Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

taw

taw

Mae'n mynnu taw ganddo ef y ceir y dehongliad cywir, yn wahanol i'r un a gafodd ei lygru gan wledydd Arabaidd eraill.

Dyna pam y dwedodd Graham Henry taw Lloegr yw'r ail wlad gryfa yn y byd y dyddiau hyn, drwch blewyn y tu ôl i Awstralia.

Ddim taw ar i hen sŵn o?

Ond taw faint o gopi%wyr a ddaeth i lanw'r adwy, amhosibl oedd iddynt gyflenwi'r holl alwadau a glywid am lyfrau - yn enwedig am destunau crefyddol.

Ar y dechrau penderfynais mai taw piau hi - a dioddef yn ddistaw.

meddwl rydw i am greulondeb rhai o'r pabau ac mae gen i ryw obsesiwn ynglŷn â'r chwilys, yna'r brwydro ofnadwy rhwng catholigion a phrotestaniaid, a'r creulondeb a'r poenydio a'r erledigaeth ar y ddwy ochr, a'r holl wrachod a gafodd eu llosgi, a ffanatigiaeth jonestown a arweiniodd naw cant o bobl i gyflawni hunanladdiad, heb sôn am y seiliau crefyddol y tu ôl i'r holocaust hynny yw fod yn cael ei hategu gan y celwydd taw'r iddewon groeshoeliodd crist, a'r defnydd o ddyfyniadau ysgrythurol i gyfiawnhau dienyddio gwrywgydwyr ).

Gân nhw i gyd weld taw coch yw ein gwaed.

"Be' wyt ti'n feddwl ydi o?" "'Sgen i ddim syniad, ond mae o'n codi arswyd arna' i." "Taw." "Ydi, wir yr." "Tyrd o 'na."

c) mai realiti'r sefyllfa yw fod cyrff o fewn y tair sector (cyhoeddus preifat a gwirfoddol) yn gweithredu fel taw Saesneg yw iaith swyddogol y wladwriaeth, ac yn amlach na pheidio unig iaith swyddogol y wladwriaeth hefyd.

A Rachel druan yng nghaledi ei gweddw-dod ifanc yn dafodrydd ei hatgofion ac yn ail-flasu'r bywyd oedd arni yng nghegin Y Plas lle ceid cig eidon a reis berw a chaws a bara cartref, - er taw bara du oedd hwnnw, meddai mam.

£20.00 (yn cynnwys TAW) yw cost y pecyn.

Dim syndod, felly, taw diffyg tai i'r gweithwyr oedd prif broblem yr awdurdodau lleol.

Efallai taw brawd i gefnder pedwaredd gwraig ei dad oedd ond brawd 'run fath.

ar y llaw arall gallwn ddadlau taw calon thematig dirgel ddyn yw : nad oes na galon thematig'.

Er taw fel Mwslim y cafodd Menem ei fagu, bu'n rhaid iddo dderbyn y ffydd babyddol fel un o'r amodau o fod yn arlywydd.

Dewch i ni obeithio taw tri chynnig i Gymru fydd hi ac y byddwn yn dod â'r Oscar yn ôl eleni.

Credu taw'r Terry 'na yw 'i thad hi.

Rwy'n siwr taw teimladau cymysg oedd gan Menem y bore hwnnw.

Daeth i siarad gyda mishtir ar lan y bedd a sibrwd wrtho taw Owen, mab y Gelli, Glynarthen, oedd yn Holi'r Pwnc yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

'Taw, yr hen 'sglyfaeth budr!

Efallai taw wrth ddarllen a golygu'r emynau a gadwyd (ac a wrthodwyd) yma y dechreuodd ymddiddori yn yr emyn Cymraeg.

Os oes rhwystrau yn eich ffordd, Capricorn, rwy'n ofni taw chi sy wedi'u rhoi nhw yno, ymlaciwch.

Gwyddent taw Jonathan oedd yr unig ddolen gyswllt rhyngddyn nhw a'r byd ar ei newydd wedd a gwyddent hefyd fod y cyfarfod rhyngddo ef a Mathew yn mynd i fod yn un allweddol i gael gafael ar ben-llinyn yr holl ddryswch.

Ac er taw nifer bychan o'i straeon a leolwyd yn y cymoedd, o ran ansawdd ni chafwyd yn Gymraeg ddim tebyg iddynt.

Ond o blith y genhedlaeth honno, efallai taw Parry-Williams - yn fwy felly yn nhinc felancolaidd ei ymadrodd nag mewn unrhyw ddatganiad croyw - a roes lais yn bennaf i'r digalondid sylfaenol hwn.

Yr oedd fy stumog i'n dechrau troi, ac er mwyn rhoi taw ar Jini am ennyd, dywedais, 'Allwch chi ddim dod o hyd i eira llynedd, heb sôn am ei bwyso!

Gan wahaniaethu rhwng cenedligrwydd a chenedlaetholdeb, a chan dderbyn fod y naill o reidrwydd yn sail i'r llall, y mae'n dweud ar ei ben taw peth diweddar iawn yw cenedlaetholdeb gwleidyddol yng Nghymru - 'little older (apart from the occasional voice crying in the wilderness) than the second half of the nineteenth century.' Yna, yn ail hanner yr erthygl, try RT Jenkins at 'y ffurf arall ar genedlaetholdeb Cymreig', y ffurf ddiwylliadol arno.

'Wy'n credu taw ei ffordd amyneddgar, fonheddig e oedd yn ei dangos hi lan, hyd yn oed iddi hi ei hunan, yn dangos yn gwmws beth oedd hi.

Nid pruddglwyf rhamantus bellach, ond nodyn sinig o enau gŵr a welodd taw twyll ydoedd y cyfan o'i gylch.

Efallai taw'r gwirionedd hwn sy'n gorwedd wrth hanfod llwyddiant Eglwys Glenwood i sefydlu pont mor effeithiol rhwng pethau'r nef a phethau Pentwyn.

Yn yr ysbyty a elwir yn 'Welsh Mission Hospital' mae 'no blac ar y wal yn cyhoeddi taw 'Gwely Marion Pritchard' yw'r gwely oddi tano.

Taw pia hi sy'n cael ei gynnig am best not to mention it er y gellid fod wedi ychwanegu calla dawo.

Yn wir, y mae'r derbyniad a gafodd y llyfrau yn eu dydd (fe gofia pawb am 'babes must be fed with milk' John Jones Maesygarnedd) yn peri i ddyn feddwl taw wrth edrych yn ôl arnynt y gwerthfawrogir hwy orau.

"Oes 'na ddim taw arno fo?

Ond erbyn deall nid ser Hollywoodaidd fydd y lladron hynny ond dynion o Lundain bell yn dod i roi taw ar yr hen sinema, yr olaf o blith pump a fu yn y dref - Aberdar - pan oedd hi'n oes aur ar y pictiwrs.

Hanfod arall yw gwrth-ymosod a rhwygo amddiffyn, nid unwaith ond dwywaith neu dair os taw dynar angen.

Trefen berffeth, yn y tŷ - ac yn y bocs, gobeithio!' 'Taw son am drefen dy dŷ wrtha'i - mae Alun o hyd yn dannod hwnnw i fi!' 'Alun yn dannod fy nhŷ i ti!

Ond taw bant ma'r Niclas 'ma wedi'i fagu.

Os taw Dame Edna Everidge yw'r housewife superstar, mae'n bosibl mai Glenda Jackson fydd yr MP superstar cyn bo hir.

Tybiais taw doethach fyddai ei gynnal ar y clogwyn yn y man lle buoch yn ymgynnull y noson o'r blaen.

Ddarllenais i o yn rywle wsnos dwytha -- a dwi'n dyfynnu i'w gael o'n gywir -- taw swyddogaeth Cymdeithas yr Iaith ydi 'chwalu'r drefn bresennol.' Nid dyna swyddogaeth Deddf yr Iaith Gymraeg na chorff cyfrifol fel Bwrdd yr Iaith.

Wedyn 'fyddai dim taw ar ei chwerthin a'i weiddi a'i frolio am y castiau roedd o wedi eu chwarae ar y ffarmwr hwn a'r ffarmwr acw o fan yma i Groesoswallt ac ymhellach.

Bwriadasai lunio hanes y byd drwy'r oesoedd; ac er taw dim ond un gyfrol a gwblhaodd, ysgrifennodd ddigon i amlygu perthynas fythol ir dwy hen egwyddor, llywodraeth Rhagluniaeth ac awdurdod yr Ysgrythur.

'Taw er mwyn i mi gael clywed beth sy'n digwydd!' Roedden ni'n tri yn y gegin a nhw'u dau yn yr ystafell ffrynt a chlust Robat John yn fflat ar y drws.

'Taw wir!' meddai Robat John wrthi.

Mynegwyd pryder gan swyddogion Neuaddau Pentref Meirionnydd ynghylch y costau uchel o'u cynnal, trethi dwr uchel,a TAW ar danwydd.

Cic rydd Gary McAllister yn yr eiliadau olaf enillodd y gêm pan oedd hi'n edrych yn debyg taw cyfartal 2 - 2 fyddai'r sgôr.

Mae'r galon wastad yn dweud taw Cymru fydd yn ennill ond Awstralia yw'r ffefrynnau am y cwpan a'r tîm cryfa yn y byd.

Dydw i ddim yn mynd i sôn am wendidau ond rhaid imi ddweud taw tipyn o siom oedd ffilmiau byrion Gwobr DM Davies, gan y gwneuthurwyr ffilmiau ifainc (pobl ifainc sy'n gwneud ffilmiau - nid ffilmiau ifainc) â chysylltiadau â Chymru (ac eithrio un ffilm a welwyd nad oedd ei gwneuthurwr ag unrhyw gysylltiad â Chymru o gwbl a bu'n rhaid ei ddileu o'r gystadleuaeth).

Rwyn credu taw un o'r ddau Scott fydd e - Scott Gibbs mwy na thebyg, meddai Gareth.

Ers rhai blynyddoedd sylwais ar fy nghyfeillion, o basio'r deugain, yn rhuthro allan i loncian neu farchogaeth beic, a chael cryn ddifyrrwch o'u gweld yn eu trowsusau bach yn ceisio rhoi taw ar lais amser.

Mae'r Awdurdod wedi bod yn ceisio newid yr agwedd taw dim ond cwmnïau tramor sy'n cael help ganddyn nhw - a hynny yn ardal coridor llwyddiannus yr M4.

Mae llais ochr arall y ffôn yn ei rybuddio fwy nag unwiath taw annoeth fyddai parhau gyda'r ymchwil, ond mae styfnigrwydd, ymhlith ffactorau eraill, yn sicrhau bod Alun yn glynu'n ddygn at ei stori.

Os ni'n meddwl taw lledu'r bêl sy angen - fe wnawn ni ledu hi.

Er pan glywsai am fwriad John Edmunds i ddathlu sefydlu hunan-lywodraeth yn yr harbwr, ni buasai taw ar ei fremian, na wyddai'r cynghorydd y peth cyntaf am fywyd môr, mai dyn tir oedd o, o dras a diddordeb, mai esgus i gael ei weld oedd ei glochdar am gael dathliad yn yr harbwr am nad oedd sail i ddathlu dim arall yn y Porth.

Er taw ychydig iawn a wyddwn i - a'r Gorllewin yn gyffredinol - am Arlywydd Ariannin, Carlos Menem, roedd hi'n hysbys i bawb fod ei wlad mewn trafferthion ofnadwy.