Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tal

tal

Roedd Jean Marcel wedi ei weld yn dod drwy'r gawod eira, dyn tal, main, a het ddu wedi ei thynnu dros ei dalcen, a choler ei gôt yn uchel dros y rhan isaf o'i wyneb.

Codir tal am y gwasanaethau hyn ond gellid codi mwy o incwm eto trwy'r dull yma.

Ymadawodd Mr Tal Humphreys â'r ardal ar ei benodiad yn Brifathro Ysgol Llanymynech.

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Doedd ef ddim yn ddigon tal i'w dilyn, fodd bynnag, ond wedi clywed am heddlu'r carchar "teimlwn fod yma ryw fath o her, rhywbeth gwahanol" ar ei gyfer.

Y canlyniad oedd y byddai pawb ohonom yn hel pob math o esgusodion i osgoi'r gwaith hwn achos er y byddech chi'n gweithio fel slâf dim ond tâl am symud un pecyn oeddech chi'n ei gael.

Dyn tal, union ei osgo a balch ei gerddediad.

Daeth yn brif swyddog tal y gweithwyr.

Telir am Waith Nos ar gyfradd o un a hanner gwaith y Tal Dyddiol ac am or-amser Gwaith Nos ar gyfradd o un a hanner gwaith y gyfradd Gwaith Nos yn amodol ar yr uchafswm tal gor-amser.

Etyb Iorwerth gan wrthgyhuddo: deil fod Sion yn torri gwyliau (yr hyn nis gwnai ef), ei fod yn gelwyddog ac yn canu'n unig er tal: 'Ni thry'r min eithr er mwnai'.

cododd debra ei phen a gweld dyn tal yn sefyll wrth y bwrdd.

Mewn ardal chwarelyddol yr oedd y ddôl honno hithau (Dôl Pebin y Mabinogion) sef ardal mebyd y bardd, Tal-y-sarn.

Yn y llun gwelir rhai o hen dai teras Sheffield a rhai o flociau tal y ddinas.

I gyflawni'r gamp yr oedd Mr Wolff wedi hawlio tâl o $71ar ei ffurflen gostau am ddwy ddol vodoo a set o hoelion arch o sefydliad yn dwyn yr enw Dr Zombie's House of Voodoo yn New Orleans.

Ac wrth reswm, yr oedd ysbryd herfeiddiol y glowyr yn ganlyniad nid yn unig i'r tipyn chwerwedd ynghylch y plocynnau pren ond hefyd i annhegwch didostur holl amgylchiadau eu llafur a'u tal.

'Does dim brys gwyllt.' Pwysleisiodd yn fwriadol, 'Pobl ddiarth, weldi.' Gŵr ifanc tal, tenau, yn gwisgo sbectol oedd o Edrychodd ar yr ymwelydd, ac edrychodd yntau'n ôl arno.

Dysgu yn y bore a mynd i gyfarfod Wang Jun er mwyn cael tâl mis Mawrth o'r swyddfa.

Dyn tal, tenau oedd Eurwyn Puw, ei wallt wedi britho ac yn dechrau moeli.

Telir am waith ar Ddydd Nadolig, Gwyl San Steffan a Dydd Calan ar gyfradd o ddwywaith y Tal Dyddiol neu chwarter ychwanegol o Dal Wythnosol a telir am waith ar ddyddiau gwyl cyhoeddus eraill ar gyfradd o un a hanner gwaith y Tal Dyddiol neu un a hanner gwaith chwarter y Tal Wythnosol.

Caiff y Cynhyrchydd wneud Rhaglen Gyfansawdd o Raglen neu Raglenni a ddarlledwyd eisoes a phe defnyddir pwt o berfformiad yr Artist mewn Rhaglen Gyfansawdd o'r fath bydd gan yr Artist hawl i daliad ychwanegol nid llai na'r isafswm tal (gweler Atodlen A) a negydiad rhwng y Cynhyrchydd a'r Artist fydd yn cymryd i ystyriaeth hyd y Rhaglen Gyfansawdd a nifer a hyd y pytiau.

Yna, roedd hi mewn byd gwahanol, byd tywyll yn llawn o goed tal a'u brigau'n gwau trwy'i gilydd, byd dirgel ci%aidd y carlwm a'r cadno, y ffwlbart a'r fronwen, byd y wiwer a'r draenog a'r twrch daear a'r holl anifeiliaid eraill na chofiai mo'u henwau.

Bydd talu Tal Ail-ddarlledu yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau dau ddarllediad arall cyhyd a bod y pedwerydd darllediad o fewn pedair wythnos i'r trydydd a bydd talu ail Dal Ail-ddarlledu yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau dau ddarllediad arall cyhyd a bod y chweched darllediad o fewn pedair wythnos i'r pumed.

Dydy Norwy ddim y tîm mwyaf creadigol - maen nhw chwarae fel Wimbledon - Route 1! Mae blaenwyr tal gyda nhw ond yn anffodus dim chwaraewyr creadigol.

Bydd talu'r Tal Gwaith a'r Tal Atodol yn rhoi'r hawl

Tal Atodol

Mae gennyf gof am ddyn tal yn hoblian rhedeg am y promenâd, deifar un goes o'r enw Dolphin, ac achubwyd un llanc.

Y tal a gawsem oedd chwe cheiniog am fynd rownd y cwrs naw twll a thair ceiniog, gan amlaf o gildwrn ar ben hynny.

Yn tarddu o gopyn y pen hwnnw roedd dau dwred tal a edrychai fel par o gyrn arsgwar.

Tegeirian tal, cain ei wedd, o liw pinc tywyll ydyw, a'i arogl hyfryd o sbeis a mymryn o 'carnation' yn cryflhau fin nos er mwyn denu'r gwyfynnod i'w beillio.

"Tal Cyfleusterau% Holl gostau argraffu dyblygu prosesu ac unrhyw gost labordy arall a ddaw i ran yr Archif wrth ddarparu'r Deunydd gan gynnwys heb gyfyngiad unrhyw gostau cludo llwytho ac yswiriant a ddaw i ran yr Archif wrth gludo'r Gwaith a'r Deunydd i'r labordy ac oddi yno.

Ond, a minnau'n hoffi'r ddau, gwell gennyf ddweud eu tynghedu hwy i wrthbwyso'i gilydd fel y gwna deuddyn tal a byr neu dew a thenau yn rhwymau glân briodas.

Gyda'i geffyl a chart bu'n cario sacheidiau o flawd a nwyddau eraill a derbyn tal amdanynt, trwy'r dydd.

Pe ymrwymid yr Artist i ymddangos mewn hysbyseb Rhaglen nad yw'n ymddangos ynddi telir y Tal Dyddiol neu Wythnosol a thal ychwanegol am bob darllediad (gweler Atodlen A).

Yn achos Rhaglen neu Raglenni a wneir ar gyfer ysgolion neu addysg oedolion bydd talu'r Tal Gwaith a'r Tal Atodol yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau darlledu'r Rhaglen ddwywaith cyhyd a bod yr ail ddarllediad o fewn pedair wythnos i'r cyntaf.

Dechreua'r hanesyn cyntaf yma gyda theulu mawr ym mhentref Tal-y-waun, sir Fynwy.

Mi fyddai Tom, yr hogyn hyna, wrth roi'i gap ar yr hoel, er yn ddyn tal, yn codi ar flaenau'i draed heb fod yn rhaid iddo.

Gellir anfon ci ymhell iawn oddi wrthych a gweld beth oedd yn digwydd "yn y cwm pell", megis, heb fod yna redyn tal na grug trwchus rhwng dyn a'i gi.

Y mae hi eto o dan ei choron yn ei hawddgarwch arferol, ac yn ymddangos yn hapus ddiogel rhwng rhengoedd tal gosgordd unffurf y 'rose bay willow herb na fu erioed yn fwy llewyrchus nag yw eleni.

Galwodd eto a daeth y bachgen allan o'r buarth ar gefn y ceffyl gwinau tal.

Gellir ymgorffori perfformiad yr Artist neu ran ohono mewn Dilyniant Agoriadol neu Ddilyniant Cloi neu i Raglen arall yn yr un gyfres fel Cip-yn-ol neu Gip-ymlaen drwy dalu tal ychwanegol (gwweler Atodlen A).

Codir tal bychan am gael benthyca casetiau a chryno-ddisgiau.

Gellir defnyddio Ecstracts o berfformiad yr Artist mewn rhaglenni addysgol, cyfarwyddiadol, beirniadol, cylchgrawn, dogfen neu raglenni tebyg ac mewn rhaglenni cwis, gemau panel a rhaglenni gwobrwyo drwy dalu Tal Ecstract (gweler Atodlen A).

Roedd mwy na digon ar gael, er fod galw y pryd hynny am weinidog ar ofalaethau heb fod yn fawr, megis Parc a Moelgarnedd; Tal-y-bont a Llidiardau; Celyn ac Arennig; Cwm Tirmynach a Phant-glas; a Rhydlydan a Thŷ Mawr.

Wrth gwrs, rhaid oedd mynd o un swyddfa i'r llall i gael llofnodion a stampiau di-ri cyn medru mynd at y swyddfa ariannol i dderbyn y tâl.

Dyn tal a golygus oedd e pan oedd e'n ifanc, yn enwedig pan oedd e'n gwisgo ei lifrau.

ellis owen yn troi 'r gornel am stryd y capel a 'r mans mans noson seiat, meddai seth harris yn gwta, a thewi pan aeth griff tomos ati i holi gethin ynghylch beth a ddigwyddodd, ble 'r oedden nhw 'n chwarae, beth oedden nhw 'n chwarae, sut fachgen oedd ffred, ai tal ynteu byr, tew yntau tenau, ac ymlaen ac ymlaen tra canolbwyntiai williams ar yrru cyn gyflymed ag y gallai.

Edrychodd Meg ar ffigur tal Rowland o'i blaen.

Doedd yna ddim tâl trosglwyddo wrth iddo adael clwb Everton.

Roedd yn ddyn tal, tenau, ariannaidd, tua chwe deg oed, fwy neu lai.