Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

taid

taid

Pan oedd hi'n ddeg oed roedd Taid wedi'i gyrru i ysgol breswyl yng Nghymru, er mwyn gwella'i Chymraeg, ac roedd hi'n falch o gael mynd.

Rhyw ochri efo Byron Hayward ydw i yn hyn i gyd a dweud y dylid gadael i'r bobl yma chwarae i'r gwledydd lle cawson nhw eu geni ac nid lle gwelodd eu taid neu eu nain olau dydd.

Llongyfarchion a dymuniadau da i'r teulu bach ac i taid a nain.

Yr oedd taid a nain arfben eu digon yn cael cwmni'r ddwy, ac mae hiraeth ar eu hol nawr y maent wedi dychwelyd adref.

Teulu'r hen Harri Huws, eich taid, debyg iawn.

Wrth bwffian fel taid i fyny i'r man gwylio, gwelais wraig ifanc yn gwthio pram yr holl ffordd a gwr arall yn cario plentyn swnllyd fel iau ar ei ysgwyddau.

Dim ond un anhawster allaf i ei weld mewn strategaeth o'r fath - y bydd rhai yn meddwl mai taid y babi ydi William, nid ei dad.

Cynghorion hefyd wrth gwrs gan Taid a Nain.

'Gawn ni ddarllen yr enseiclopidia, Taid?' meddai.

Ac mae 'na neges iddi - helfa drysor gan Taid.

Eu henw nhw arno fo oedd cacuro de carnero neu Cachu Defaid fel byddai Taid Dulas yn 'i alw fo achos bod i Sbaeneg o mor glapiog.

Tacsi o dy Nain a Taid yn Maes Barcer i Stesion Gaernarfon i ddal y trên i Fangor a newid ym Mangor i fynd i Heathrow i ddal yr awyren i Awstralia.

Roedd Nain a Taid yn byw ym Maes Barcer, Caernarfon, ac yn fodlon imi aros gyda nhw ond yn 12 oed doedd gen i ddim llais yn y peth a mynd efo fy Mam a Nhad i Awstralia fu raid.

Pan ddaeth taid y Frenhines yma ddechrau'r ganrif i osod carreg sylfaen y Llyfrgell roedd pawb yn Frenhinwyr pybyr.

Ceisiodd hefyd eu paratoi'n ofalus ar gyfer y ffaith na fyddai Taid yno eleni i chwarae efo nhw a chanu am oriau bwy gilydd.

Dros y canrifoedd, mae sawl taid yn Llydaw wedi dangos rhai o'r meini hirion hyn i blant ei blant ac wedi gorfod ateb y cwestiwn "o ble y daeth y rhain, Taid?" A thros y blynyddoedd mae llawer o straeon yn esbonio'r hanes y tu ôl i'r meini.