Darganfuwyd hefyd fod ystyriaethau gwleidyddol a diwylliannol, megis hen ffiniau gwleidyddol, yn cael eu hadlewyrchu yn llwybr yr isoglosau (y llinellau a osodir ar fap i nodi ffiniau ymestyniad daearyddol y ffurfiau dan sylw), a bod rhaniadau tafodieithol yn gallu adlewyrchu rhaniadau pell yn ôl.
darganfuwyd bod un o'r ffiniau tafodieithol pwysicaf yn cyd-daro â'r hen ffin rhwng llwythau Gâl a'r Etrwsgiaid.
Prif bwnc y bennod hon yw twf astudiaethau tafodieithol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen.
Rhoddir rhan dda o'r bennod i olrhain datblygiad astudiaethau tafodieithol yng Nghymru a gychwynnwyd yn niwedd y ganrif ddiwethaf, dan nawdd Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, dan lywyddiaeth yr Athro Anwyl, Aberystwyth.