Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tasgau

tasgau

Y tasgau y byddai disgwyl i ddysgwr eu cyflawni fyddai'r tasgau y byddai angen i siaradwr yr iaith eu cyflawni mewn amgylchiadau diffiniedig.

Er bod gwaith allweddol yn rhan hanfodol o swyddogaeth gweithiwr gofal, gall defnyddwyr y gwasanaeth eu hunain gyflawni tasgau o'r fath.

Mae'r gweithwyr yn cwblhau tasgau sydd o fewn eu cyraeddiadau fel unigolion.

I'r pwrpas hwn byddir yn crynhoi elfennau o'r ymchwil gwreiddiol, ei berthnasu i'r sefyllfa ddosbarth trwy gyfrwng y tasgau a awgrymir, a'i gyflwyno'n dameidiau man haws eu treulio, gydag awgrymiadau am drafodaethau a thasgau ymchwiliol yn y dosbarth yn dod rhyngddynt.

O'r diwedd gwnaed y tasgau olaf ac roedd yr eglwys hardd yn barod ar gyfer y gwasanaeth agoriadol.

Nid person ydyw Culhwch i Layard, ond Ego, sef craidd person, sy'n gorfod mynd ar ofyn yr Hunan, sef Arthur, i'w helpu i gyflawni'r tasgau sy'n angenrheidiol er mwyn cael rhyddhad oddi wrth ddylanwadau a hualau a osodwyd arno, neu er mwyn medru dod i delerau, a dysgu cyd-fyw, â hwy.

Yn bennaf, felly, y mae angen i'r cyfarwyddwyr ar y naill ochr a'r Adran ar y llall gydnabod y gellid cyflawni'r tasgau hyn i gyd naill ai drwy gomisiynu gwaith neu drwy gyflogi person ac mai'r ganolfan a ddylai benderfynu pa un sy'n briodol ym mhob achos er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o'r cymorth a ddyranwyd ac o'r arbenigedd sydd ar gael iddynt.

Dylai unrhyw drefniadaeth gyllidol gydnabod mai cyfarwyddwyr y canolfannau, nid swyddogion PDAG na'r Swyddfa Gymreig, yw'r unigolion â'r wybodaeth orau am yr anghenion staffio mewn unrhyw un ganolfan ac mai'r asiantaeth sy'n cynnal project ddylai fod yn gyfrifol am sicrhau y dulliau mwyaf effeithiol o gyflawni'r tasgau sydd ynghlwm wrth y gwaith cynhyrchu er mwyn cyflawni'r project o fewn y cyfnod cytunedig.

Gwelir yr elfennau sy'n tarddu o hanes, a'r rhai onomastig, ond y mae'r rhan fwyaf yn nodi problemau ynglŷn â'r gwaith am fod yr arwr tybiedig, Culhwch, yn cadw ar gyrion y stori, gan adael cyflwyno'r tasgau arwrol i Arthur, a bod hwnnw yn ei dro 'dan law' y cawr ynfyd Ysbaddaden Bencawr.

Gyda llaw, wyt ti'n hoffi bwyd ysbyty?' Ac yna, yn ddisymwth, roedd y cyfarfod ar ben a Dei wedi cael mis o amser i gyflawni'r tasgau, ac wedi cael ei siarsio ar boen ei fywyd i gadw'r cyfan a welodd ac a glywodd yn gyfrinach.

* creu adnawdd gwreiddiol- cyfieithu adnawdd sydd eisoes wedi ei baratoi * prynu ffilm neu gaset o'r fersiwn gwreiddiol * sicrhau hawlfreintiau * cysodi'r testun * golygu'r testun * recordio'r testun * cynhyrchu'r copi meistr * dylunio'r pecyn cyfan * gwaith gweinyddol ac ysgrifenyddol sy'n gysylltiedig â'r tasgau uchod.

Y garddwr da yw hwnnw sy'n ymwybodol o'r tymhorau ac yn cyflawni tasgau arbennig ar yr adegau priodol o'r flwyddyn.

Roedd y profion yn cynnwys tasgau a oedd yn aml yn ymddangos yn amherthnasol i rai a oedd am ddysgu siarad iaith, ac roedd y ddibyniaeth drom ar yr ysgrifenedig, yn eu gwneud yn anodd - yn enwedig fel yr eid i lawr yr ystod gallu.

Mae cynorthwyon technolegol a chymorth personol ill dau yn fathau o gymorth - maen nhw'n rhoi i'r person anabl ffordd wahanol o wneud tasgau trwm sy'n cymryd amser.

Disgwylir i'r tasgau sydd ynghlwm wrth y gwaith gael eu prisio ar sail disgrifiad o'r testun sydd i'w gynhyrchu.