Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

technegol

technegol

Ymatebodd y Prif Swyddog Technegol ei fod yn gwerthfawrogi'r sylwadau ac y canolbwyntid yn ystod y ddwy flynedd nesaf ar y gwaith sydd yn aros i'w wneud ar y stoc tai.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Technegol y derbyniwyd cwynion parhaol am y cyflenwad dŵr ar yr ystad uchod.

Ond, mewn gwirionedd, y mae yna resymau cryf dros ddefnyddio'r holl offer technegol sydd ar gael i helpu yn y maes addysgol hwn, sy'n prysur ddod yn bwysicach.

Fe'n sobreiddiwyd braidd o sylweddoli na fu'r newid yn gyfangwbl er gwell er gwaethaf datblygiadau technegol a oedd y tu draw i ddychymyg cenhedlaeth Gwyn Erfyl o wneuthurwyr rhaglenni.

Swyddogion Technegol.

Bu yng Ngholeg Technegol Bangor a threuliodd dair blynedd yn yr Amwythig a Thelford.

Carem fel Cymdeithas nodi i ni fynd i Hendygwyn gan wybod yr amgylchiadau a sicrhau, trwy ddefnyddio adnoddau technegol, y byddai lle i'r holl gystadleuwyr a'r gynulleidfa i weld y cystadlu mewn neuaddau ar wahan i'r brif neuadd, a oedd, gyda llaw yn dal nid deucant ond tri chant a hanner.

Ailenynnwyd cynhesrwydd y cymdeithasu eto eleni wrth i'r actorion a'r criw technegol ddod ynghyd ddiwedd Mawrth a dechrau Ebrill i chwythu anadl einioes i eiriau'r sgript a dod â'r gymdeithas chwarelyddol, fel y'i portreadwyd gan T...

Gallai gwneuthurwr unigol neu stociwr roi gwybodaeth bellach yngl^yn a manylion technegol y gwahanol fodelau a manylion yngl^yn a phris, faint sydd ar gael, a pha mor hawdd y mae ei gael.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oedd y gwahaniaethau technegol rhwng Sais a Chymro a rhwng rhydd a chaeth yn llawer llai grymus nag y buont: y gwahaniaeth arwyddocaol bellach oedd hwnnw rhwng y rhai a lwyddai i gynnull tiroedd ac adeiladu ystadau a'r rhai a fethai wneud hynny ac a gâi eu gwthio tuag at y cyflwr o fod yn llafurwyr di-dir.

Maen na lot o hen ffraeo yn y byd actio yn Lloegr rhwng y crachactorion ar actorion mwy gwerinol hynny efo acen 'ranbarthol'. Rhwng y posh ar oiks i ddefnyddio'r termau technegol.

Term technegol yw `demon' yn y cyswllt hwn ac ni ddylid ei gymryd fel yn gyfystyr â `diawl' neu `gythraul'.

Bu'n olygydd cylchgrawn gwyddonol Basgeg ac yn gyd - lynydd Gwyddoniadur Technegol Basgeg.

(b) Awdurdodwyd y Prif Swyddog Technegol i ddefnyddio'i ddoethineb parthed cyfarwyddiadau ar arwyddion (ar wahân i enwau'r strydoedd).

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Technegol, mewn ymgynghoriad â Chyfreithiwr y Cyngor a'r Trysorydd, i roddi caniatâd y Cyngor, fel lanlord, i unrhyw estyniad neu newid saerni%ol i eiddo dan les neu i osod arwydd ar y fath eiddo cyn belled â bod y cyfryw waith neu arwydd wedi derbyn hawl cynllunio neu, os nad oes angen y fath hawl am unrhyw reswm, nad oes gan y Prif Swyddog Cynllunio wrthwynebiad iddo.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Technegol.

Ond a oes gwrthdaro rhwng y weledigaeth gelfyddydol, yr 'awen', a'r anghenion technegol?

(b) Adroddiad y Prif Swyddog Technegol yn cadarnhau na ellid gweithredu'r trosglwyddiad hyd nes y byddai'r Uned wedi symud i'r adeilad newydd a gwasanaethau ffôn a chyfrifiadurol wedi eu cysylltu.

Awdurdodwyd Swyddog Diogelwch y Cyngor sef y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd mewn ymgynghoriad â'r Trysorydd, a'r Prif Swyddog Technegol mewn perthynas ag adeiladau'r Cyngor ac mewn achosion eraill unrhyw Brif Swyddog perthnasol i gytuno ar wariant ar unrhyw waith a fydd yn angenrheidiol yn eu barn hwy ar ôl gwneud arolwg dan y cyfryw reoliadau, - ond yn amodol ar gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith priodol cyn cytuno ar unrhyw wariant neu waith sylweddol.

Marchnadoedd Agored - Gweler hefyd hawliau'r Pwyllgor Gwasanaethau Technegol a Hamdden.

Yr oedd hefyd yn hoff o arbrofi gydag agweddau technegol ei grefft.

Ar y llwyfan, fe gafwyd rhes o areithiau sychion a datganiadau cerddorol yn llawn gallu technegol ond yn brin o angerdd.

Ac yn drydydd, trwy ba dulliau technegol y gellir cyfathrebu a gwareiddadau o'r fath?

Byddai'r gweithwyr yn helpu o bryd i'w gilydd, yn cywiro neu'n dod i'r adwy pan fyddai hi'n oedi, yn ceisio meddwl am y term technegol cywir.

Cysylltwyd â'r Prif Swyddog Technegol ac 'roedd o'r farn bod cais o'r fath am gymorth grant yn disgyn mewn categori arbennig "Top Slice% lle rhoddid arian grant o'r neilltu a gwahodd ceisiadau gan ddatblygwyr.

Mae pwyllgor technegol Undeb Rygbi Cymru wedi argymell penodi Ruddock yn hyfforddwr Tîm A Cymru a mae o wedi cael cynnig swydd hyfforddwr Glyn Ebwy.

Gyda chamera digidol a sgiliau technegol ei staff, mae'r Llyfrgell wedi creu'r delweddau electronig gorau posibl, o bob tudalen o'r llawysgrif hynod hon.

Wedi dweud hyn i gyd, y mae'n amlwg ein bod ni yng Nghymru erbyn hyn wedi llwyddo i gyrraedd lefel o broffesiynol rwydd technegol sy'n ein galluogi i fentro arbrofi rhywfaint, ac sy'n mynnu ein bod yn archwilio dulliau eraill o feddwl am ffilm, rhag i ni fynd i rigol, a ninnau ond yn ein babandod cyn belled ag y mae ffilm yn y cwestiwn.

Ydyw, mae'n edrych yn syml, ond tu ôl i symlrwydd ymddangosiadol y ddelwedd mae medrusrwydd technegol mawr.

Caniatewch imi yn awr, er mwyn cyfiawnhau fy safbwynt, drafod yn fyr un mater technegol eithaf rhwydd.

Mae Pwyllgor technegol yr Undeb eisoes wedi cymeradwyo cais Henry.

Hawliodd y Gymdeithas fuddugoliaeth yn ei hymgyrch o blaid Deddf Eiddo ym mis Rhagfyr pan gyhoeddodd y Swyddfa Gymreig ddrafft o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) ar `Yr Iaith Gymraeg -Cynlluniau Datblygu Unedol a Rheoli Cynllunio'. Drafftiwyd y canllawiau newydd yn sgil pwysau oddi wrth y Gymdeithas a nifer o awdurdodau cynllunio lleol am ddiwygio'r canllawiau cyfredol a gyhoeddwyd fel `Cylchlythyr 53/88' ym 1988.

(a) Bod yr Is-bwyllgor Iaith i ystyried pa enwau i'w defnyddio lle defnyddir enwau Saesneg yn unig neu lle mae amheuaeth ynglŷn â'r enw Cymraeg i'w ddefnyddio a bod y Prif Swyddog Technegol ar ôl hynny i ymgynghori â'r cynghorau cymuned/tref perthnasol a'r aelod/au lleol.

Yn ol Ieuan Lewis, Prif Swyddog Technegol Cyngor Arfon, nid oedd ei adran wedi derbyn unrhyw gwynion am y gwaith adnewyddu, ac roedd y perchenogion wedi arwyddo ffurflen i ddatgan eu bod nhw'n hapus efo'r cynllun cyn i'r gwaith ddechrau.

Maen teimlo y gallai ei bresenoldeb yn annerch Pwyllgor Technegol Undeb Rygbi Cymru nos Iau, fod yn hollbwysig.

(ii) Adroddiad y Dirprwy Brif Swyddog Technegol bod y safle yn parhau ar agor.

Cafodd y sgiliau technegol a fu ynghlwm wrth wireddu'r project hwn - gan gynnwys golygfeydd cyffrous y naid ei hun - ganmoliaeth ar bob lefel.

Fodd bynnag, yn anffodus, yn y cyfarfod hwnnw yng Nghaerfyrddin, doedd y gwasanaeth cyfieithu ddim yn gweithio am gyfnod oherwydd nam technegol yng nghyflenwad y trydan, ac mae'r Hansard sy'n cofnodi'r cyfarfod hwnnw yn rhoi'r cyfieithiad Saesneg yn unig, nid y gwreiddiol Cymraeg.