Daeth y lleuad allan gan daflu ei golau tawel oeraidd dros y wlad.
A bu cymaint o alw am leoedd yn yr Ysgol Santas Clôs yn Llundain y maen nhw wedi bod yn troi pobl i ffwrdd yn dilyn blynyddoedd digon tawel cyn hyn.
Ni all neb anghofio'i brofiadau trist a llon, tawel a chynhyrfus, tra bo'r cof yn effro a'r gydwybod yn fyw.
'Mi est ti'n rhy bell tro 'na,' meddai hwnnw mewn llais tawel.
Dyn digon tawel, os blin, fyddai Sam fel arfer, ond roedd y ddiod yn ei newid.
Mae straeon synhwyrus a chelfydd harri Pritchard Jones, Ar y Cyrion, y mwyaf cyfoethog ac artistig o'r cyfan, er yn fwy tawel a gobeithiol - crefyddol-obeithiol, mae'n bosib - yn eu hymateb i'r "ddiwethafiaeth" hyn na'r gweddill.
Cafodd groeso cynnes ond tawel rhag i'r Coraniaid glywed.
Er ei bod yn noson ddistaw yno yn y Cefnfor Tawel, a'r llong heb fod yn ysgwyd llawer, fe lithrodd ei law yn sydyn oddi ar y cloc.
Oni fyddai'n well iddo fyw bywyd tawel, parchus yn helpu ei dad bob nos ac yn cadw'n glir o drybini?
"Mae o'n lle hwylus dros ben i ni gan ei fod o'n lle tawel sy'n rhoi llonydd i ni fynd ymlaen efo'n gwaith."
Bachgen tawel arall a ddaw i'm cof, un a fu'n gweithio gyda ni fel un o'r myfyrwyr yn ystod yr ha', oedd un o ardal Nanhoron a ddaeth yn fardd y Goron.
'Rwy'n awgrymu eich bod yn dewis lliw pastel, tawel, fel ei fod yn adlewyrchu mwd y cwrdd eglwys'.
Ymhen rhai oriau o ffonio, mae'n cyfaill yn clywed llais bach tawel ar ben arall y llinell.
Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tū wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'
Dwi mor wahanol i Meic Pierce - mae'n anodd credu hyn dwi'n siwr - ond dwi'n foi tawel iawn sy'n cadw ei hun iddo'i hun.
Gŵr abl, meistr ar ei broffesiwn, a'i hiwmor tawel yn brigo i'r wyneb bob hyn a hyn.
Byw yn y lle tawel 'ma ar ôl Llunden.
Trodd ar ei gefn i wylio'r haul yn goleuo'r awyr uwchben y Cefnfor Tawel.
Roedd Ifan wedi disgrifio'r tywydd garw; Fe ddarluniai hi y dyddiau llonydd tawel.
Mor aml mewn sawl carol y daeth y gair 'tawel' ar y clyw: 'Tawel yw''r nos ..' O dawel ddinas Bethlehem'.
Y mae'n cynnig ffordd i mewn i Gymru sy'n danllyd, gynhyrfus, tawel a hynafol, barddonol a ffraeth.
Wel, i orffen y stori, fe wrandawodd arnon ni'n ddigon tawel, ac fe gymrodd y 'suspension' mewn ysbryd da cyn belled ag y gallen ni weld ...
Daeth y bachgen tawel hwnnw yn un o feirdd enwocaf y genedl.
Oedwch yn y tangnefedd tawel ar brynhawn o aeaf fel y gwnaethom ni, i weld yr haul yn suddo'n belen eirias dros benrhyn Llyn, mynyddoedd yr Eifl yn borffor dywyll, a'r eira'n eisin pinc ar gopaon Eryri.
Chwiliwn am y llecynnau tawel a gweddigar i adeiladu llong bywyd, ac yna fentro i'r dwfn.
"I ddechrau, roedd e'n ffordd o lanw'r munudau tawel rhwng caneuon, ond wedyn aeth e'n fwy na hynny, yn rhan o'r act."
`Pan drown yn llwch,' meddai'r geiriau ar y garreg, `os bydd iaith Lithuania'n gry' ac os bydd ysbryd Lithuania, trwy ein hymdrechion ni, wedi adfywio; yna, hyd yn oed yn y bedd, fe allwn orffwyso'n fwy tawel.'
Trinir popeth gyda'r un gofal, yr artist a'r gwahanol betheuach, y cyfan gyda hiwmor tawel, slei.
Yn dilyn o hyn, mae diffyg dealltwriaeth yn bodoli am y prosesau cymhleth sy'n digwydd yn ein dyfnderoedd - o Fae Ceredigion i ehangder y Môr Tawel.
Fe winciech ar y llygad dwfn tawel yn eich ymyl gan feddwl, 'Lawr ag ef 'nghariad.
Mae'r enw Pendaran, Pen Darian efallai, Prif Amddiffynnwr, Dyfed ac iddo atsain awdurdod a hynafiaeth nas ceir yn Pwyll, Pendefig Dyfed, sydd, o'i gymharu ê'r llall, yn enw tawel a modern.
Ga'i air bach tawel gydag e.
Gwyddai'r gwrandawyr cyfarwydd i'r dim b'le i dorri ar draws ac i ba raddau.) "Roedd y fenyw yma'n wyllt ac awdurdodol iawn, a'i gwr, oedd yn ddyn tawel, gonest a swil iawn, yn methu â'i thrafod hi.
Ei tu mewn o sy'n pwysig i chi.Tawel nos.
Edrych dros wastadedd gwyn yr eira, gyda'i glytiau o goed pin a bedw arian, a sylweddoli fod tir yn ymestyn yn ddi- dor oddi yma i'r Arctig, y Môr Tawel, a'r Iwerydd.
Daeth diwedd ar ei ddiodde tawel pan adawodd Cassie ef a mynd i fyw gyda Huw, tad Steffan.
Dyn tawel iawn yw Madog ond mae wedi llwyddo i ennyn sylw a diddordeb Emma.
Dwi di cael mis bach tawel o ddarllen y papurau, ac wedi sylwi ar ambell i erthygl difyr iawn...
Dyn tawel o ran natur oedd Caradog; ni chodai ei lais mewn dadl, ond gallai'r ateb fod yn ddeifiol.
Dyn tawel, swil yn y bôn, oedd Francis, yn troi yn ei gylch bychan ei hun, ond yn gwybod mwy am y byd mawr y tu allan na'r rhelyw o'i gwmpas.
'Reit unwaith eto, y cyfan, meddai Andrews yn y man a'r blinder yn bygwth cracio'i lais tawel.
Hogyn bach eiddil, tawel, bonheddig ac yn edrych yn ifanc iawn.
Yn tawel orffwys Dan gysgodau'r palmwydd clyd,
Fel yn achos ei brif arwr, Keith Andrew o Swydd Northampton, cyflawnai ei waith â rhyw urddas tawel, heb geisio gwneud tro sâl neb.
Diddorol Diflas Golau Tywyll Tawel Swnllyd Diogel Ddim yn ddiogel Del Hyll Glan Budr
Eto mae'r Nadolig modern yn bopeth ond tawel.
Fe gofir mai dyna'r enw a roddwyd gan anthropolegwyr ar ofergoel brodorion rhai o ynysoedd pell y Mor Tawel.
Dylech roi blychau nythu ar gyfer cudyllod a thylluannod gwyn yn ddigon uchel o'r llawr ar safle eang, tawel, lle na fydd aflonyddu ar yr adar.
Oeddech chi'n arfer bod yn ddyn tawel.
Yn ei lyfr Meistri'r Moroedd, y mae Mr Aled Eames yn sôn am y "munudau tawel ar nos braf, ac yn y distawrwydd clywed Mrs Pritchard yn canu'r piano yn y caban a'r Capten yn ei lais bariton cyfoethog yn canu 'The harp that once through Tara's Hall' neu Dafydd y Garreg Wen Claddwyd Mrs Pritchard yn Laurenco Marques a gallwn ddychmygu y tristwch ar y llong ymysg y criw ac yn enwedig tristwch Capten Pritchard o adael ei wraig mewn bedd ar dir estron.
Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.
Codasai awel pur gref o'r gorllewin a'r su tawel fu gynt yn y coed wedi troi yn rhywbeth mwy bygythiol.