Nid gweslyfr mewn methodoleg ydyw, yn ôl yr awdur, ond cyflwyniad i astudio'r Gymraeg, gosodiad diymhongar iawn, a dweud y gwir, gan fod y bennod olaf, o leiaf yn canolbwyntio ar ddisgrifio methodoleg un ysgol ieithyddol, yr Ysgol Systemig, y gellir ei dilyn ar gyfer gwneud disgrifiad syncronig o'r Gymraeg, ac y mae'r bennod o'i blaen yn olrhain y datblygiadau yn nulliau ymchwilwyr i'r tafodieithoedd.
Mae'n amlwg eu bod yn ei chael hi'n anodd cyfathrebu gyda phobl yr oedd eu tafodieithoedd yn eu gwneud bron yn annealladwy wrth sgwrsio.
Dangosodd yr astudiaethau hyn fel yr oedd tafodieithoedd yn ymrannu'n ardaloedd ffocol, canolfannau o ddylanwad ar gyfer lledu nodweddion ieithyddol ac ardaloedd trawsnewid rhagddynt, sef ardaloedd yn rhannu nodweddion dwy neu ragor o ardaloedd ffocol cyfagos.
O safbwynt ieithyddol, os cynhwysir siaradwyr Occitan yn Ffrainc, Plattdeutsch yn yr Almaen a'r tafodieithoedd Eidaleg, codai y canran i bron pum deg y cant.