Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tanbaid

tanbaid

'Stop it!' Cododd i'r awyr fel draig lidiog, a distawodd y chwilod dan ei Iygaid tanbaid.

Arweiniodd y siom at brotestio tanbaid.

Mae'r gwres tanbaid ynghanol y ddaear yn gwthio creigiau tawdd tuag at yr wyneb.

Traddodwyd areithiau tanbaid gan eraill.

Ar bnawn o heulwen tanbaid ym mis Mai eniUodd Cymru, bron yn anhygoel, o bedair gôl i un.

Haul tanbaid, awyr ddigwmwl o fora gwyn tan nos, a'r môr yn las, las.

Ta waeth, doedd gan yr Arabiaid ddim amynedd a'r fath ffolineb - a phwy all eu beio nhw a hwythau'n byw tan haul tanbaid y Dwyrain Canol.

Peidiwch â chamsynied, chwaith; nid gornest yn null y Barbariaid oedd hi, eithr ymryson ffyrnig gyda hyrddio, rycio a thaclo tanbaid.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Ac rwy'n synnu na fyddai llywydd y Kirk wedi pwysleisio hynny yn ei apêl am bregethwyr tanbaid.

Deuai sain bandiau milwrol yn gyson dros yr awyr, a rhwng hynny clywem areithiau tanbaid, i gyd mae'n siwr yn cyhoeddi rhinweddau y sustem gomiwnyddol, a chanu clodydd y chwyldro mawr a arweiniodd at y fath gyfundrefn lweyrchus.

Bob hyn a hyn, dâi fflach o olau tanbaid o'r du%wch.

Tra eich bod wrthi, sylwch hefyd fod darnau mawr o dywodfaen frown i'w gweld ar draws y traeth, a bod olion crychdonni'r Môr Triasig yn ogystal ac olion craciau a wnaethpwyd yn y mwd wrth iddo sychu dan yr haul Triasig tanbaid.

Yr oedd eraill yn fwy tanbaid ac eisiau gweld cryn newid yn nhrefn llywodraeth yr Eglwys, efallai hyd yn oed cael gwared â'r drefn esgobyddol.

Pe bawn wedi aros yn y bwthyn gyda mam a Rachel, buaswn wedi gweld dwy'n ymgolli'n ddagreuol a melys yn eu hatgofion a chlywed canmol gerddi Y Plas gyda'i lawntiau'n dawnsio yn lliwiau porffor ac aur tanbaid canhwyllau'r forwyn.

Yna wrth i'r golau tanbaid lifo i mewn fe welais amlinell lori'n gwegian dan ei llwyth o sachau a dynion arfog yn syllu'n herfeiddiol ar bawb a phopeth.

Ond prysuraf i ddweud mai'r rhwyg rhyfedd hwn oedd un peth a wnaeth Gymry tanbaid o nifer fawr o fyfyrwyr y cyfnod hwnnw.