Cawn y teimlad o hyd yn y Cei nad oeddwn na Chardi nac un o wylanod y Cei.
A'r syndod yw fod y teimlad hwn yn dal yn gryf ac wedi ysbrydoli rhai cyflogwyr yn ddiweddar i wahardd eu gweithwyr rhag siarad Cymraeg yng ngwydd y di- Gymraeg.
Mae'r amrywiaeth yma yn rhoi bywyd yn yr arddangosfa ac yn creu teimlad fod pob llun yn newydd ac yn cael ei drin yn inigryw.
yr un teimlad ag a gâi wrth fynd i siopa 'da Janet i waelod Heol Eglwys Fair, wrth syllu ar y lamp fawr ar ffurf bachgen du'n dal gole yn y caffe crand gwyn 'na, a phawb yn wyn yn y siope, a'r tegane a phopeth, a'r bobl yn y llyfre - ar wahân i'r goliwogs - Jolly Wogs ...
'Y teimlad o'n i'n gael oedd na fysen nhw ddim yn sgorio er bod hi'n agos iawn.
Wrth i'r gynulleidfa ganu mewn teimlad dwys y pennill syml hwn o Sŵn y Jiwbili:
Dach chi ddim isio brifo teimlad neb,' medda fo.
Teimlad fy mod yn un o'r elite wrth gerdded gyda fy security pass yn fy llaw i lawr y stryd syn arwain at yr hen adeilad mawr sy'n talsythu uwchben popeth araill.
Mi a ddylwn ddweud wrthochi fod llawer hyd yn oed o Ddic-Siôn-Dafyddion cyn y flwyddyn 1890 wedi ymuno â chymdeithasau Cymreig o fath Kumree Fidd... yr oeddenw, er mwyn ennill cyhoeddusrwydd, ac er mwyn marchogaeth ar y teimlad Cymreig i bwyllgorau, i gynghorau, ac i'r Senedd, yn ymostwng i ddibennu pob araith trwy ddywedyd mewn Cymraeg go ddyalladwy 'Oes y byd i'r iaith Gymraeg'. Ond dyna'r cwbl.
Teimlem, ac yn wir pery'r teimlad hwn o hyd, y dylai pobl if ainc a geisiai adeiladu tai neu adnewyddu hen dai, gael blaenoriaeth.
Gwaetha'r modd nid oedd eu mapiau yn dangos y bobl oedd yn rhan o'r tir na'u teimlad o berthyn i'w bro enedigol, na'u hatgofion yn ymestyn yn ôl dros y cenedlaethau at eu hen, hen hanes.
Er i'r teimlad yma o fod allan yn yr oerfel fod yn gyffredin, bu cryn gefnogaeth i athrawon meithrin o du argyhoeddiad ymgynghorwyr ac athrawon ymgynghorol yr Awdurdodau Addysg Lleol.
Euog, ie, - ond yr oedd y cosbau ysgafnach a ddyfarnai'r llysoedd mewn achosion fel hyn yn adlewyrchu'r teimlad fod yr euog o dan bwysau teimladol anghyffredin.
Fel yng ngweddill Ewrop, roedd teimlad cenedlaethol wedi sgubo trwy'r wlad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddechreuodd adfywiad llenyddol a chelfyddydol galedu yn symudiadau gwleidyddol.
Penderfynwyd y dylai'r ysgrifennydd anfon at y Trefnydd Cenedlaethol yn mynegi teimlad y rhanbarth.
yn y cyfarfodydd adborth cadarnhawyd y teimlad hwn er na fynegwyd yr un pryder ynghylch cymraeg ail iaith ].
Roedd y syniad ddinist yn gryf ym myd celf y chwedegau, ac yn hytrach na chreu cerfluniau 'hierarchaidd' a gâi eu gosod ar bedestal neu lwyfan gwell ganddo oedd creu 'democratiaeth o wrthrychau' a fedrai gyfleu teimlad tuag at ddarnau o natur, pren, haearn, pridd, unrhyw weddillion dienw y gallai eu defnyddio.
Darparwyd radio llawn teimlad gan y gyfres Tros Ein Plant, a oedd yn adrodd hanes rhieni'n brwydro dros eu plant a hefyd gan Ildio Dim, cynhyrchiad a oedd yn hwb i'r galon yn adrodd hanes y rheini sydd wedi llwyddo yn wyneb adfyd.
teimlad cyffredinol ydyw bod unrhyw fath o le yn ddigon da i'w gynnig i ysgol Gymraeg.
* Swyddfa mewn ardal Gymraeg ei hiath, er mwyn bod o fewn cyrraedd hawdd i bobol sydd am gwyno ynglŷn ag annhegwch - "Fydd pobol ddim yn fodlon ffonio Caerdydd," meddai, "oherwydd y teimlad o bellter."
Anghofia'i byth y teimlad ofnadwy o ofn oedd arnaf wrth weld yr anifeiliaid gwyllt, er eu bod mewn cewyll, a gweld dyn yn mynd i fewn at y llewod, a hwythau yn gwneud yn ol gorchymyn y "trainer", a chlywed y llew yn rhuo.
Y teimlad oedd fod diffyg gwybodaeth am hynny wedi bod yn rhannol gyfrifol am fethiant y protestiadau gwreiddiol.
Mae'r teimlad yn y gwersyll yn dda, meddai cefnwr Abertawe, Kevin Morgan.
Dim ofn, er mwyn popeth, dim ofn, ofn fuasai'r teimlad mwyaf anaddas nawr.
Fe geir y teimlad mai'r amcan yw arddangos tebygrwydd y gorffennol i heddiw, er gwaetha'r gwahaniaethau arwyenbol, a hynny yn y pen draw er mwyn cyfleu'r syniad mai'r un yn ei hanfod yw'r natur ddynol ymhob cyfnod.
Y mae ceisio cysoni'r ffaith hon a'r teimlad o falchter cenedlaethol, hyd yn oed a hunaniaeth genedlaethol, yn orchwyl poenus o anodd.
Bryd hynny, yr hyn y gallwch chi ei gyfleu yw teimlad ac argraffiadau.
I'r neb a gredo fod teimlad a phrofiad cynhyrfus yn unig sail barddoniaeth, ni ddetgly Cerdd Dafod fyth ei chyfrinach.
Daeth paraseicoleg hefyd yn bwnc sy'n cael mwy a mwy o sylw, gyda llawer yn ymddiddori'n arbennig mewn amgyffred uwch synnwyr - y gallu i amgyffred heb ddefnyddio'r pum synnwyr arferol: golwg, clyw, blas, teimlad ac arogli - (ESP) yn ei amryfal ffurf: telepathi; rhagwelediad (precognition): clirolwg ( y gallu i weld yr hyn sydd o'r golwg); clirglyw (y gallu i glywed yr hyn sydd y tu hwnt i'r clyw arferol); gweld paroptig neu weld heb lygad (y gallu i weld drwy groen); a meddylnerth (y gallu i effeithio'n uniongyrchol ar fater, megis ei symud, ac i allu dweud hanes gwrthrych drwy ei ddal yn y llaw yn unig).
Felly, hefyd, y byddai Kate fach Cae'r Gors yn mwynhau teimlad ei bwa blewog am ei gwddw yn y gaeaf.
Anrhefn llwyr; ac eto does dim teimlad o gwbl o fygythiad i'r dieithryn.
mae'r naratif yn ceisio amgyffred ac amlennu'r teimlad gwasgaredig, drylliedig, amrywiol hwn sy'n perthyn i'n dyddiau ni gorchwyl amhosibl, wrth gwrs ).
Darparwyd radio llawn teimlad gan y gyfres Tros Ein Plant, a oedd yn adrodd hanes rhienin brwydro dros eu plant a hefyd gan Ildio Dim, cynhyrchiad a oedd yn hwb i'r galon yn adrodd hanes y rheini sydd wedi llwyddo yn wyneb adfyd.
Roeddwn yn hanner cysgu ac yn cysidro i ble yr oeddwn yn mynd; teimlad od iawn.
Yn ein tyb ni, mae hwn yn galonogol, ac yn adlewyrchiad yn bennaf o'r teimlad o deyrngarwch sydd gan bobl tuag at bethau Cymraeg.
Oblegid 'does wybod yn y byd pa gyfran o'r ysgrythur, pa ymadrodd ynddi yn wir, a fydd yn fiwsig yn eich clust ac a ddeffry res hir o gytseiniau ac o atseiniau mewn teimlad a meddwl na wyddoch i ble'r arweiniant chwi cyn y diwedd.
Mi gês y teimlad bod hwn wedi safio 'mywyd i, ac roedd y mwynhad yn egstatig.
Mae'r tebygrwydd yn anhygoel, - y lliw browngoch patrymog, y teimlad melfedaidd, y blew bychain a'r arogl arbennig.
Y teimlad oedd bod strwythur presennol senedd y Gymdeithas yn gosod unigolion i weithio ar brosiectau ar wahân - tra bod profiad yn dangos mai trwy weithio fel tîm y mae pobl - a'r Gymdeithas - ar eu gorau.
Yr un teimlad melfedaidd, esmwyth sydd i'w gael yn yr ail lun hefyd, Haf yn Ninas Dinlle.
Costiodd ailwneud y gegin dros dri chan punt o'n harian prin, ac i mi, y peth gwaetha oedd y teimlad 'mod i wedi gadael Myrddin i lawr, drwy fod mor esgeulus.
Meddai awdur anhysbys o Ddinas Mawddwy mewn traethawd 'Adgofion Bore Oes', a sgrifennwyd rywdro yn y ganrif ddiwethaf: 'Yr oedd llawer o hen arferion darostyngol a fygent bob teimlad o rinwedd a moesoldeb ac a brofent yn felldith i'r ardaloedd yma.
Wrth gadarnhau'r penodiad teimlad unfrydol y Pwyllgor Gwaith oedd fod swyddog rhagorol wedi cael ei benodi ar delerau rhesymol dros ben.
Yr oedd teimlad rhyfedd wedi dod trosom, rhyw fath o wacter, y llenni i lawr ar y ffenestri, Mama a'i llygaid yn goch, a phawb yn mynd o gwmpas eu pethau yn ddistaw.