Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teimlwyd

teimlwyd

Teimlwyd bod angen ymchwil i honiadau athrawon fod newid agwedd yn digwydd ymysg disgyblion a oedd yn dilyn cyrsiau â chyfathrebu'n ganolog iddynt.

Oherwydd ein bod am gael barn darllenwyr, teimlwyd mai'r dull mwyaf effeithiol o gyrraedd y gynulleidfa hon oedd trwy ddefnyddio cyhoeddiadau Cymraeg presennol.

Teimlwyd brig y llanw yng nghwrdd gweddi'r bobl ieuainc yn Nghapel Horeb [y Bedyddwyr]...Yr oedd yr hwyl a'r gwres mor nerthol fel y penderfynwyd treulio y prydnawn mewn gweddi, yn hytrach na chynnal Ysgol Sul.

Oherwydd llwyddiant yr Ysgol Sul yn y Capel Mawr, a'r nifer a ddeuai ynghyd, teimlwyd angen am sefydlu amryw o ganghennau iddi, ac fe wnaed hynny.

Oherwydd y cysylltiadau teuluol â'r Tabernacl, teimlwyd y golled yno i'r byw.

Teimlwyd yr angen oherwydd nad oedd y label Sain, bellach, yn addas, nac yn gweddu o ran delwedd i rai grwpiau newydd, cyffrous, oedd yn ffurfio.