Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

talai

talai

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Nid oedd yn gocysen bwysig mewn unrhyw gynllun; nid oedd yn 'ddylanwadol' mewn llywodraeth leol nac unrhyw bwyllgor penodiadau; nid oedd gwpwrdd ffeil o wybodaethau hwylus; nid oedd yn ddyn busnes nac yn gyfryngwr rhyngoch a phwerau y talai ichwi eu hastudio a gwrhau iddynt.

Yr un syniad a arweiniodd y meddwl Cristionogol ymhen amser i ddehongli iawn yng Nghrist mewn termau aberthol, ond gan ei drawsnewid yn syniad am iawn lle y talai Duw ei hun bris yr aberth.

Yn ol yr un gofrestr, roedd Trefor yn cael ei addysg am ddim - 'Exempt from Tuition Fees' - ond talai ei dad am addysg Euros.

Credai'r ffermwr y talai'r ffordd i roi pâr o bedolau dan y ceffyl gan y byddai'r pedolau yn ei helpu i gerdded yn ysgafnach a sicrach ar ffyrdd celyd.

Talai'r Ddraig Goch ei ffordd, ond yn awr, daeth yn bryd talu cyflog HR, a rhent y swyddfa yn Aberystwyth.