Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

tebygol

tebygol

amcanion y gweithgarwch, a nodi at blant o ba oedran a gallu y cyfeirir ef nodiadau ar y drefn a ddefnyddiwyd a sylwadau ar anawsterau tebygol wrth ymdrin â'r plant a'u deallusrwydd trefniant a dosbarthiad y cyfarpar sampl o ganlyniadau a gafwyd wedi eu trin yn fathemategol briodol cyflwyniad o luniau, graffiau, sylwadau, etc.

Yn hytrach amrywiad ydyw neu yn fwy tebygol ffurf luosog y gair casas "tro mewn afon, cilfach o for, bae%.

Rydych chi'n llawer mwy tebygol o'i gweld yn crwydro caeau Pontcanna yng nghwmni Fudge ei chi, ac mae'n cyfaddef, peate'n cael ei ffordd ei hun, byddai'n rhannu ei chartref gyda mwy na Fudge a'i gwr, sy'n ddyn sain.

Un esboniad tebygol yw fod y lliw gwyn yn ein hatgoffa o rwymynau (bandages) a'r lliw coch yn sumbol o waed.

Yn ôl yr adroddiad, roedd plant i rieni oedd mewn swyddi lled-fedrus neu ddi-fedr dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi dioddef ymosodiadau na phlant i rieni proffesiynol.

Wrth edrych ar hyn gallwch weld yr amserau a'r lleoedd pan fyddech gwyaf tebygol o fwyta prydau neu orfwyta.

Ond os ydi'ch synnwyr digrifwch chi rywbeth yn debyg i f'un i, y peth sy'n fwyaf tebygol o'ch cynhyrfu chi i chwerthin ydi gweld rhyw unigolyn bach yn y gynulleidfa sy'n edrych fel pe bai o ar dorri allan i grio unrhyw funud.

Eto i gyd, yr oedd rhai dosbarthiadau yn llawer mwy tebygol o ddioddef o'r afiechyd.

Wrth gwrs, effemeral yw ansawdd llawer o'r cyhoeddiadau hyn - ffurf sydd yn llai tebygol o oroesi na chyfrolau rhwymedig.

Er enghraifft, gall y ffaith bod llawer o ddŵr ffo olygu bod yr afon yn fwy tebygol o lifo dros ei glannau.

Mae'r rhai hynny wedyn yn fwy tebygol o oroesi ac atgenhedlu eu defnydd genetig.

Gwelwyd yn fuan bod y rhai a oedd yn defnyddio cyffuriau mewn modd anghyfreithlon, gan rannu offer chwistrellu, yn fwy tebygol o ddioddef; hefyd y rhai, o blith y ddau ryw, a oedd yn anllad ac yn mwynhau rhyw gyda nifer o bartneriaid o'r naill ryw neu'r llall.

Dengys ymchwil ddiweddar gan Brifysgol Cymru Abertawe ar ddefnydd y Gymraeg gan bobl ifanc (16-17 oed) yng Ngorllewin Morgannwg a Dwyrain Dyfed, fod pobl ifanc yn fwy tebygol o gadw gafael ar y Gymraeg os mai dyna yw iaith naturiol eu haelwyd.

Os gwnewch hyn o bryd i'w gilydd, byddwch yn fwy tebygol o barhau.

Y mae'n bosibl i Edmwnd Prys fynychu ysgol ramadeg, ond y mae'n llawn mwy tebygol mai derbyn hyfforddiant preifat a wnaeth.

Roedd merched yn fwy tebygol o fod wedi cael eu camdrin yn gorfforol pan yn blant na bechgyn.

Mae'n ffaith, medden nhw, fod dynion yn llawer mwy tebygol o ddioddef o'r salwch na merched.

Nid yw'r ffurf ansylweddol yn tueddu i ennill parch cyffredin - mae dyn yn fwy tebygol o golli neu waredu pamffledi na llyfrau.

Go brin fod yna ddim byd mwy plagus i'r sawl sy'n dioddef o unigrwydd neu'r felan na chlywed eraill yn bloeddio chwerthin, na dim sy'n fwy tebygol o bwysleisio'r anniddigrwydd a'r iselder.

Roedden nhw 10 gwaith mwy tebygol o fod wedi cael eu hesgeuluso na phlant rhieni proffesiynol.

Pa wedd bynnag am hynny, yr oedd rahid i bawb deallus gydnabod nad oedd Dafydd ap Gwilym yn sui generis yn llenyddiaeth Ewrop, hyd yn oed os oedd yn ymddangos fellyn yn llenyddiaeth Cymru, ond fel yr oeddid yn dod yn fwy hysbys yn llenyddiaeth y cyfnod a flaenorodd ei gyfnod ef, deuai'n fwyfwy tebygol fod rhai o wreiddiau barddoniaeth serch a barddoniaeth natur Dafydd ym marddoniaeth ei flaenorwyr, sef ym marddoniaeth y Gogynfeirdd neu Feirdd y Tywysogion, ac y gallai fod y dylanwadau cyfandirol y mae'n bosibl dadlau eu bod i'w gweld yng ngwaith Dafydd, mwen gwirionedd, yn rhai a effeithiodd ar farddoniaeth ei flaenorwyr.

Dywedodd 19% y byddent yn fwy tebygol o ddefnyddio siop neu fusnes yng Nghymru petai'r rheiny'n gwneud ymdrech i ddefnyddio Cymraeg a Saesneg.

Mae yna rywbeth arwyddocaol iawn yn y ffaith fod dynion yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan ffactorau o'r tu allan yn hytrach na chan broblemau personol.

Roedden nhw'n fwy tebygol o fod wedi dioddef camdrin parhaus drwy'u plentyndod tra ond yn achlysurol yr oedd bechgyn yn cael eu camdrin.

Dylent fod yn ymwybodol yn bennaf o:  sicrhau diogelwch ac amddiffyniad  trafod ymosodiadau fel troseddau  eu gallu i restio tramgwyddwyr a'u cymryd i'r ddalfa  cyhuddo tramgwyddwyr - perygl ceisio cymodi  cadw gwell cofnodion  cydgysylltu ag asiantaethau meddygol a chynorthwyol Y rheswm mai croeso pwyllog a roddir gennym i'r mesur hwn, heb law am resynu'r ffaith nad ymgynghorwyd â ni cyn ei gyhoeddi, yw ein bod yn ymwybodol iawn o'r angen am adnoddau ychwanegol - i'r awdurdodau heddlu er mwyn gweithredu'r canllawiau, ac i asiantaethau eraill fel ninnau i ymateb i'r cynnydd tebygol a fydd yn y galw am ein gwasanaethau.

o'i gael yn euog ar gyhuddiad o ddwyn arian o anedd-dy, dderbyn y gosb eithaf, ond yn fwy tebygol, derbyniai bardwn am ei drosedd a châi ei anfon i Awstralia am ei oes.

Y peth mwya tebygol ydi bod un o'r gweision wedi gadael drws y celloedd heb eu cloi, a'u bod nhw wedi llithro allan a chael hyd i guddfan mewn rhyw fwthyn dinod yng nghanol y goedwig.

Ond am bum munud wedi deg y noson honno roedd meddwl Mam ar bethau llawer iawn mwy cyffrous na thisiad tebygol.

Credir i'r eira, a fu'n gyfrifol am ffurfio capan mor enfawr, ddisgyn o gymylau o fewn atmosffer llawer gwlypach a thewach ei naws na'r atmosffer presennol a chesglir mai'r ffynhonnell fwyaf tebygol a allai gynhyrchu anwedd-dyfrllyd o'r fath ac i'r un graddau fyddai cefnfor anferth.

Mae'n rhaid cael theatr gartrefol, groesawgar i'w gwneud hi'n fwy tebygol i ddenu cynulleidfa Gymraeg, ac mae'n rhaid cael strwythr priodol i farchnata cynnyrch penodol.

Y prydau trwm llawn caloriau a gaiff eu bwyta yn hwyr yn y nos yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o roi pwysau ychwanegol ar eich corff, nid y bwyd y byddwch yn ei fwyta i frecwast, yn arbennig os byddwch yn dewis frawnfwydydd neu dost.