Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

techneg

techneg

Yng ngwaith Harry Hughes Williams nid yw techneg trin paent byth yn nod ynddo'i hun.

Mae'r cyfan o'r storiwyr hyn, serch hynny, o ran techneg, yn perthyn yn ddiogel i fraddodiad y stori fer Gymraeg, er mor gyfoes eu deunydd.

Er fod techneg ffilm wedi datblygu'n frawychus yn ystod y ddegawd olaf, ochr yn ochr â theledu, ac er fod gwaith Spielberg, er enghraifft, yn gwneud defnydd rhyfeddol o effeithiau gweledol, eto y mae'r ffilm 'lenyddol', ffilm sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar rinweddau'r nofel - cymeriadaeth, ethos lle ac amser ac yn y blaen - yn parhau'n boblogaidd ac yn gwbl dderbyniol ar unrhyw lefel.

Mor gryno yw techneg Hiraethog yn y darn hwn ac mor awdurdodol.

Nid oes digon o sylw yn cael ei roddi i'n gwybodaeth o'r hyn yr ydym yn ceisio ei fesur, ac ni ddylai natur arbrofol llawer o'n ffeithiau canolog gael ei boddi gan geinder techneg fodem economeg.

Yn rhai o'i luniau mae'n dal holl ddrama'r awyr uwchben Môn, gan ddefnyddio techneg a hepgor manylion er mwyn dal argraff y profiad a gafodd.

Ymdriniaeth ymarferol ydyw gan wr craff sy'n deall techneg amaethu tan amodau arbennig ei fro, ei hinsawdd, ei gwyntoedd cyson a natur ei phriddoedd, (ceir yma un o'r enghreifftiau cynharaf o fap priddoedd), ac y mae ganddo gynghorion wedi'u seilio ar arbrofion cemegwyr y Gymdeithas Frenhinol.

Mae llawer o'n hacademwyr lleiaf wedi mynd i gredu hyn eu hunain, a dyna sy'n cyfrif fod cymaint o rigymu pert, eithaf clyfar o ran techneg, ond er hynny heb ronyn o welediad.

Roedd Harry Hughes Williams yn arbennig o fedrus yn defnyddio techneg i gyfleu'r hyn a alwodd Paul Nash yn 'ysbryd lle'.

Ond yr oedd techneg barod ar gael i awdur Gereint.

Hoffai weiddi o bennau'r tai, meddai, 'mai anaml y cyferfydd y ddwy ddawn yn yr un person.' Mewn nofel, fel gyda'r stori fer, credai Kate Roberts mai rhywbeth a ofalai amdano'i hun oedd techneg, cyn belled â bod gan yr awdur rywbeth i'w ddweud, er iddi fynnu nad oedd hynny'n caniata/ u blerwch arddull.

O ran techneg dylwadodd yr Impresionistiaid a'r O^l-impresionistiaid gryn dipyn arno, ond gofalai bob amser fod y dylanwadau hynny'n gwasanaethu ei amcan arbennig ef o gyfleu ei ymateb personol i olygfa.

Er bod y geiriau "Ty'd Mewn O'r Glaw" yn tueddu i fod yn ailadroddus, y mae'n gân sy'n wych o ran techneg gerddorol ac yn sicr yn un i ymlacio gyda hi.