Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teilwng

teilwng

Roedd yn enedigol o ardal Ardda a threuliodd gydol ei hoes yn ardal Trefriw, yn wraig uchel ei pharch i bob achos teilwng, yn aelod ffyddlon o Gapel Ebenezer, yn athrawes Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a chymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaethau.

Balchder oedd un o'r rhesyme am yr agwedd, oherwydd bydde ennill y cwpan yn uchafbwynt teilwng i flwyddyn y canmlwyddiant.

Lle teilwng

"Hoff gennyf yw ateb y morwr hwnnw o Wlad yr Haf pan ofynnodd Coleridge iddo paham yr oedd wedi mentro ei fywyd i achub dyn na welsai erioed ac na wyddai enw na dim amdano : "Mae amcan gennym tuag at ein gilydd.' Meithrin yr amcan honno yw galwedigaeth greadigol dyn, ac wrth geisio gwneud byd teilwng o frawdoliaeth daw ef ei hun yn deilwng o'i fodolaeth.'

Roedd yn ffarwel teilwng i un o fawrion y gêm.

Ac yn olaf, gwyddai'r ysgolhaig yn dda ddigon faint o yndrech feddyliol a llenyddol y buasai'n rhaid wrthi er mwyn sicrhau trosiad teilwng.

Dywedodd bod aelodau lleol yn cael sylw teilwng yn y Cyngor yma a bod cydweithrediad da rhwng swyddogion ac aelodau o'r cynghorau cymuned.

Fel y dywed ef maent yn sylwadau mwy teilwng o Frad y Llyfrau Gleision neu George Thomas nac o'r Cynulliad Cenedlaethol cynhwysol newydd.

'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).

Ond yn yr ardaloedd gweithfaol newydd, roedd y cyflogwyr yn ysu am wneud ffortiynau, yn barod i dalu cyflogau uchel, ac eto'n edrych ar eu gweithlu fel bwystfilod, yn methu cynnig iddynt amodau cymdeithasol teilwng i fyw.

Aeth y Gymdeithas yn ei blaen i geisio lle teilwng i'r Gymraeg ar y teledu ac ym myd addysg.

Mae'n ddyletswydd arnom ni i gyd roi perfformiad teilwng.

Y mae Ffederasiwn Sirol o'r Cymdeithasau yma wedi sefydlu, ac wedi gosod nod ac amcanion teilwng iddi'i hun.

Daeth cynulliad teilwng i wasanaeth cyhoeddus ddydd yr angladd i dalu'r gymwynas olaf i un oedd mor annwyl a hoffus yn eu golwg; dan arweiniad y Parch.

Y mae'r cerddi hyn gyda'u hangerdd dwys yn goffâd teilwng iawn hefyd i fechgyn ifanc eraill yn Uwchaled (a llawer ardal debyg iddi) a gollwyd yn y Rhyfel, a mab Penyfed yn eu plith.

Fel mae'n digwydd, mae'r Cor Meibion yr wyf yn aelod ohono, sef Cor Bro Glyndŵr (er mwyn y troednodwyr), yn canu gosodiad Bryceson Treharne o soned 'Dychwelyd' TH P-W; gosodiad teilwng, greda i, sydd yn llwyddo i danlinellu grym y soned ac i gyfleu dehongliad cerddorol o un JR ar ddiwedd ei ymdriniaeth.

Yng nghonfensiwn y beridd molid y wraig yn ogystal â'i phriod a phriodolid iddi hi nodweddion teilwng y fonesig urddasol a haelfrydig.

Gofidio y mae Hywel Teifi yn ei lyfr nad yw'r glowr wedi cael ei le teilwng yn ein llenyddiaeth.

Fedraf innau, chwaith, ddim gwneud sylw teilwng o gynhyrchion Ray Jones oherwydd fy niffyg gwybodaeth.

Bu'n frwd tros roi statws teilwng i'r Gymraeg a bu'n gefn mawr i Dr J.

'Gwinllan oedd', meddai, 'gannwyll ein iaith; o goed teilwng gwaed talaith'.

Boed iddynt fod yn genhadon teilwng dros Grist.

Ymhellach, 'roedd Salesbury yn argyhoeddedig fod yn rhaid i fersiwn teilwng o'r Ysgrythurau wrth 'amgenach eiriau ...

Rhaglen oedd hon i'n hatgoffa o flynyddoedd euraidd y gêm o gyfnod pan oedd Billy Meredith yn ffurfio undeb i'r pêl-droedwyr proffesiynol er mwyn sicrhau cyflog teilwng yn hytrach na'r arian hurt sy'n cael ei dalu heddiw i Beckham a'i debyg.

Diben y llyfryn hwn yw cynnig arweiniad ymarferol ar sut i gynnal cyfarfodydd pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ffordd fydd yn chwythu bywyd i'r egwyddor o gyfartaledd rhwng y ddwy iaith ac yn rhoi lle teilwng i'r Gymraeg fel priod iaith yn ei gwlad ei hun.