Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

terfynol

terfynol

Patrick Kluivert sgoriodd bedair o'r goliau - record yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop - a Marc Overmars gafodd ddwy arall.

Mae Jamaica yn whare'n aml a maen nhw wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn y gorffennol, meddai John.

Y sgôr terfynol oedd 24 - 12.

GWERTHUSO: Tuedda buddiannau adennill tir i or-bwyso'n erbyn y costau, yn amodol ar gorffori materion yr amgylchedd yn ystod y cyfnod o ddylunio a chynllunio, yn hytrach na meddwl amdanynt fel elfen atodol i'w chyplysu ar y diwedd, ac yn amodol hefyd ar werthuso effaith yr holl waith arfaethedig ar yr amgylchedd, a phwyso honno'n erbyn y defnydd terfynol arfaethedig cyn cychwyn, neu hyd yn oed gynllunio, unrhyw waith.

Yr hanner munud hwnnw fydd y prawf terfynol fod ein dyn ni wedi bod yn y fan a'r lle.

Nod Terfynol Lleoliad

A bydd De Korea ynghyd â Siapan yn cynnal rowndiau terfynol Cwpan y Byd mewn dwy flynedd.

Tua tri mis i gynhyrchu'r drafft cyntaf ond bu rhaid addasu saith neu wyth o weithiau cyn cyrraedd at y drafft terfynol.

"Gyda'r stori fer, mae'n rhaid ergydio'n uniongyrchol, cadw'r tyndra'n gyson, creu amrywiaethau'n gynnil a delicet tu hwnt (os am greu amrywiaethau o gwbl) a sicrhau fod y cynnyrch terfynol mor orffenedig â thelyneg neu englyn.

Ar ôl colli yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd mae gobeithion Cymru o gyrraedd y rowndiau terfynol wedi pylu, Ond nid yw Ryan Giggs wedi anobeithio'n llwyr.

Oherwydd nad oes angen unrhyw ddatblygu cemegol ac argraffu i wneud y lluniau terfynol fe all y cynhyrchydd chwarae'r deunydd newydd ei recordio yn ôl yn y man a'r lle i sicrhau fod yr ansawdd o safon dda.

Mae llywydd FIFA Sepp Blatter wedi dweud mai Affrica fydd yn cynnal rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn y flwyddyn 2010.

Rhaid i dîm Mark Hughes ennill y gêm ragbrofol hon yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd, os oes unrhyw obaith iddyn nhw gyrraedd y rowndiau terfynol.

Hwnnw fydd y Llys terfynol oll y mae'n bosibl apelio ato.

Mae adroddiadau bod Brazil ar fin tynnun ôl eu cais i gynnal rowndiau terfynol Cwpan Y Byd 2006 ac y byddant yn cefnogi cais De Affrica yn lle hynny.

Efallai mae gwendid sylfaenol y cynnig yw diffyg adnoddau Gogledd Iwerddon ar angen i berswadio UEFA i ganiatau pedair gwlad i fod yn y rowndiau terfynol fel timau cartref.

Casgliad terfynol y pwyllgor ymchwil oedd mai eiddigedd Badshah tuag at ei gymwynaswr mawr Pengwern, oedd y tu ôl i'r holl gyhuddiadau.

Yn wyneb y fath benderfyniad nid oedd yn syndod fod pobl wedi rhyfeddu pan glywsant y ffigurau terfynol.

Rhaid cofio ei bod yn bosibl i'r amcangyfrif ei hun fod yn ddiffygiol, a bod angen ei gywiro cyn symud ymlaen i gymharu'r cyfrifon terfynol ag ef.

Bydd tîm saith bob ochr Cymru yn cystadlu yn rowndiau terfynol cwpan y byd yn yr Ariannin fis Ionawr ar ôl ennill cystadleuaeth Heidleberg ddoe.

Os ceir y dyfarniad terfynol yn Lwcsembwrg þ ac rwy'n hyderus yr aiff Cyngor Gwynedd â'r mater i'r eithaf Ewropeaidd, os bydd raid þ bydd y dyfarniad hwnnw'n un tyngedfennol i'n dyfodol ni fel Cymry.

Perfformiodd Delyth ar ei chlarinet mewn cyngerdd terfynol yng Nghastell Penrhyn, gyda chwech o gystadleuwyr eraill.

Ar ôl llwyddiant rownd derfynol Cwpan Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, mae gobaith y gellir denu rhagor o brif rowndiau terfynol pêl-droed iddi.

Dim ond dau dîm oedd i gael mynd ymlaen i'r rowndie terfynol.

Dyna hefyd oedd barn yr Ysgrifennydd Cyffredinol (er ei fod yn gwybod beth fyddai'r effaith ar ei gyflog terfynol).

'Does neb o'r Weriniaeth wedi cyrraedd y llwyfan terfynol ers Patricia Bardon yn 1983.

Mae tîm pêl-droed Cymru'n wynebu wythnos hollbwysig yn eu hymdrech i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Cyhoeddir enw enillydd pob noson ac ar ddiwedd nos Iau, cyhoeddir enwau'r pum cystadleuydd fydd yn ymddangos ar y llwyfan terfynol nos Sadwrn.

O gwmpas hanner dydd bydd FIFA yn cyhoeddi ym mhle y cynhelir rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2006.

Eisoes mae Cyngor Dinas Bangor wedi gwrthod rhoi caniatad cynllunio i godi siopau ar y cae er mai gan Gyngor Arfon y mae'r hawl terfynol.

Wrth i'r arweinwyr ffarwelio â'i gilydd mae eu swyddogion yn rhuthro allan gyda chopi o'r datganiad terfynol - ychydig baragraffau fel arfer y bu cryn chwysu drostyn nhw er mwyn sicrhau fod pob gair, yn llythrennol felly, yn ei le ac yn dderbyniol i'r Dwyrain a'r Gorllewin.

Nid o reidrwydd y pum enillydd bob nos fydd yn ymddangos ar y llwyfan terfynol, ond y pump a roddodd perfformiadau gorau yn ystod yr wythnos.

Bydd y clybiau, heddiw, yn clywed penderfyniad terfynol Undeb Rygbi Cymru ynglyn â'r nifer o glybiau o Gymru fydd yn y Cynghrair Celtaidd y tymro nesa.

Mae ymdrech ar y cyd ar droed gan Gymdeithasau pêl-droed Cymru, Yr Alban ac Iwerddon i gynnig cynnal rowndiau terfynol pencampwriaeth Euro 2008.

Os byddwch yn absennol am fwy na saith niwrnod calendr byddwch yn cyflwyno tystysgrif meddygol a bydd gofyn cael tystysgrifau meddygol pellach nes y bydd tystysgrif terfynol yn caniatau i chi ddychwelyd i'ch dyletswyddau arferol.

Ond mi fydd na gyfnod o ymgynghori cyn i OFWAT gyhoeddi'u casgliadau terfynol.

Yna daeth y gorchymyn terfynol.

Yr oedd staff yr Adran Iechyd Amgylchedd wrthi'n cywiro'r adroddiad drafft a dderbyniwyd gan NURAS a phan dderbynnid yr adroddiad terfynol fe anfonnid copi ohono i'r Swyddfa Gymreig ac i'r Aelod Seneddol.

Roedd hyn yn cadarnhau penderfyniad Katherine Harris, Ysgrifennydd Gwladol Florida, i gyhoeddi canlyniad terfynol ar gyfer Florida, a'r Ty Gwyn, ddydd Sadwrn, nes y cafwyd penderfyniad y Barnwr Lewis.

Cyflawnwyd motifau prynedigol yr Hen Destament yn ufudd-dod ac aberth terfynol Crist er iachawdwriaeth dyn.

Bydd angen negydu a chytuno ar y nodau terfynol ar gyfer y lleoliad gyda'r sefydliad croesawu a bydd hynny'n un o ganlyniadau'r cyfarfod cyn-leoli.

Teg yw nodi fo Collingwood, er gwaethaf ei ddamcaniaeth Rufeinig, o'r farn fod cynnydd wedi bod mewn 'Celtigrwydd' yn y blynyddoedd o flaen cyfnod Arthur, ac awryma fod Arthur wedi gwneuthur ei safiad buddugoliaethus terfynol yn erbyn y Saeson mewn caer Frythonig debyd i Cissbury ar y South Downs.

Yn awr fe gyfyngir yn llym ar y nifer o wledydd Affricanaidd a geir yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Bryd hynny mae'n ofynnol i'r gohebydd fod yn arbenigwr ar wneud rhyw fath o jig-so, ac yn bwysicach fyth ei fod yn cael blas ar osod ambell ffaith yma a thraw mewn darlun aneglur cyn bod y darnau i gyd yn disgyn i'w lle yn y cynadleddau terfynol i'r wasg.

Nid hap a damwain yw'r ffaith i gwmni Eingl-Gymreig o Aberystwyth gyrraedd prawf terfynol yr þyl Brydeinig un act am y tair blynedd diwethaf ac ennill ddwywaith yn olynol.

Yn lle torri darnau o'r tâp a'u gosod wrth ei gilydd yn y drefn derfynol - fel y byddai'n rhaid gwneud gyda ffilm sine neu dâp awdio ar gyfer darlledu radio - caiff pob dilyniant ei drosglwyddo o'r tâp gwreiddiol i'r tâp terfynol, gan ryddhau'r tâp gwreiddiol i'w ail-ddefnyddio.

Fe yw'r rheolwr y tro yma ac yn ddios bydd e'n arwain dewis terfynol Graham Henry gyda'r gobaith o greu'r un anian a chreu Llewod llwyddiannus.

Mae Mr Morgan wedi gofyn i swyddogion baratoi adroddiad ar y sefyllfa ac ar ei holl opsiynau cyn iddo wneud penderfyniad terfynol erbyn diwedd mis Mehefin.

Eleni cynhaliwyd trafodaethau rhwng swyddogion y Swyddfa Gymreig a PDAG ar raddfa ehangach na'r blynyddoedd cynt cyn y cafodd y dyraniad terfynol ei gyhoeddi, a da oedd clywed fod " y Gweinidogion yn ddiolchgar am y cyngor y bu i chi ei roi wrth ein helpu i ddod i'r penderfyniadau hyn.

Pe bai angen, gellid cynnal ymchwiliad cyhoeddus gan archwiliwr annibynnol, a byddai ei argymhellion ef yn cael eu hystyried gan yr ysgrifennydd gwladol, pan ddaw yn bryd gwneud y penderfyniad terfynol.

o fudd mawr i'r dyfodol: ...fel y daw'r staff yn fwy hyddysg yn y CC..., fel y newidia aelodau'r adran...edrych ymlaen i gyhoeddi'r deunydd terfynol...o'i ddarllen yn hamddenol pan gai gyfle yn y gwaith.

* trafod y nodau terfynol ar gyfer y lleoliad gyda phawb sy'n gysylltiedig ag ef.

Y mae gan y golygydd gyfrifoldeb terfynol am newyddion a ddarllenir fel arfer gan rywun arall.