Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tarddu

tarddu

Yn yr ail, mae'r silia i gyd yn tarddu o gelloedd nerfau.

Jones, fe grewyd ...rhwydwaith mawr o gwynion yn erbyn eglwys a landlord a gwladwriaeth, a theimlai'r werin mai teulu'r tarddu o'r un gwreiddyn oedd y tri ac mai eu cynnal eu hunain yn erbyn llafurwr neu amaethwr oedd swydd waelodol y tri.

Byddai tarddu Arthur o Artorius yn rheolaidd yn ieithegol, ond os dyna ffurf wreiddiol ei enw ni chadwyd unrhyw gof am hynny.

Mae hi'n egluro o ble rydan ni'n tarddu, a sut y llwyddwyd i greu cymdeithas oedd yn gallu siarad, dadlau a thrafod â hi ei hun.

Athrylith a oedd yn tarddu o ddiniweidrwydd y plentyn.

Ac o dro i dro, bydd yn rhaid rhoi cerydd i ohebydd swrth am fod yn hwyrfrydig i anfon stori oedd yn tarddu yn union ar garreg ei ddrws.

Rhai blynyddoedd yn ol, archwiliwyd y cirysau ochrol blaen yn y miscrosgop electron ac ymddengys bod pob cirws yn tarddu o un gell, a'i fod yn cynnwys dwy res gyfochrog o silia.

Nid oedd y comisiwn yn dweud fod awdurdod Farley yn tarddu oddi wrth y Goron.

Y ffwrnesi mawrion a'u geneuau aethus yn chwydu allan golofnau mwg a fflamiau troellawg cymysgedig a gwreichion i'r nwyfre, ac megys o dan ei seiliau yn tarddu allan gornentydd tanllyd o feteloedd yn llifo i'w gwelyau, y peirianau nerthol yn chwythu iddynt trwy bibellau tanddaiarol fel pe bai diargryn wedi talu ymwdiad a'r dyffryn .

Ei gred, fel amryw o'i gyfoeswyr, oedd fod y Gymraeg yn tarddu o'r Hebraeg ac y gellir olrhain ei tharddiad yn ôl i'r cymysgu ieithoedd a ddigwyddodd adeg helynt Twr Babel.

Yn ail ran yr ysgrif hon carwn gyfeirio at enghreifftiau penodol o barhad rhai hen goelion gwerin, a'r coelion hynny wedi tarddu'n bennaf oherwydd ofn cynhenid dyn.

Yn y cudynnau hyn mae'r silia yn tarddu o gell sengl sy'n amgau cell chwarren.

Mae afon Cafnan yn tarddu yn Llyn Llygeirian ym mhlwyf Llanfechell ac yn llifo tua'r gogledd i'r môr ym Mhorth y Pistyll, cilfach fechan ar ochr orllewinol Trwyn y Wylfa.

Mae ymgais llenyddol felly nid yn unig yn peri i'r Groegiaid ymddangos yn fwy fel bodau dynol ac yn nes at fyd a diwylliant y darllenydd o Gymro, ond hefyd yn rhoi tras uchel ac urddasol, fel petai, i un o ffurfiau llenyddiaeth Gymraeg, trwy ddangos ei bod, os nad yn tarddu yn uniongyrchol o'r ffurf gyffelyb mewn Groeg neu Ladin, o leiaf yn ddigon tebyg iddi i haeddu parch cyfartal.

Y mae eu henwau yn odli â'i gilydd - Basas, Dulas, Baddon, Celyddon, ac ymlaen - ac awgryna hynny eu bod yn tarddu o gerdd Gymraeg gynnar yn cynnwys rhestr o frwydrau enwog.

Credaf ei fod yn beth arwyddoacol fod Williams, Elias ac yntau'n tarddu o gefndir tlawd a difantais.

Gwna hynny ar sail yr elfennau a roes fod iddi, ac yn wyneb rhwystrau sy'n tarddu o'r cefndir hwnnw ac yn arfaeth yn ei bridd.

Ni allai Saunders dderbyn bodolaeth llenyddiaeth Gymreig yn tarddu o'r cymoedd, am na allai dderbyn bodolaeth y cymoedd fel rhan o Gymru.

b Tarddu o'r ferf 'gorchuddio' neu 'sychu ymaith' a wna kpr (a'r ffurfiau yn deillio ohono: kippêr, kophêr, kaphâr etc.) a chyfeiriai at ddefod aberthu er mwyn symud ymaith bechod: 'Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod' (Ex.

Afon weddol fawr sy'n tarddu ger Llannerch-y-medd.

Gelwir y rhan o Afon Caradog sy'n llifo drwy blwyf Llandrygarn yn Afon Post hefyd gan bobl yr ardal, enw sy'n amlwg wedi tarddu o'r ffaith fod Swyddfa'r Post ar un adeg yn Rhydcaradog.

Yn ogystal â defnyddio'r gohebwyr lleol fel ffynhonnell, bydd cyfran o bob bwletin yn tarddu o'r adran newyddion ei hun.

Yn tarddu o gopyn y pen hwnnw roedd dau dwred tal a edrychai fel par o gyrn arsgwar.

Gwelir yr elfennau sy'n tarddu o hanes, a'r rhai onomastig, ond y mae'r rhan fwyaf yn nodi problemau ynglŷn â'r gwaith am fod yr arwr tybiedig, Culhwch, yn cadw ar gyrion y stori, gan adael cyflwyno'r tasgau arwrol i Arthur, a bod hwnnw yn ei dro 'dan law' y cawr ynfyd Ysbaddaden Bencawr.

Mae'n tarddu mewn ardal lle mae'r traenio'n gymhleth ac yn amhendant i'r de-orllewin o Bentraeth ac yn ymuno â'r brif afon ar Gors Ddyga ger Tregarnedd.

Mae'r holl iaith yn ei haeddfedrwydd yn tarddu o'r gydberthynas driol hon.

Mae'r nant hon yn tarddu gerllaw pentref Llanddona.

Ac o'r profiad hwn, o'r uno ysbrydol â Christ, yr oedd gorfoledd ac egni'n tarddu.

Ac enw Lladin, ebr Collingwood, oedd Arthur, yn tarddu o Artorius, enw hysbys ym Mhrydain Rufeinig.

Darllen oedd ei brif ddiddordeb ac, fel Fidel, roedd ei gymhellion yn tarddu o ramant a moesoldeb yn hytrach nag unrhyw ideoleg bendant.

Y mae dyn erioed wedi dymuno ennyn bendith y duwiau, ymatal rhag herio ffawd a rhagluniaeth ('Fe ddof yfory, os byw ac iach...' ) Mae'n awyddus i ennill lwc dda a chael bod yn ffortunus neu'n ffodus mewn bywyd (ansoddair sy'n tarddu o'r gair 'ffawd').

Annifyrwch sy'n tarddu, efallai, o'r ffaith bod y fath lofruddwyr yn crwydro'r byd.

Yn ei rhagair mae hi'n esbonio mai ceisio gweld ystyr, fel y mae'r gair hwnnw'n tarddu o'r Lladin historia, y mae Layard wrth drafod Culhwch ac Olwen.

Am ryw reswm, mae dwr yn tarddu yno, gan roi inni fyd hollol wahanol ar ei union Yn Oman y gwelais i rasus camelod am y tro cyntaf - a dyna ichi olygfa ydi honno.

Ond pa Gymro na wridodd wrth ddarganfod bod cynifer o eiriau y tybiasai eu bod yn Gymraeg yn tarddu o Saesneg?

Os buoch chwi'n ceisio gwerthu buwch sbeitlyd ryw dro, fe gofiwch fel yr ymddangosai fod holl stūr y farchnad yn tarddu o gylch eich cyfeilles.