Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teimlid

teimlid

Teimlid bod yr Eglwys (er gwaethaf eithriadau megis 'yr hen bersoniaid llengar') wedi ymbellhau oddi wrth y werin Gymraeg, ac felly bod talu degwm i gynnal y sefydliad eglwysig yn anghyfiawn.

Teimlid bod Mulroney yn gyfrifol am nifer o fethiannau yn ystod y cyfnod: rhai economaidd yn bennaf ond hefyd cyfres o fethiannau cyfansoddiadol a oedd i fod i sicrhau cytundeb ynglŷn â statws Que/ bec o fewn Canada.

Teimlid bod y cyfeiriadau cyson at yr 'hynaf penteulu' a'r 'hylwydd iawn gynheiliad' ynghyd â'r 'ymherawdr' a'r 'emprwr', y sofran a wyliai fuddiannau ei ddeiliaid, yn elfennau teuluol yn eu hystyr ehangaf ac yn cyfannu'r gymdeithas ac aelodau o'r 'cenhedlog waedogaeth' ynghlwm wrth uned sylfaenol y teulu cenhedlig na allai ffynnu mewn cyflwr o anarchaeth neu ddiffyg trefn.

Teimlid angen am adeiladu capel, ond methwyd â chael y tir y bwriedid ei godi arno.