Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tara

tara

Clywais ef yn dweud iddo eistedd oriau wrtho'i hunan ar y bryn a elwir 'The Hill of Tara' - hen gartref Uchel Frenhinoedd Tara - yn myfyrio am hen orffennol y genedl Wyddelig, a bron, meddai ef, na allai weld yr hen ogoniant yn rhithio o flaen ei Iygaid wrth eistedd yno.

Yn ei lyfr Meistri'r Moroedd, y mae Mr Aled Eames yn sôn am y "munudau tawel ar nos braf, ac yn y distawrwydd clywed Mrs Pritchard yn canu'r piano yn y caban a'r Capten yn ei lais bariton cyfoethog yn canu 'The harp that once through Tara's Hall' neu Dafydd y Garreg Wen Claddwyd Mrs Pritchard yn Laurenco Marques a gallwn ddychmygu y tristwch ar y llong ymysg y criw ac yn enwedig tristwch Capten Pritchard o adael ei wraig mewn bedd ar dir estron.