Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tarw

tarw

A heb air arall o eglurhad, troes Snowt i'r lon a arweinia i'r Tarw Coch.

Ar wahan i glamp o raswraig unig gyda phen ôl fel caseg a bol fel tarw penwyn.

Mae'r teirw yn ceisio gwthio'i gilydd wysg eu pennau o amgylch y cylch ond dim ond am rhyw ddau funud neu dri mae'r gystadleuaeth yn para - nes y bydd un tarw ar ei liniau neu pan yw'r gwr efo'r corn siarad yn rhoi diwedd ar bethau a dau darw arall yn cael eu tywys i'r cylch a'r holl beth yn dechrau eto.

Ac fe gefais gyfarwyddiadau - manwl; pwy ffordd i'w dilyn allan o Langolwyn, troi i'r chwith wrth eglwys y Santes Fair, a dilyn y ffordd fawr am ryw ddwy filltir, troi oddi ar honno wedyn wrth westy'r Tarw Du, a dilyn y ffordd gulach i fyny'r llechwedd; troi heibio talcen capel Methodus a dilyn ffordd y chwarel garreg galch; yna, ar grib rhiw go serth, ac yng nghanol y wlad yr oedd Trem Arfon.

Gofynni iddo dy arwain ar unwaith i'r fan lle y gwelodd hwynt, ond fe awgryma ef y byddai'n well i ti dreulio'r noson yn y caban ac iddo fynd â thi i ben draw'r goedwig fore trannoeth gan fod y marchogion yn dilyn prif lwybr y goedwig, ond fe ŵyr Morgan am lwybr tarw a fydd yn dy arwain drwy'r goedwig yn gynt.

Dro arall mae tarw'n penderfynu dianc a'r gynulleidfa yn gofod codi a rhedeg i lechu y tu ôl i'r cerbyd agosa nes bo'r gwarchodwyr yn cael gafael ar y rhaff sydd am wddf yr anifail ac weithiau gael eu llusgo cyn cael rheolaeth arno.

Yr oedd cyfarwyddiadau Emli'n burion: tro ar y chwith wedi mynd heibio'r eglwys, yna, ymhen tua dwy filltir, dyma'r Tarw Du i'r golwg, lle pur boblogaidd a barnu wrth nifer y ceir a oedd yn ei fuarth.

Rydw i'n mynd i'r Tarw Coch am beint neu ddau, i gael ysbrydiaeth.

Y funud y gwelodd Idris, dyma'r cawr ar ei draed, yn rhuo fel tarw, yn chwifio'r ordd uwch ei ben, a'i lygaid yn melltennu.

Mae son am darw yn fy atgoffa i o ddyddiau cynnar gwasanaeth y tarw potel.