Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teithiol

teithiol

Bu'r draen ddŵr fel cydnabod teithiol, a phobol yn holi amdani cyn iddi gyrraedd ac yn dweud, 'Ma hi yn y fan a'r fan - fydd hi ddim yn hir'.

Dywed Kamarin fod mudiad 'Kurdish Relief Wales' sydd â swyddfa yng Nghaerdydd, wedi bod yn ceisio helpu trwy anfon ysbytai teithiol i'w defnyddio gan y Cwrdiaid.

Cynllun amherthansol a thegan mawr drud yw'r cynllun i gael pictiwrs teithiol yng Nghymru, yn ôl rheolwyr rhai sinemâu.

Cyfnod penllanw'r pregethu teithiol hwn oedd y blynyddoedd o ddiwedd rhyfeloedd Napoleon hyd agoriad y rheilffyrdd ym mhedwardegau'r ganrif.

Ond nid pawb a gymeradwyai'r drefn hon o bregethu teithiol, oblegid rhoddai gyfle i rai cymeriadau digon brith ac annheilwng i fanteisio ar garedigrwydd yr eglwysi, a daeth amryw o 'wŷr y gwithe allan o waith yn crwydro'r wlad i bregethu' yn destunau gwawd a dirmyg.

Gwaetha'u modd nid oes llawer o orielau sy'n ddigon dewr i ddangos cylfyddyd fel hyn sy'n fwriadol Gymreig, yn hytrach na dangos sioeau diogel ac arddangosfeydd teithiol parod o'r South Bank.

Wrth gwrs, nid pawb sydd o fewn cyrraedd i lyfrgell, ac mae'r Gwasanaeth yn darparu rhwydwaith o lyfrgelloedd teithiol ar gyfer y rhai hynny sy'n byw mwy na dwy filltir o adeilad llyfrgell.

Cais llawn - bloc toiledau ar gyfer safle gwersylla a charafanau teithiol I ganiatau cynllun diwygiedig.

Bydd blychau Cymorth Cyntaf yn cael eu darparu a'u cynnal a'u cadw ym mhob swyddfa ac ar gyfer pob swyddog teithiol yn unol â'r Rheolau Cymorth Cyntaf.

Y TRINIWR GWALLT TEITHIOL gan Mike Larkin (Dysgwr)