynion i'r tafarnau i'w cynhesu eu hunain efo cwrw a medd.

Daeth y discos, y bingo, agor tafarnau a siopau, a phob chwaraeon yn rhan o weithgarwch y Sul.

Ond yr ydych etto yn dilyn y cnawd, yn canu carolau i gyffroi eich chwantau, yn darllen llyfrau bydron anllad, ac yn gwenwyno y gwreiddyn pur, yn dilyn tafarnau, a thablerau, a llwon...yn dibrisio'r tlawd, yn byw yn hoyw, yn nhommen masweidd-dra, yn gwatwar sobrwydd...yngwely'r buttain, mewn gwleddau a glothineb, mewn meddwdod, a chwerthin, mewn cydorwedd a chywilydd...Deffro, Cyfod.