Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

terfyn

terfyn

Begw a finna' sy'n byw yn yr hen le bach 'na ar y terfyn i chi.

Mae'n syn i'r golygydd ddweud 'y gerdd bwysicaf yn y casgliad hwn yw 'Gweddi'r Terfyn' gan nad oes yma ysgrif ar y gerdd honno; gallesid cynnwys ysgrifau DZ Phillips a SL ei hun o'r Tyst.

Daeth terfyn ar y drefn seml hon pan wnaed y pastynwyr yn arglwyddi ac iddynt hwythau wneud deddf i roi pen ar y fath arferiad barbaraidd ac amharchus.

Give me my myni and I went." Ond daeth terfyn ar ddibyniaeth dyn ar y ceffyl.

Ond cyn cyrraedd y terfyn hwnnw rhaid i Rafe syrthio mewn cariad ag Evelyn (Kate Beckinsale) nyrs brydweddol y mae ei gwefusau cyn goched â'r haul a'i belydrau cochion ar faner wen Siapan.

Rhoddwyd terfyn ar drochi gorfodol gan y llywodraeth ddwy flynedd yn ol ac y mae pob corff sy'n ymwneud a defaid wedi condemnio cynnydd yn y clafr a ddigwyddodd oddi ar hynny.

Bydd y tîm dan 21 oed yn chwarae'n erbyn yr Wcrain y prynhawn yma, ac yn gobeithio rhoi terfyn ar eu record drychinebus o golli'n ddiweddar.

Ni fu Anti yn hir cyn rhoi terfyn ar fy ymdrechion!

Eu llosgi'n ulw a'r mwg yn ymlwybro hyd y bryniau fel trafaeliwr angau yn sūn clindarddach y fflamau, nes bod popeth a phobman yn ddu, y tân sy'n llosgi'r cyfan yn fud a'r holl sioe yn stopio'n bwt ym môn y clawdd terfyn.

Ddarllenwr annwyl, dywedaf wrthych ei bod yn anodd iawn i un dyn roi terfyn ar ganu clwb rygbi heb achos go dda!

Mi ragdybiaf hefyd y bydd terfyn ar y Gymraeg yn iaith fyw, ond parhau'r tueddiad presennol, tua dechrau'r unfed ganrif ar hugain, a rhoi bod dynion ar gael yn Ynys Prydain y pryd hynny.

Cynhyrfwyd Newman ac aeth i weld yr esgob a chynnig rhoi terfyn ar eu cyhoeddi.

Pedair blynedd a barhaodd hwn er hynny gan i long y cwmni suddo mewn storm enbyd gerllaw Lerpwl ac oherwydd hynny daeth terfyn ar yr holl weithgaredd.

Tybed ai'r llanc ieuanc a fu'n canu am dd^wr a fydd y dyn i roi terfyn ar y glastwreiddio hwn a dweud nad yw'r Sianel eisiau bod yn Sais?

Bu'r Saeson wrthi am flynyddoedd yn ceisio rhoi terfyn ar yr iaith, fel y mae ymerodraethau ledled y byd wedi ceisio tacluso'u trefedigaethau trwy orfodi unffurfiaeth arnynt.

O'r diwedd dedfrydwyd Sidley i ddeng mlynedd o garchar, gan roi terfyn ar y bartneriaeth rhyngddo a Harrison.

Ai ei hunig amcan yw cefnogi ymgais yr IRA i roi terfyn ar oruchafiaeth Llundain yn Ulster trwy losgi, bomio a saethu?

Wrth gwrs mae'n amhosib troi y tap i ffwrdd, fel y gellir rhoi terfyn ar gynnyrch diwydiannol.

Y peth mwyaf dramatig ymhlith yr achosion hyn oedd gwaith Ferrar yn ceisio rhoi terfyn ar yr ymgecru rhyngddo a'i swyddogion trwy apelio at Lys Mainc y Brenin i ddyfarnu ar ei hawliau fel esgob.

Gobeithiwn y byddai hyn yn rhoi terfyn ar ddatblygiadau di-anghenraid mewn gwahanol ardaloedd.

Sylweddolodd mai ysgyfarnogod oedd yn peri'r golled a gosodwyd maglau yn y gwrych terfyn.

Ar un olwg trugaredd yw rhoi terfyn ar yr ing trwy roi terfyn ar eu bywyd.

Tua un o'r gloch y bore, codais a rhoi terfyn ar y noson lawen neu chawn i fawr o waith allan o'r bechgyn yn y bore.

Ymhen rhyw ddwy filltir o Abergwesyn daw terfyn ar y coed gleision yr ochr draw i'r afon a daw llechwedd noeth Cein Alltwinau, a'r gwrychyn o graig ar ei war, i'r golwg.