Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teimlodd

teimlodd

Dyna'r foment y teimlodd Kate bach, morwyn Tyndir, un o'r teithwyr, y byddai hi wedi bod yn ddoethach iddi fod wedi gwrando ar gyngor ei mam a hepgor y Palladium y noson honno.

Fel yr oedd e'n llusgo ei draed i lawr y stryd teimlodd fel petai e'n cerdded ar y cymylau.

Teimlodd pawb oedd ar y bwrdd sigl y tonnau ar unwaith, a'u sŵn yn golchi ei hochrau gyda'r ewyn gwyllt.

Os teimlodd haneswyr llên Cymru'r rheidrwydd i gydnabod, er yn betrus, ddylanwad y Trwbadwriaid ar y Rhieingerddi, mae'n siŵr y buasai haneswyr llên y Trwbadwriaid eu hunain yn barod i hawlio dylanwad y llên honno arnynt, petasent yn gwybod amdanynt hwy, oblegid un o ryfeddodau'r canu Trwbadwraidd ydyw belled y cyrhaeddodd ei ddylanwad a chyflymed.

Am y tro cyntaf, teimlodd ei fod wedi'i brifo'n fwriadol.

Teimlodd fysedd ei fam yn gwasgu, gwasgu ar ei fraich.

Cwpanodd ei fysedd amdani ac ar unwaith teimlodd drawiad o iâ ar hyd ei fraich.

Taenodd ei fysedd dros ei grudd ac yna teimlodd ei gwefusau yn cyffwrdd ei ên ac yna'n dod o hyd i'w wefusau ef.

Wrth i'r ddau gerdded teimlodd Bleddyn yn ei boced am ei drwydded,.

Teimlodd y byddai'n siwtio un o'i genethod bach i'r dim.

Mae o wedi cael mwy o ferched nag wyt ti wedi eu gweld o gerrig beddau.' Teimlodd Dei y dillad yn cydio yn ei gorff oherwydd y chwys oer oedd yn ei gerdded.

'Gwaeth na hynny, fe gafodd y ddau eu lladd gan Nofa.' Wrth glywed y geiriau, teimlodd Andrews ei ben yn troi.

Yn ei freuddwyd fe'i teimlodd ei hun yn esgyn yn gyflym, a'i fam wrth ei ochr, i fyny ac i fyny ac i fyny.

Teimlodd Waldo lawer yn well.

Teimlodd y nerfusrwydd yn ei adael fel dŵr yn llifo oddi arno, ond rhoddodd Bilo ei law ar ei ysgwydd a'i wthio'n ôl yn ddigon diseremoni i'w sedd.

Teimlodd y poer yn llifo i'w geg wrth eu henwi.

Teimlodd Llio ei chalon yn peidio 'a churo, ei bysedd a'i thraed yn ddiffrwyth a hithau'n ysgafn ei chorff ac yn teimlo ei bod yn codi uwchlaw y gwely.

Mae'n bwysig i mi beidio â cholli gobaith." Ond y foment y dechreuodd ei galon godi, teimlodd rywbeth fel braich hir wlyb yn cau am ei wddw.

Yna teimlodd ei freichiau'n cael eu rhwygo oddi ar wddf y llipryn o'i flaen.

Teimlodd y cynnwrf yn saethu trwyddo.

Yn sydyn teimlodd blwc ar y lein.

Teimlodd Harri Gwynn droeon iddo fod o dan gwmwl oherwydd ei benderfyniad i lynu'n dynn wrth amodau'r cytundeb.

Iesu oedd 'i holl fyd e, a phan groeshoeliwyd Iesu, teimlodd Tomos golled bersonol, yn fwy na'r lleill; ei hapusrwydd, ei obaith a'i hyder yn ffradach y cwbwl ar ben.

A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.

Cyn iddo fedru meddwl am ateb clyfar teimlodd Bleddyn rywbeth yn tynnu ar y lein.

Roedd e'n disgwyl clywed clec bwledi unrhyw funud - yna'n sydyn teimlodd ei draed yn cyffwrdd â'r llawr yn rhyddid Gorllewin Berlin.

Teimlodd law yn gafael yn ei ysgwydd a sgrechiodd.

Teimlodd nhw yn ei ddwylo a llanwyd ei feddyliau gan falchder a thristwch.

Teimlodd y beirniaid fod y safon yn dystiolaeth o greadigrwydd a diwydrwydd plant ac athrawon ysgolion cynradd Cymru wrth iddynt fynd i'r afael â chyfrwng newydd y we.