Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teimlai

teimlai

Wedi iddo gyrraedd stesion Blackpool, teimlai ei geg yn grimp.

Wrth orwedd yn ei ymyl ar y gwely, a'r llenni ar agor i adael golau dydd i mewn, teimlai Hannah'n eiddigeddus o'i iechyd.

Teimlai'n well yn barod ac roedd ei galon yn dechrau curo'n arafach pan ddaeth y fen at groesffordd arall.

Roedd y sŵn yn uwch yn y fan hon, ond o leiaf teimlai Gareth yn fwy diogel yma.

Wrth iddi fynd i'r llys drannoeth teimlai Rhian yn falch nad oedd hi ddim wedi sôn wrth Lewis am ei thaith i Lanfairfechan.

Fel hyn, rwyn siwr, y teimlai Charlie wrth fynd i mewn i'r ffatri Siocled - ond hen ffatri bop yw hon yn y Porth, Rhondda.

Teimlai Mam yn flin wrth Modryb, a daeth yr hen deimladau frwg a fu'n ei chorddi ganol y pnawn, i'w phlagio eto.

Teimlai amryw o'r aelodau hefyd yr hoffent gael y cyfle i roi cynigion gerbron y Cyngor ddwywaith y flwyddyn.

Symons i'r casgliad fod llawer o ddysgu difywyd ac undonog yn yr ysgolion Sul, ond serch hynny teimlai eu bod yn llesol - '...' .

Teimlai rhyw obsesiwn i ysgrifennu.

Teimlai'n reit sâl wrth weld Huw'n deifio ar lawr i ddangos sut roedd wedi arbed gôl wych yn yr ysgol amser cinio.

Wrth syllu draw dros yr harbwr tua'r môr, teimlai yn ei gwaed mai yn y pellter glas yr oedd ei rhieni'n ei haros a hithau'n methu â mynd atynt, yn cael ei chadw fel gwylan gloff mewn honglad o hen dŷ ar astell y graig a hithau yn ysu am fynd ond yn methu â chodi ar ei haden, yn cael ei chlymu wrth ei thaid a'i nain am iddynt ei magu.

Teimlai'n hyderus yng nghylch y twnnel, heb feddwl y byddai llawer o berygl mewn mentro drwyddo.

Teimlai hwnnw'n ofnus oherwydd gwyddai mai neges annerbyniol iawn oedd ganddo i'w rhoi, ond dywedai wrtho'i hun mai nid ei fai e oedd fod llawer o'r ceffylau yn y fintai naill ai wedi, neu ar fin colli eu pedolau.

Teimlai'n fwy siŵr o'i siwrnai erbyn diwedd y pryd.

Teimlai Peter ei bod yn hawdd iawn cludo deunydd fel hyn i mewn, heb wir ddod i adnabod y Cristnogion yno.

Teimlai nad oedd yntau, chwaith, wedi cael siwrnai esmwyth drwy'r misoedd diweddar.

Wrth wylio'i lein yn y dw^r teimlai'n fodlon braf.

Teimlai Geraint fod yr Arolygydd ar fin colli ei dymer.

Rhywsut, teimlasai'n fwy unig heddiw yng nghanol pawb nag y teimlai fel arfer.

Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen.

Teimlai Pamela fod barn Duw wedi ei chyhoeddi yn ei herbyn hithau y noson honno a'i bod yn ei chlywed o enau Dowdle.

Teimlai'n arbennig o llawen.

Teimlai'n euog.

Teimlai'n sicr fod cael ci bach yn eiddo iddo fo'i hun yn llawer gwell na diodde'r ddannodd oherwydd iddo fwyta gormod o fferins.

Teimlai'n feddal.

Wedi cael cefn Pyrs teimlai Obadeia Gruffudd ei bod hi'n ddyletswydd arno i ailgydio yn y weddi ond fel roedd o'n hwylio i ddisgyn eilwaith ar ei liniau daeth y Parchedig John Jones, person plwy Llaniestyn i mewn, a hanner baglu dros y gist ddillad yr un pryd.

Teimlai nad oedd arno awydd dod yn agos ati, a phetai hi'n ceisio cydio yn ei law, fe fyddai'n gwneud esgus i'w ryddhau ei hun o'i gafael.

Er hynny, teimlai y bydd adolygiad o'r ffiniau manwl yn fuan ar ôl ad-drefnu.

Wrth weld 'y fath olwg ddiafolaidd anifeilaidd' ar ei thad, teimlai Winni fel 'ei lindagu a gwasgu ei gnawd nes byddai yn sitrws fel tatws drwg wedi eu berwi i foch' (Haul a Drycin).

Amheuwn mai dyna fel y teimlai Lewis Olifer y funud honno.

Teimlai aelodau'r Pwyllgor nad oedd y rhesymau yn foddhaol a chynigiwyd ein bod yn anfon eto at Fanc y TSB yng Nghaernarfon yn cynnig gwasanaeth cyfieithu iddynt.

Teimlai'r pysgodyn yn ymladd yn ei erbyn.

Ymddengys y medrai'r halen wella dyn hefyd, oherwydd credai fy nhad yn gryf iawn yn yr halen Epsom, ac fe gymerai Iwyaid ohono cyn gynted ag y teimlai'r oerfel yn disgyn arno.

Teimlai Siân fel wylo'n hidl.

Yn wir, teimlai nad oedd yn gwneud unrhyw ystyr confensiynol o gwbl iddo ef, o bawb, fod yn barod i beidio â dal dig wrth feddwl am y berthynas arbennig a oedd rhyngddo ef a Marie.

Teimlai Stuart fel tant rhy dynn; ar fin torri.

Teimlai Mam yn reit ddigalon ar ôl y ffiasgo amser swper a'r ffrae wedyn ac i'w chysuro'i hun aeth i nôl tomen o hen albwms lluniau i sbio drwyddynt.

Teimlai fod hyn yn arbennig o bwysig i enethod fel eu bod yn dysgu gwni%o a gwaith tŷ.

Teimlai'n oer a diamynedd ac roedd codi, a dim ond ei choban amdani, yn hurt bost.

Teimlai'n sicr mai yn hwnnw y cedwid yr awyren.

Teimlai'i hun yn llawn o ryw egni aflonydd.

Teimlai fel brenhines a'i chefn yn syth a'i dwy goes yn dynn yn erbyn un ochr i'r cyfrwy yn ôl yr arfer i ferched.

Teimlai y rhain heb unrhyw amheuaeth atyniad Eglwys Rufain.

Bryd hynny teimlai Rhian gywilydd.

Teimlai Idris yn fwy cyfforddus yn awr, gan fod y pentrefi'n amlach o lawer, a bod mwy o fynd a dod, yn bobl ac anifeiliaid.

Teimlai nerth anhygoel yn llifo i'w freichiau a'i ddwylo.

Teimlai Nofa'n gyfforddus unwaith eto; pe bai'n unrhywun arall, mae'n ddigon posibl y byddai'n hapus.

Teimlai'n ofnadwy o benysgafn.

Teimlai'r pry genwair yn gwingo yn ei law ac yna'n neidio wrth i'r bachyn ei drywanu.

Teimlai'n bur fodlon arno'i hun a brygowthai am y cytundeb yr oedd ar fin ei arwyddo gyda Border Holdings wrth ei wraig, gan ychwanegu y byddai'n filiwnydd cyn diwedd yr haf.

Teimlai yn rhy uchel ei stumog i gydnabod hynny wrth neb o'r helwyr.

Teimlai Alun ei du mewn yn troi yn union yr un fath ƒ phan oedd Miss Huws yn gweiddi arno yn yr ysgol.

Ond teimlai ef mai wedi cael enw drwg yr oedd yn hyn o beth, gan ei fod yn dweud y gwir, a dim ond y gwir, gan amlaf.

Fe'i teimlai'i hun yn gymysgedd o Fadog a Cholumbus wrth gerdded y bwrdd yn dalog ar ei ben ei hun a gwau'i ffordd yn hunanymwybodol trwy rwydwaith y teithwyr eraill.

Ond roedd y ddyletswydd tuag at y fro a thuag at yr Eisteddfod ei hun i'w hystyried ac yn y pen draw teimlai nad oedd modd gosod dymuniadau personol o flaen y ddyletswydd honno.

Ac fe wyddai hi i'r dim sut y teimlai.

Teimlai ei fod ef wedi colli ei fywyd am iddo aros cyhyd ar y llong yn achub eraill.

Yn wir teimlai mor hapus fel na tharfodd llais Elwyn Jones (y cyn-Dôri o Flaenau Ffestiniog oedd yn trafod y papurau newydd y bore hwnnw) ar ei dedwyddwch o gwbl.

Bu llu o ffermwyr ar drywydd Ap drwy gydol y misoedd hyn, ond teimlai Wil Dafis mai ef yn anad neb bellach oedd fwyaf o ddifri.

Teimlai ryw fath o heddwch am y tro cyntaf y diwrnod hwnnw.

Teimlai pawb yn drist iawn wrth wrando geiriau'r Prif Weinidog - yn enwedig yr hen bobl - oedd yn ddigon hen i gofio'r Rhyfel Byd Cyntaf - hwnnw hefyd rhwng Prydain a'r Almaen.

Wrth ei gwisgo, roedd o'n ennill modfedd neu ddwy reit dda ac yn bwysicach fyth, nid fel Willie-llnau-ffordd y teimlai ynddi ond fel William Solomon, neu hyd yn oed Mr William Solomon.

Mi fydd yn ôl ar yr ynys ymhen ryw wythnos i chi." Teimlai'r tri yn hapus iawn tra'n eistedd yn ystafell nyrs garedig.

Ond teimlai Mrs Williams i'r byw, a bu'r peth yn ei phoeni drwy'r dydd.

Teimlai fod yr amser yn llusgo, a bod oriau wedi mynd heibio er iddo adael ei gyfeillion ar fin y dŵr.

Teimlai Vera'n agosach ato ef nag y gwnâi at eraill y gweithiau iddynt; roedd hi'n gartrefol ac yn gysurus yn ei gwmni, ac er nad oedd hi'n un i hel clecs, roedd Edward Morgan wastad yn barod am sgwrs ac ni fyddai, fel y rhan fwyaf o'i chyflogwyr, yn siarad byth a beunydd am ei hunan.

Teimlai fel petai rhyw neges fach yn cael ei hailadrodd drosodd a throsodd yn ei ben, yn ei annog i fynd i Nofa II.

Felly, wedi ystyried tipyn bach penderfynodd fynd ati i gynilo'i hun, ac erbyn hyn, teimlai'n bendant mai dyna oedd y cynllun gorau.

Ac er nad oedd hynny wedi ei phoeni erioed o'r blaen, heddiw, a hithau ar frys, teimlai'n grac iawn â'r Cyngor, ei swyddogion, y gweithwyr a'u peiriannau.

Teimlai'i bod hi yn llywio a chyfarwyddo o "rhywle%.

Pan glywodd yr Yswain yr hanes, teimlai yn dost dros Harri, a diflasodd gryn lawer ar bleser y dydd iddo.

Teimlai Ifan ei ddwylo yntau'n ffurfio dyrnau yn ei bocedi.

Bob wythnos pan ychwanegai'r ugain ceiniog a gâi yn bres poced at y swm oedd yno eisoes, teimlai fod ei freuddwyd ychydig bach yn nes at gael ei wireddu.

Teimlai pobl Allhallows the Great, yr eglwys a roes gartref i'r Cymry alltud yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Cartref, ei bod yn ddylestwydd arnynt anfon chwech o bregethwyr i gynorthwyo yn y gwaith.

Teimlai yn wirioneddol ddrwg drosto.

Hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau hefyd iddi gael sgwrs a Chapt.Lewis-Jones ynglyn a hyn, ac y teimlai y byddai'n anrhydedd iddo ddyfod yn noddwr Canolfan Gynghori Meirionnydd.

Teimlai ei hun yn colli gafael ar bethau.

Ond trwy ryw lwc, neidiodd y bêl i'w law yn sydyn, ac yn rhyfedd iawn teimlai cyn drymed â phlwm.

Ar yr un pryd teimlai llawer o'r aelodau newydd o'r de dwyrain, fel finnau, y pryd hynny, fod llawer gormod o sylw yn cael ei roi i'r iaith.

Wedi dychwelyd i'w lety llwm y noson honno y buasai yn nhŷ braf Mrs Paton Jones teimlai Hector dipyn yn fwy hyderus a phwysig.

Holodd Ali yn drylwyr, ond prin y teimlai iddo gael gair o wirionedd ganddo.

Teimlai'n sâl ac yn wan.

Ond wedi'r holl gyffro gyda'r adar a'r siarc, a'r ymladd hefo'r llysywod, teimlai Douglas nad oedd ganddo fawr o nerth ar ôl erbyn hyn.

Teimlai'i glustie fel 'taen nhw bron 'di rhwygo oddi ar 'i benglog.

Ni ellir dylanwad heb apêl, a hawdd deall apêl gwrthrych fel Keats at ŵr ifanc pedair ar hugain oed a'i teimlai ei hun yn fardd ond na wyddai sut i'w ddisgyblu ei hun i greu gwaith cyson y gallai fod yn fodlon arno.

Erbyn hyn teimlai'n siŵr ei fod o'n gwybod bron cymaint am y cŵn ag oedd eu perchenogion.

Teimlai fod yr awyren yn disgyn yn gyflym ac yntau fel pe bai'n cael ei adael ar ôl yn yr awyr.

Teimlai amryw o aelodau'r rhanbarth nad oedd angen cael siaradwr yng nghyfarfodydd y Cyngor yn Aberystwyth oherwydd bod y prynhawn yn mynd yn faith.