Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

talwm

talwm

Yma yn ei chartref rhwth nid yw 'fy nghariad' yn ddim byd bellach ond 'rhyw-ers-talwm-lygaid/yn pwyo'r distawrwydd rhwng cledrau fy nwylo'.

Roedd yn hanner tywyll yno am fod rhai o'r bylbiau wedi ffiwsio ers talwm, a neb wedi rhoi rhai newydd yn eu lle.

Nid adeiladwyd porthladdoedd mor sylweddol a chadarn â rhai heddiw ers talwm, ac erbyn hyn mae llawer ohonynt hwythau wedi eu dinistro neu wedi'u gorchuddio â thywod a llaid.

nage, ond rydw i wedi byw yma ers talwm.

Roeddwn i'n darllen yn Y Cymro mai tywydd mis Mehefin eleni oedd y salaf ers talwm, ac roeddwn i'n falch o weld Gorffennaf yn cychwyn.

Ar Galan Mai ers talwm byddai'n arferiad addurno bedwen dal a dawnsio o'i chwmpas.

Mi fyddai'r hen ddynas fy mam ers talwm yn cau un ochr i'r hen bwll oedd o flaen y tŷ 'cw a gadael ochr yr afon oedd yn rhedeg iddo yn agored.

'Ers talwm,' dechreuodd, 'pan oedd pobl yn byw ar yr wyneb...'

'Ond trysorau wedi eu cuddio gan hen fôr-ladron a phobl ers talwm ydi hynny, pobl yr un fath â'r Rhufeiniaid a phethau felly.

Tueddwn i gredu bod bopeth yn well ers talwm - y tywydd, y bwyd, y gymdeithas.

"Oeddan nhw eisio rhywle a oedd yn edrych yn debyg ­ Cheapside yn Llundain ers talwm ac er nad oeddan ni wedi meddwl bod Caerffili yn debyg ­ Lundain, ryden ni'n falch iawn eu bod nhw wedi dod yma.

Wrth gofio am y dyn llyfr bach hwnnw yng Nghapel Maenan, 'rydw i'n 'i weld o'n debyg iawn i Ebedmelech ers talwm yn codi'r proffwyd Jeremiah o'r hen bydew hwnnw.

Nid sach fechan tebyg i sach lo oedd hon, ond o'r un maint â sach wenith ers talwm, ac roedd hi wedi'i stwffio'n llawn dop â rupies.

Dydyn nhw ddim yn galw am sgwrs fel y byddan nhw ers talwm.

Teimlwn fel Mari Huws nymber ten ers talwm.

'Da, 'ngwas i, tasat ti ond yn ca'l dy dderbyn yn bregethwr cynorthwyol, William, fath â dy daid ers talwm.' 'Ydi'r cur pen yn well, Mam?' 'Dipyn bach.' 'Mi wna i banad bach o Ofaltîn i ni'n dau cyn mynd a mi fedrwch chi fynd i'ch gwely'n reit handi wedyn.'

Ceir nifer helaeth o eiriau a dywediadau yn Sbaeneg sydd fel adlais o'r cysylltiadau a fu ers talwm.

'Fel y derwyddon ers talwm,' ychwanegodd, gyda gwên gam.

Fel Nain Rhoscefnhir ers talwm, rhen dlawd, mae gen innau ffydd mawr mewn siocled.

Ers talwm roedd yr arferiad i olchi rhan briwedig o'r corff gyda cherpyn a dŵr y ffynnon ac yna clymu'r cerpyn i frigau'r ddraenen.

'Well gen i bethau mwy soffistigedig.' 'Doeddet ti ddim felly ers talwm.'

Biti garw am hynny, achos mi oedd Mrs Robaits, Cae Hen, wedi gaddo ers talwm y caen ni'n tri fynd efo hi a Jên a Jim i draeth y Foryd am ddiwrnod.

Pan ddywed rhywun y geiriau "Llên Gwerin", fel arfer, fe aiff ein meddyliau i gyfeiriad ers talwm: daw i gof hen chwedlau, hen ddywediadau a hen gredoau, a teg yw dweud hefyd, yn nhyb y mwyafrif llethol o bobl, mai perthyn i'r gorffennol mae pethau llên gwerin hefyd, sef coblynod, tylwyth teg, cewri ac yn y blaen.

"Mae'n rhaid i mi beidio â'i gollwng," meddyliodd, gan barhau i gael ei lusgo drwy'r tonnau a chan gofio'r tro hwnnw y syrthiodd oddi ar ei geffyl ers talwm a chael ei dynnu ar hyd y ddaear gydag un droed yn sownd yn y warthol.

UN o'r bobol bwysicaf ym mywyd pob myfyriwr am y weinidogaeth a phob gweinidog hefyd, ers talwm, oedd y dyn llyfr bach.

Neu fel y byddai Jen Elin yn canu yn y Gystadleuaeth ers talwm Bw-w-w-w-wthyn a-a-r y Bryn.

Mae'n blanhigyn cyfoethog mewn mineralau a fitaminau ac fe'i gwerthid mewn marchnadoedd ers talwm; rhowch gynnig ar y dail mewn salad ryw dro.

'Mae'n rhyfedd na fyddech chi wedi gwneud hynny ers talwm,' meddai Sioned.

Gallai ddychmygu mai fel hyn oedd Cymru ers talwm.

doedd hi ddim wedi bwyta mewn tŷ bwyta ers talwm, felly penderfynodd hi ddathlu'r swydd newydd trwy fynd allan am y noson.

Bingo a thafarna a chlybia pia hi yn yr ardal yma heddiw." "Chwara teg rşan, mae 'na weithgaredda diwylliadol hefyd, cofia di ş ond heb fod yn gysylltiedig a'r capal bob amsar, fel ers talwm." "Oes, a bod yn deg.

Yr oedd Steve Reeves a fu farw ar Fai 1 yn dipyn o ddirgelwch i mi ers talwm.

Mae'r Rwsiaid bellach yn ymwybodol iawn fod diffyg nwyddau yn y wlad o'i chymharu a gwledydd llewyrchus y gorllewin, ac o'r herwydd mae eu hagwedd tuag at ymwelwyr tramor yn atgoffa dyn weithiau o'r 'Cargo cults' ers talwm.