Fe ddechreuodd y dryswch o'r eiliadau cynta', pan gliriodd y cymylau uwch Vilnius ac y trawodd yr awyren DanAir y tarmac ym maes awyr digysur y dref.
O'n cwmpas ar y tarmac, roedd hen awyrennau Aeroflot fel morfilod ar draeth ac ambell fodel propeliog yn dadfeilio'n ddi-urddas o dan yr awyr lwydaidd.
Gyda'r fath chwyddiant a chwalfa masnachol, nod offer plymars a beiro a ffilm sy'n amhosibl o brin ond teiars i lori%au ac awyrennau, fel y tystia moelni brawychus olwynion mewnol y deuawdau rwber sy'n hwylio'r tarmac.