Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tarfu

tarfu

Gwaetha'r modd mae anafiadau wedi tarfu ar eu trefniadau nhw, hefyd.

Mae Cura yn ymateb gyda rhyw ffraethineb i grawc aderyn sy'n tarfu ar gychwyn un o'i ganeuon.

Cawsom berfformiad da y tro hwn hefyd, er i'r cantorion gael eu tarfu yn yr act gyntaf drwy i'r golau trydan ddiffodd ddwy neu dair gwaith, a'u gorfodi hwy a'r gerddorfa i roi'r gorau iddi.

Gan mai ychydig a wyddom am fiocemeg a nodweddion mecanyddol haen galed amddiffynnol o'r fath, mae'n hanfodol gwneud ymchwil cyn tarfu ar sefydlogrwydd y safle.

Teimlent eu bod wedi tarfu digon ar no erbyn hyn ac yntau'n amlwg yn ddyn prysur felly dechreuodd Llio gasglu ei phethau at ei gilydd a diolch iddo am ei help.

Ac mae'n siŵr gen i fod fy niffyg ymateb i wedi tarfu mwy nag un er fy mod i'n gwneud ymdrech i wenu, o leiaf, rhag ymddangos yn dwp.

Mae car arall yn tarfu ar y dyfalu - gwleidydd y tro hwn - Paul Murphy, yr Ysgrifennydd Gwladol.

Hefyd mae nifer o swyddogion blaenllaw Awdurdod Datblygu Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru am eu hamheuon bod y Cynulliad yn ceisio tarfu ar gyfrifoldebau a statws y corff.

Er hynny, buan mae'r drymiau a'r gitars yn tarfu, gan gyfleu'r gwahaniaeth rhwng yr ochr angylaidd a'r agweddau mwy sinistr sydd i fywyd.

Rhaid oedd cerdded yn reit ddistaw hefyd gan fod sw^n traed yn tarfu pysgod.

Ai am eu gorchestion peirianyddol y derbyniwn heddiw nad ydyw trenau'n tarfu fawr mwy ar naws yr ucheldir nag adfeilion hen gestyll?

Brysiodd Denis y Stiward o'i bulpud i geisio troi y locals meddw rhag tarfu ar brynhawnol hedd y sipwyr gin.

Rydym ni erbyn hyn yn cael ein gwahodd i'r ystafelloedd am goffi, ond y duedd yw mynd i'r un ddwy ystafell bob tro, a dyna reswm arall pam bod angen ystafell arnom ni - fel y gallen nhw ddod atom ni am goffi, yn lle'n bod ni'n tarfu arnyn nhw drwy'r amser.

Wneith o ddim tarfu arni hi, mae o'n gaddo bihafio, wneith o ddim malu'r lluniau tro 'ma na dymchwel y byrddau.

A thra deil i chwilio fe fydd ysbryd yn tarfu ar bawb sy'n byw ym Mhlas Madyn.

Er bod y prysurdeb yn tarfu ar eu gwaith, roedd y gwirfoddolwyr o Somalia wrth eu bodd.

Trowyd hwy'n feini am feiddio tarfu ar y diwrnod sanctaidd.