Dyna'r foment y teimlodd Kate bach, morwyn Tyndir, un o'r teithwyr, y byddai hi wedi bod yn ddoethach iddi fod wedi gwrando ar gyngor ei mam a hepgor y Palladium y noson honno.
Glaniodd y teithwyr, gan adael y gyrrwr a'r dyn tân ar y trên.
Hefyd, bwriedir adeiladu arosfan bws ar gyfer teithwyr i Rhuthun.
Un tro, tra'n teithio mewn bws o Luimneach i Tra/ Li, safodd y bws mewn tref fechan, a dyma'r gyrrwr yn sefyll yn y blaen a chyhoeddi wrth y teithwyr "There will be a short wait of about twenty minutes to wait for a connection", ac allan â fo o'r bws.
Ond mae teithwyr yn cael cynnig mynd ar fws arbennig sydd yn mynd â nhw i ganol y brifddinas.
Adroddwyd straeon lawer wrthyf am y mulod hynny, ac un wraig a gymerth ataf lun, ar ba un yr oedd y teithwyr oddi mewn i'r trên, a mul yn eistedd ar y llwyfan y tu allan i'r cerbyd, ac yn ôl a welwn i yr oedd y mul yn dangos cymaint boddhad â'r bobl wrth deithio.
Yn ôl teithwyr ac anturiaethwyr sydd wedi eu clywed nhw, mae eu sgrechfeydd yn ddigon i godi gwallt pen y dyn dewraf.
Tra yn byw yno, bu cartref Mrs Freeman yn lety i lawer o'r teithwyr blin rhwng Dyffryn Camwy a'r Andes.
Bob tro yr agorem ddrws ein gwesty yn Siem Reap fe'n cipiwyd i fyny ar amrantiad i ganol haid o feicwyr ieuainc stwrllyd a chanddynt foduron ar eu beiciau a cherbyd bach ynghlwm wrth bob beic i gludo teithwyr oddi amgylch.
Cau rheilffordd y Mwmbwls, y gwasanaeth rheilffordd cyntaf yn y byd i gario teithwyr.
Yn gam a menyw ac yn gam ag un o'r 'teithwyr'.
Fe'i teimlai'i hun yn gymysgedd o Fadog a Cholumbus wrth gerdded y bwrdd yn dalog ar ei ben ei hun a gwau'i ffordd yn hunanymwybodol trwy rwydwaith y teithwyr eraill.
'Tasa hi'n ola' dydd a finna' ar 'y nhraed, mi faswn i'n 'nabod Pen Cilan 'ma fel cefn fy llaw.' 'Wel diawl, gwaeddwch os gwelwch chi o yn rwla.' 'Mi 'na i, Ifan Ifans.' Oherwydd eu difyrrwch wrth weld hwch a'i pherchennog yn eistedd yn y sêt flaen bu'r teithwyr yn hir cyn sylweddoli bod y Paraffîn wedi cymryd tac gwahanol a'u bod bellach yn pellhau oddi wrth y pictiwrs yn hytrach na dynesu ato.
Trwy wneud hyn, wrth gwrs, roeddynt yn mentro i fyd o eira a rhewfryniau, ac yn nyddiaduron teithwyr y cyfnod cawn lu o gyfeiriadau at y cyffro ofnadwy yn eu mysg wrth edrych allan a gweld eu llongau yng nghanol cylch oi rewfryniau uchel.
Pranciodd y llong fel march piwus, llamsachus trwy'r cawodydd o ewyn hallt nes gyrru'r teithwyr ansicr i lawr i noddfa'r salŵn.
Ar nifer o'r mordeithiau hynny, os digwyddai anhap neu salwch i un o'r teithwyr, Doctor Jones, yn rhinwedd ei swydd, fyddai meddyg swyddogol y llong.
Yn aml, gwelir medalau Sant Christopher neu bedol ar gar er mwyn cadw pob anlwc draw oddi wrth y teithwyr ynddo.
Un o'r 'teithwyr' yw hi, y 'tinceriaid' gynt.
Gwell oedd ganddi lymeitian wrth y bar a tharo sgwrs efo teithwyr eraill.
Yn wyneb dioddefaint rhai o'r teithwyr a oedd mewn cerbydau trên o hyd, cytunodd y Pwyllgor Streic i annerch y dyrfa.
Pobl groesawus yw'r Uzbek ac y mae'r chai, sef y paned te, yn nodwedd syml o'u croeso a'u traddodiad fel teithwyr y steppe a'r anialwch.