Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

teliesyn

teliesyn

Nos Sadwrn, Rhagfyr 23 ar S4C dangosir Nadolig y Paith. Rhaglen gan Teliesyn yn dangos sut y daeth aelodau gwahanol gorau gannoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ynghyd i ganu offeren go arbennig.

Breuddwyd y ddiweddar Shân Emlyn, cyn gadeirydd Cymdeithas Cymru Ariannin, oedd ffilmio'r Misa Criolla a Mary Simmonds a Ceri Sherlock o gwmni teledu Teliesyn sy'n llafurio ers dyddiau yng ngwres Rhagfyr i droi'r freuddwyd yn rhaglen deledu.