Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teimlem

teimlem

'Teimlem', meddai OM Edwards ymhellach, 'mai da fyddai cymdeithas hollol amholiticaidd a dienwad, cymdeithas fechan, i ymddifyrru gyda llenyddiaeth Gymreig, ac i gyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen'.

Teimlem mai da fyddai cymdeithas hollol amholiticaidd a dienwad, cymdeithas fechan, i ymddifyrru gyda llenyddiaeth Gymreig ac i gyfarwyddo pob dyfodiad o Gymro welid yn Rhydychen.

Teimlem, ac yn wir pery'r teimlad hwn o hyd, y dylai pobl if ainc a geisiai adeiladu tai neu adnewyddu hen dai, gael blaenoriaeth.

Teimlem ein bod wedi cyflwyno'r ddwy ddawns mewn dull gwerinol oedd yn bur ac yn ddi-ffws ond eto yn chwaethus a medrus.

Ar un olwg teimlem mai'r angen cyntaf oedd cael mudiad iaith arbennig yng Nghymru fel y gallai'r Blaid ganolbwyntio ar faterion gwleidyddol pur, ac yr oedd yn amlwg fod llawer o rai eraill yn meddwl yr un ffordd ar yr un pryd mewn amrywiol rannau o Gymru, ond heb fod mor feiddgar â ni yng Nghaergrawnt!

Teimlem fod dyletswydd arnom i geisio esbonio fod diffygion mawr yn y gymdeithas y perthynem ninnau iddi, yn ogystal.